Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr. Gweler hefyd:
- Seremoniau Sifil ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Priodi
- Mannau Lle y Cewch Chi Briodi
- Rhestr Atgoffa i Rai sy’n Priodi
- Partneriaethau Sifil,
- Cofrestru Genedigaeth
- Trefnu Angladd
- Amlosgfa Llangrallo
- Ffïoedd ar hyn o bryd
- Cofrestru marwolaeth
Cyfarwyddiadau I Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Beth yw Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr?
Felly pam y gallai fod angen i mi gael copi o dystysgrif?
Pa ddefnydd arall sydd gan bobl i’r cofnodion hyn?
Sut mae mynd ati i gael copïau o’r tystysgrifau?
Sut mae anfon y wybodaeth hon i’r Swyddfa Gofrestru?
A gaf i ffonio’r Swyddfa Gofrestru i roi’r wybodaeth iddynt?
A gaf i siarad ag unrhyw un rhag ofn bod angen eglurhad arnaf?
Beth yw Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr?
Mae Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw nifer o gofrestri o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau lleol yn dyddio’n ôl i 1837.
Felly pam y gallai fod angen i mi gael copi o dystysgrif?
Gallai fod angen copïau o dystysgrif arnoch chi ar gyfer nifer o bethau, er enghraifft:
- gwneud cais am basbort
- gwneud cais am fenthyciad myfyriwr
- cysylltu dogfennau at CV
- hawlio taliad yswiriant
- profi profiant
Pa ddefnydd arall sydd gan bobl i’r cofnodion hyn?
Mae pobl hefyd yn defnyddio cofnodion y swyddfa gofrestru ar gyfer pethau fel olrhain achau neu ymchwilio i hanes lleol. Gall Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr eich helpu gyda hyn i gyd ac mae’n aml yn cael ymholiadau o bob cwr o’r byd.
Sut mae mynd ati i gael copïau o’r tystysgrifau?
I ddechrau, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer pob tystysgrif y mae arnoch ei hangen:
- enw’r unigolyn (ac yn achos priodas, enw ei bartner/phartner)
- dyddiad y digwyddiad
- lleoliad yr enedigaeth neu’r farwolaeth
- yn achos priodas, enw’r eglwys
Sut mae anfon y wybodaeth hon i’r Swyddfa Gofrestru?
Cewch ysgrifennu atom, anfon e-bost neu wneud cais yn bersonol yn y swyddfa gofrestru yn ystod oriau agor – dyma’r manylion cyswllt:
Y Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Ty'r Ardd
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AR
Rhif ffôn: (01656) 642391
Rhif ffacs: (01656) 642389
E-bost: registrar@bridgend.gov.uk
Oriau Agor:
Dydd Llun – dydd Gwener 9.30am – 4pm
Gwnewch sieciau’n daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch gyflymu’r broses trwy gynnwys amlen â stamp a chyfeiriad arni.
A gaf i ffonio’r Swyddfa Gofrestru i roi’r wybodaeth iddynt?
Na chewch yn anffodus – oherwydd materion diogelwch, ni allwn dderbyn ceisiadau dros y ffôn am gopïau o dystysgrifau.
A gaf i siarad ag unrhyw un rhag ofn bod angen eglurhad arnaf?
Wrth gwrs – ffoniwch Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ar (01656) 642391 a bydd aelod o’r staff yn fwy na pharod i’ch cynorthwyo, neu e-bostiwch nhw ar registrar@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 24/08/2011
- Rate this page
- Back to top







