Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Y Dreth Gyngor

Sut i dalu eich treth gyngor

Mae eich rhandaliadau yn daladwy ar neu cyn y 15fed o bob mis oni bai eich bod yn talu drwy ddebyd uniongyrchol. Byddwch yn gwneud eich taliad cyntaf fel arfer ym mis Ebrill, gyda naw rhandaliad arall i ddilyn.

Dulliau o Dalu:

Dros y Rhyngrwyd

Defnyddiwch y ddolen ar wefan y Cyngor www.bridgend.gov.uk a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich cyfeirnod treth gyngor (oddi ar eich bil treth gyngor) yn ogystal â’ch cerdyn debyd neu gredyd wrth law.

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd fwyaf cost effeithiol o dalu

Dewis o 4 dyddiad talu

Dim ciw

Gallwch drefnu debyd uniongyrchol dros y ffôn drwy ffonio (01656) 643391 a gall y staff eich helpu, neu os yw’n well gennych gallwch argraffu gorchymyn debyd uniongyrchol i’w lenwi a’i ddychwelyd atom.

 

Swyddfa’r Post

Rhaid i chi fynd â’ch bil, cerdyn talu neu unrhyw lythyr a gawsoch gennym ni sydd â chod bar arno.

Gallwch dalu mewn unrhyw swyddfa bost

Os bydd arnoch angen rhywbeth ar gyfer talu anfonwch e-bost atom yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael un arall yn ei le.

 

Drwy’r Post

Anfonwch eich siec yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr at:

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Stryd yr Angel

Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 4WB

Os bydd angen derbynneb arnoch, rhaid i chi amgáu amlen â chyfeiriad a stamp arni a chofiwch ddyfynnu eich cyfeirnod treth gyngor.

Dros y Ffôn

Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd

Ffoniwch (01656) 643347

Gofalwch fod eich cyfeirnod treth gyngor 8 rhif wrth law

Neu, gallwch ffonio’r system taliadau awtomataidd dros y ffôn ar (01656) 642088.

 

Bandiau’r Dreth Gyngor

Mae eich eiddo wedi’i osod yn un o’r 9 band prisio yn seiliedig ar ei werth cyfalaf ar y farchnad agored fel ag yr oedd ar 1 Ebrill 2003. Dyma’r bandiau:

Prisiad

Ystod Gwerth yr Eiddo

Band

(Fel ag yr oedd ar 1 Ebrill 2003)

 

A

 

Hyd at £44,000

 

B

 

£44,001 a hyd at £65,000

 

C

 

£65,001 a hyd at £91,000

 

D

 

£91,001 a hyd at £123,000

 

E

 

£123,001 a hyd at £162,000

 

F

 

£162,001 a hyd at £223,000

 

G

 

£223,001 a hyd at £324,000

 

H

 

£324,001 hyd at £424,000

 

I

 

£424,001 ac uwch

Apelio yn erbyn eich band

Gallwch apelio os ydych o’r farn fod eich eiddo yn y band anghywir ond mae’r rheolau ar gyfer apelio yn llym. Ni chaniateir gwneud apeliadau ar sail newidiadau cyffredinol mewn prisiau tai ac mae’n rhaid i chi apelio o fewn chwe mis ar ôl prynu’r eiddo. Bydd rhaid i chi ddangos y bu camddealltwriaeth ynghylch gwerth eich eiddo. Dylid anfon yr holl ymholiadau at:

Y Swyddog Rhestru

Swyddog Prisio,

Tŷ Rhodfa,

Tŷ Glas Road,

Llanisien,

Caerdydd

CF4 5GR.

Rhif ffôn: (029) 20806 800

Gwefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio http://www.voa.gov.uk/

 

SYLWER: Nid yw’r ffaith eich bod yn gwneud apêl yn golygu y cewch beidio â thalu eich treth gyngor. Gwneir addasiadau os bydd eich apêl yn llwyddiannus.

