Garejis/Mannau parcio i’w rhentu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn berchen ar garejis a mannau parcio ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r rhain ar gael i’w rhentu at ddiben storio cerbyd. Ni ellir rhentu garejis i storio dodrefn, offer gardd nac i’w defnyddio fel gweithdy gan fod perygl o ddifrod o ganlyniad i anwedd.
Cwestiynau Cyffredin
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ym mha ardaloedd mae gennych chi garejis/mannau parcio?
Rydym yn berchen ar garejis/mannau parcio yn yr ardaloedd canlynol. Cysylltwch â ni i gael gwybod beth sydd ar gael, a beth yw’r telerau rhentu.
Blaengarw |
David Street Greenfield Terrace Marian Street Tymeinwr Avenue |
|
Maesteg Yn cynnwys Caerau a Garth |
Albert Terrace/Neath Road Golden Terrace/Goodwin Street Penygarn Terrace Pentyla Glanavon Terrace (yn y cefn) Harvey Street |
|
Nant-y-moel |
Aber Houses (Gyferbyn) North Vale View Station Yard Stormy Lane Sunshine Cottages Waun Goch |
|
Cwm Ogwr |
Fronwen Terrace North Road Wyndham |
|
Pontycymer |
Bridgend Road Station Yard |
Mae garejis/safleoedd garejis eraill yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu gosod gan Dai Cymoedd i’r Arfordir, 1 Heol y Llys, PEN-Y-BONT AR OGWR, CF31 1BE (Ffôn: 01656 762401) neu maent mewn meddiant preifat.
Oes rhaid ichi fod yn denant Cyngor i wneud cais?
Nid oes rhaid ichi fod yn denant Cyngor i wneud cais am garej/safle garej.
Sut mae gwneud cais am garej?
I wneud cais i rentu garej/man parcio car, anfonwch gais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cwrt y Cigfrain
Lon y Bragdy
PEN-Y-BONT AR OGWR
CF31 4AP
Ffacs: 01656 642432
E-bost:property@bridgend.gov.uk
Sut mae terfynu fy nhenantiaeth ar garej?
I derfynu tenantiaeth ar garej rhaid rhoi cyfnod o fis o rybudd. Mae modd trefnu hyn drwy gysylltu â’r Adran Eiddo yn ysgrifenedig gan ddatgan ar ba ddyddiad yr ydych am i’r denantiaeth ar garej/safle garej ddod i ben.
Rhaid clirio unrhyw ôl-ddyledion rhent cyn y caiff yr hysbysiad terfynu ei dderbyn. Os ewch chi ar ei hôl hi gyda’r rhent ar unrhyw adeg, gall y Cyngor gyflwyno “Rhybudd i Adael” a gofynnir ichi dalu’r swm sy’n ddyledus. Rhaid ichi adael y garej/safle mewn cyflwr derbyniol.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cwrt y Cigfrain
Lon y Bragdy
PEN-Y-BONT AR OGWR
CF31 4AP
Ffôn: 01656 642700 neu cysylltwch â 01656 642719
Ffacs: 01656 642432
E-bost: property@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 08/07/2011
- Rate this page
- Back to top







