Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr
|
| |
|
||
|
||
|
||
|
||
|
||
|
||
|
||
Hanes y Farchnad yn Gryno
Mae Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr mewn man amlwg iawn yn sector manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Siopa Rhiw sy’n ffinio â Caroline Street, Nolton Street a Queen Street. Mae’r Farchnad ar y llawr gwaelod, gyda mynediad i’r islawr oddi tanodd, a mynediad i gerbydau i Queen Street. Isod nodir rhai ffeithiau diddorol am hanes hir y Neuadd Farchnad Dan Do, yn dyddio o’r adeg y’i sefydlwyd ym 1837.
1836 |
Pasiwyd Deddf Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr i glirio’r marchnadoedd amaethyddol a da byw o’r strydoedd o amgylch Neuadd y Dref. |
1837 |
Agorwyd y Neuadd Farchnad newydd ar Ŵyl Fair y Cyhydedd. Fe’i codwyd gan Iarll Dwn-rhefn neu ei gyndadau ar safle’r hen gyrtiau tennis, a ddaeth wedyn yn Westy’r Tennis Court yn Caroline Street. Erbyn hyn, Seconds Ahead sydd yno. |
1906 |
Parhawyd i ddefnyddio’r Neuadd Farchnad nes iddi gael ei disodli gan Neuadd Farchnad newydd, a oedd yn gyfan gwbl dan do. |
1908 |
Cynhaliwyd Eisteddfod Fawreddog yn y Neuadd Farchnad ar ddydd Gŵyl San Steffan. |
1955 |
Prynodd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr y Neuadd Farchnad oddi wrth Dunraven Estates Cyf. |
1972 |
Caeodd y Neuadd Farchnad yn Caroline Street a gadawodd y stondinwyr olaf ddiwedd mis Mai 1972. Cafodd y Neuadd ei dymchwel ym mis Mehefin 1972 a hithau wedi sefyll er 1906. Agorodd y Farchnad newydd ddydd Llun 15 Mai 1972. |
1996 |
Ar 1 Mawrth 1996 cafodd hen gloch y farchnad, a oedd yn 130 oed, ei hailgodi. Datgelwyd bod y gloch wedi bod yn gorwedd yn segur yn un o ddepos y Cyngor ers i’r hen farchnad gael ei dymchwel ym 1972. |
Ble mae dod o hyd inni
Cyfarwyddiadau o Gyffordd 36, Traffordd yr M4
Gadewch Draffordd yr M4 ar Gyffordd 36 a dilynwch yr arwyddion am Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Cymerwch yr 2il ffordd oddi ar y gylchfan i fynd ar yr A4061 (Ffordd Ddosbarthu Ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr) a daliwch i fynd ar hyd y ffordd gan ddilyn yr arwyddion am Ben-y-bont ar Ogwr (yn syth ymlaen drwy’r cylchfannau). Wrth y goleuadau traffig, ewch yn syth ymlaen heibio adeilad newydd Gorsaf Fysiau Pen-y-bont a chymerwch y ffordd 1af oddi ar y gylchfan. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol a chymerwch y troad 1af i’r chwith wrth y goleuadau traffig. Daliwch i fynd heibio i Swyddfeydd y Cyngor (Stryd yr Angel) sydd wedi’u lleoli ar y llaw dde a throwch i’r chwith wrth y goleuadau traffig i Faes Parcio Rhiw. Mae’r Farchnad a Chanolfan Siopa Rhiw ar y chwith.
Oriau Agor a Chau
|
Llun |
9.00 am - 5.00 pm |
|
|
Mawrth |
9.00 am - 5.00 pm | |
|
Mercher |
9.00 am - 4.30 pm | |
|
Iau |
9.00 am - 5.00 pm | |
|
Gwener |
9.00 am - 5.00 pm | |
|
Sadwrn |
9.00 am - 5.00 pm |
Gwybodaeth Gyffredinol
|
Gweithredwr: |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Nifer y stondinau: |
36 |
|
Diwrnodau’r farchnad: |
Dydd Llun – Dydd Sadwrn |
|
Maint y stondinau: |
Amrywiol |
|
Rhent: |
I’w drafod |
|
Codi’ch stondin eich hun: |
Ni chaniateir hynny |
|
Achlysurol: |
Ni chaniateir hynny |
|
Arddangoswyr: |
Ni chaniateir hynny |
|
Tâl gwasanaeth: |
Nac oes |
|
Casgliad sbwriel: |
Oes |
|
A ganiateir faniau: |
Cilfachau llwytho ar yr islawr (llwytho a dadlwytho’n unig), Dim parcio |
|
Cyswllt: |
Desg gymorth eiddo Rhif ffôn: 01656 642700 |
Swyddfa Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 659154 |
Sut mae gwneud cais am stondin yn y farchnad?