Budd-dal y Dreth Gyngor

Bydd budd-dal y dreth gyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau treth gyngor, er enghraifft os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith/Cymhorthdal Incwm neu os yw eich incwm islaw lefel benodol. Rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r cyngor er mwyn derbyn y budd-dal hwn. Anfonwch e-bost at benefits@bridgend.gov neu ffoniwch (01656) 643396 i gael rhagor o wybodaeth. Cofiwch nad oes gennych hawl i beidio â thalu’r dreth gyngor wrth i’ch cais gael ei asesu.

 

Y dreth gyngor yn ôl y band eiddo ar gyfer 2012/13

Y dreth gyngor yn ôl y band eiddo 2011 – 2012.

Band eiddo'r Dreth Gyngor 2012-2013

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu?

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad dyledus efallai y caiff nodyn atgoffa ei anfon. Rhaid talu o fewn saith niwrnod i dderbyn nodyn atgoffa, neu bydd rhaid talu’r swm llawn sydd heb ei dalu. Os na thelir y swm llawn yna anfonir gwŷs, a chodir costau am hyn.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod y sefyllfa.

 

Gostyngiadau

Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo gellir cael gostyngiad o 25%. Os mai chi yw’r unig berson dros 18 mlwydd oed yn eich eiddo ac nad ydych yn derbyn gostyngiad ar hyn o bryd, anfonwch e-bost at swyddfa’r dreth gyngor yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael rhagor o wybodaeth.

Gellir diystyru pobl yn y categorïau canlynol at ddibenion y dreth gyngor ac felly gallai gostyngiad o 25% - 50% fod ar gael.

Myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, rhai sydd ar gynlluniau hyfforddiant ieuenctid a phrentisiaid

Cleifion mewn ysbyty

Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal

Pobl sydd â nam meddyliol difrifol

Pobl sy’n aros mewn hosteli neu lochesi dros nos penodol

Pobl deunaw a phedwar ar bymtheg mlwydd oed sydd yn yr ysgol neu newydd adael yr ysgol

Gweithwyr gofal ar gyflog isel, sy’n cael eu cyflogi gan elusen fel arfer

Pobl yn y carchar

Aelodau o gymunedau crefyddol h.y. mynachod a lleianod

Pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd nad ydynt yn briod neu’n bartner iddynt, nac yn fab neu’n ferch dan ddeunaw mlwydd oed.

Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad anfonwch e-bost at swyddfa’r dreth gyngor yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael rhagor o wybodaeth.

Eithriadau

Mae rhai anheddau wedi’u heithrio rhag talu’r dreth gyngor. Os yw’r cyngor wedi nodi bod eich annedd chi wedi’i heithrio, yna dangosir cod ar eich bil sy’n rhoi’r rheswm dros yr eithriad a chyfnod yr eithriad. Dyma’r dosbarthiadau sydd wedi’u heithrio:

Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich hawl i gael eich eithrio. Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael eich eithrio anfonwch e-bost at swyddfa’r dreth gyngor yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael rhagor o wybodaeth.

Gostyngiad anabledd

Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi angen ystafell neu le ychwanegol oherwydd anabledd, gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich bil treth gyngor os oes cyfleusterau penodol yn yr eiddo.

Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod ag o leiaf un o’r canlynol:

 
  1. Ystafell ymolchi ychwanegol
 
  1. Cegin ychwanegol
 
  1. Cadair olwyn sy’n cael ei defnyddio y tu mewn i’r eiddo
 
  1. Ystafell wedi’i neilltuo i ddiwallu anghenion y person anabl

Mae’r gostyngiad yn cymryd bod eich cartref wedi’i brisio yn y band is na’r hyn a ddangosir yn y rhestr. Bydd eiddo Band A yn derbyn gostyngiad sy’n gyfystyr â 1 rhan o 9 o eiddo Band D.

Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad anfonwch e-bost at swyddfa’r dreth gyngor yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael rhagor o wybodaeth.

 

Symud tŷ

Bydd arnom angen gwybod:

Eich enw llawn

Eich cyfeiriad blaenorol a’ch cyfeiriad newydd

Eich cyfeirnod treth gyngor blaenorol

Dyddiad symud

Enw a chyfeiriad eich landlord os yw’r naill eiddo neu’r llall yn cael ei rentu, neu enw a chyfeiriad y cyfreithwyr a ddefnyddir os yw’n cael ei werthu/brynu.

