Cofrestru Genedigaeth
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut i gofrestru genedigaeth plentyn. Gweler hefyd: Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, Priodi, Mannau Lle y Cewch Chi Briodi, Rhestr Atgoffa i Rai sy’n Priodi
Rydw i newydd ddod yn rhiant. Beth sydd angen i mi ei wneud i gofrestru fy mhlentyn yn swyddogol?
Llongyfarchiadau! Bydd eich bydwraig yn rhoi taflen i chi o’r enw ‘Cofrestru Genedigaeth Baban’ sy’n egluro ble y cewch chi gofrestru eich plentyn a pha wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu.
A oes rhaid i mi gofrestru’r baban yn yr ardal lle cafodd ei eni?
Oes – mae’n rhaid i chi gofrestru genedigaeth eich baban yn yr ardal lle cafodd ei eni. Felly os cafodd eich baban ei eni yn Ysbyty Tywysoges Cymru neu gartref yn unrhyw le o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd angen i chi gofrestru’r enedigaeth yn un o’r mannau canlynol:
- Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, dydd Llun – dydd Gwener rhwng 9.30am a 4pm.
- Eglwys y Drindod ym Mhorthcawl, dydd Llun yn unig rhwng 10am a 12.30pm.
- eg Maesteg yn Stryd y Castell, Maesteg, dydd Mawrth rhwng 9.30am ac 1pm a dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yn unig.
- Canolfan Bywyd y Pîl, y Pîl, dydd Iau yn unig rhwng 2.30pm a 3.30pm. Cofiwch fod yn rhaid gwneud apwyntiad yn y lleoliad hwn, felly ffoniwch (01656) 642391 i wneud y trefniadau angenrheidiol yn gyntaf.
Beth os bydd hi’n rhy anodd i mi gyrraedd unrhyw un o’r lleoliadau hyn?
Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd swyddog yn ceisio trefnu lleoliad arall sy’n fwy cyfleus. Dyma’r manylion cyswllt:
Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Ty'r Ardd
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AR
Rhif ffôn: (01656) 642391
Rhif ffacs: (01656) 642389
E-bost: registrar@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 15/03/2011
- Rate this page
- Back to top