Llenwch y ffurflen gais a dychwelwch hi i’r cyfeiriad isod:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y Gwasanaethau Eiddo
Cwrt y Cigfain
Lôn y Bragdy
PEN-Y-BONT AR OGWR
CF31 4AP
Rhif ffôn: 01656 642700
Rhif ffacs: 01656 642432
E-bost property@bridgend.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu â ni.

Cynllun y Farchnad
Edrychwch ar Gynllun Llawr y Farchnad (pdf)
Stondinau yn y Farchnad
STONDIN |
ENW’R STONDIN |
MATH O STONDIN |
Stondin 1 |
Melysion ac amrywiaeth eang o dybaco | |
Stondinau 2/3 |
Siop cigydd | |
Stondin 4 |
Cyflenwi’r rhan fwyaf o beiriannau tŷ | |
Stondin 5 |
Lle trin gwallt a gwneud tyllau clustiau | |
Stondin 6 |
||
Stondin 7 |
Atgyweirio ffonau symudol ac ategolion | |
Stondin 8 |
Dylunio, argraffu a chyfryngau, dillad wedi’u personoli, anrhegion a stiwdio ffotograffig | |
Stondinau 9/25 |
The Market Bistro |
Caffi a Bwyd Cludo Allan |
Stondinau 10/11 |
Caffi | |
Stondin 12 |
Daisy Chainz |
Rhoddian |
Stondin 13 |
Bwydydd Iach Mediteranaidd a chynnyrch cysylltiol | |
Stondin 14 |
||
Stondin 15 |
Market Bakery |
Bara a chacennau ffres |
Stondin 16 |
Gemwaith arian Mecsicanaidd | |
Stondin 17 |
Nwyddau aur Clogau a watsys Swatch | |
Stondin 18 |
Bwyd cludo allan | |
Stondin 19 |
Delicatessen | |
Stondin 20 |
Salad Bar |
Saladau ffres, tatws pob, adenydd cyw iâr poeth... |
Stondin 21 |
Ffrwythau a Llysiau | |
Stondinau 22A a 36 |
Manion gwnïo a Newidiadau Teilwra | |
Stondin 22B |
Sanau, hosanwaith, dillad isaf a dillad nos | |
Stondin 22C |
Cyfarpar coginio/gwneud cacennau, bragu cartref a manion addurno | |
Stondin 23 |
Tsieina ac Anrhegion | |
Stondin 24 |
Esgidiau | |
Stondin 26 |
Melysion a Diodydd | |
Stondin 27 |
Llyfrau ail law | |
Stondin 28 |
Rygiau a matiau i’r tŷ | |
Stondinau 29/30 |
Nwyddau Anifeiliaid Anwes a Nwyddau Gardd | |
Stondin 31 |
Watsys, clociau, atgyweirio, trin ac anrhegion | |
Stondinau 32 a 35 |
Bar Ewinedd | |
Stondin 33 |
Y blwch colur |
|
Stondin 34 |
Caledwedd cyfrifiadurol a gwasanaeth atgyweirio |
Gwybodaeth Ychwanegol a Nodweddion
Mae Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amgylchedd siopa cyfforddus a dymunol ers i system aerdymheru gael ei gosod.
Beth am gael tynnu’ch lluniau pasport tra byddwch yn siopa? Mae’r peiriant wedi’i leoli wrth y fynedfa grisiau.
- Last Updated: 21/05/2012
- Rate this page
- Back to top