Cysylltwch â ni yn yr Adran Drethi, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB. Rhif ffôn: (01656) 643391 neu anfonwch e-bost at ctaxen@bridgend.gov.uk

 

Cwynion

Os oes gennych unrhyw gwynion ynghylch eich cyfrif treth gyngor cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod y mater. Ein nod yw datrys pob cwyn yn effeithiol ac yn effeithlon. Os na allwn ddatrys y mater yn foddhaol mae gweithdrefn gwyno ffurfiol ar gael. Cysylltwch â’n swyddfeydd i gael rhagor o fanylion am hyn.

 

Ardrethi busnes

Sut i dalu eich ardrethi busnes

Mae pob rhandaliad yn daladwy ar neu cyn y 15fed o bob mis. Byddwch yn gwneud eich taliad cyntaf fel arfer ym mis Ebrill gyda naw rhandaliad arall i ddilyn.

Dulliau Talu:

Dros y Rhyngrwyd

Defnyddiwch y ddolen ar hafan gwefan y Cyngor www.bridgend.gov.uk a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich cyfeirnod ardreth busnes (oddi ar eich bil) yn ogystal â’ch cerdyn debyd neu gredyd wrth law.

 

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd fwyaf cost effeithiol o dalu

Dim ciw

Gallwch drefnu debyd uniongyrchol drwy ffonio (01656) 643391 a gall y staff eich helpu chi. Neu os yw’n well gennych gallwch argraffu gorchymyn debyd uniongyrchol i’w lenwi a’i ddychwelyd atom.

 

Swyddfa’r Post

Rhaid i chi fynd â’ch bil, cerdyn talu neu unrhyw lythyr a gawsoch gennym ni sydd â chod bar arno.

Gallwch dalu mewn unrhyw swyddfa bost.

Os bydd arnoch angen rhywbeth ar gyfer talu, anfonwch e-bost atom yn ctaxen@bridgend.gov.uk neu ffoniwch (01656) 643391 i gael cymorth.

 

Drwy’r Post

Anfonwch eich siec yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr at:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Os bydd arnoch angen derbynneb rhaid i chi amgáu amlen â chyfeiriad a stamp arni a chofiwch ddyfynnu eich cyfeirnod ardreth busnes.

 

Dros y Ffôn

Ffoniwch (01656) 643347

Gofalwch fod eich cyfeirnod ardreth busnes 7 rhif wrth law

Neu, gallwch ffonio’r system taliadau awtomataidd dros y ffôn ar (01656) 642088.

Gwerth Ardrethol

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n pennu gwerth ardrethol eiddo busnes. Caiff pob eiddo annomestig ei ail-brisio bob pum mlynedd. Ers 1 Ebrill 2005, mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth o ran rhent blynyddol ar y farchnad agored fel ag yr oedd ar 1 Ebrill 2003.

Ar gyfer eiddo cyfansawdd, mae’r gwerth ardrethol yn berthnasol i’r rhan annomestig yn unig.

Dangosir gwerth pob eiddo o ran pa ardrethi sy’n daladwy i’ch awdurdod ar y rhestr ardrethi lleol. Cewch weld copïau:

Drwy ymweld â swyddfeydd y cyngor yn bersonol:

Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y Swyddfeydd Prisio, Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
Neu yn: Y Swyddfeydd Prisio,
Tŷ Rhodfa, Tŷ Glas Road,
CF31 4HN
Llanisien, Caerdydd
Neu ewch i’r wefan voa.gov.uk

Cofiwch fod angen parhau i dalu ardrethi tra’ch bod yn disgwyl penderfyniad ynglŷn ag apel. Caiff eich taliadau eu haddasu os bydd eich apêl yn llwyddiannus, a byddwch yn cael ad-daliad. Efallai y bydd gennych hawl i gael llog dan amodau penodol.

 

Lluosydd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n pennu’r lluosydd ardrethi bob blwyddyn ac mae’r un fath ar gyfer Cymru gyfan. Ac eithrio mewn Blwyddyn Ail-brisio ni all godi mwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu. Y lluosydd ar gyfer 2009/10 yw 48.9c ac er mwyn canfod faint byddwch chi’n ei dalu ar gyfer blwyddyn lawn dylech luosi eich gwerth ardrethol gyda’r lluosydd.

 

Ardrethi Eiddo Heb ei Feddiannu

Fel arfer mae’n rhaid i berchenogion eiddo annomestig gwag dalu ardrethi eiddo heb ei feddiannu. Ni chodir ardreth am 3 mis ar ôl i’r eiddo ddod yn wag (6 mis ar gyfer eiddo diwydiannol) ac wedyn rhaid talu’r ardrethi’n llawn.

Ers 1af Ebrill 2009 mae trothwy’r gwerth ardrethol ar gyfer talu ardrethi gwag wedi cynyddu i £15,000, a dim ond ar gyfer eiddo gyda gwerth ardrethol dros y swm hwn y bydd yn rhaid talu ardrethi gwag am y flwyddyn 2009/10.

Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag talu ardrethi gwag er enghraifft:

 
  1. Eiddo rhestredig
 
  1. Henebion
 
  1. Pan fo’r gyfraith yn atal neb rhag ei ddefnyddio
 
  1. Pan fo’r adeilad yn rhan o ystâd rhywun sydd wedi marw, neu pan fo’r perchennog yn destun achos methdaliad
 

Gostyngiad Elusennol ac yn ôl Disgresiwn

Mae gan elusennau hawl i gael gostyngiad mewn ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu gan fwyaf at ddibenion elusennol. Rhoddir gostyngiad o 80% ar y bil ardreth. Mae gan yr awdurdodau bilio hawl i ddileu’r 20% sy’n weddill o fil elusen ar eiddo o’r fath, neu ran ohono, yn ôl eu disgresiwn. Gallant hefyd roi gostyngiad ar gyfer eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu na’u cynnal i wneud elw. Cysylltwch â’r Adran Drethi ar (01656 643391) i gael ffurflenni cais ar gyfer gostyngiad mewn ardrethi.

 

Gostyngiad i Fusnesau Bach

Ers 1 Rhagfyr 2008, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud newidiadau i’r cynllun Gostyngiad mewn Ardrethi Busnesau Bach. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2008. Mae’r cynllun bellach fel a ganlyn:

 

1) 50% o ostyngiad ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau sydd â gwerth ardrethol hyd at £2,000;

 

2) 25% o ostyngiad ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £2,001 a £6,500;

 

3) 100% ar gyfer swyddfeydd post (ac eiddo sy’n cynnwys swyddfa bost) sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000;

 

4) 50% ar gyfer swyddfeydd post (ac eiddo sy’n cynnwys swyddfa bost) sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000;

 

5) 50% ar gyfer eiddo gofal plant sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000.

 

6) 25% ar gyfer eiddo manwerthu, gan gynnwys gorsafoedd petrol a thafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,501 a £9,000.

 

7) 50% ar gyfer eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan Undebau Credyd sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000

Gwneud Cais am y Gostyngiad  

Yn achos 1, 2, 3 a 4 uchod rhoddir gostyngiad yn awtomatig, a bydd i’w weld ar yr hysbysiad sy’n galw am dalu ardrethi busnes. Fodd bynnag, rhaid i fathau penodol o eiddo busnes (h.y. y rhai sy’n seiliedig ar y defnydd a wneir o’r safle) roi gwybod i’r awdurdod lleol eu bod yn gymwys i gael gostyngiad cyn y gellir rhoi gostyngiad. Dylech argraffu a llenwi’r ffurflen i roi gwybod i ni ynglŷn â Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach a’i hanfon at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â’r dogfennau gofynnol.

 

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni yn yr Adran Drethi, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB. Rhif ffôn: (01656) 643391 neu e-bost: ctaxen@bridgend.gov.uk