Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Partneriaethau sifil

O 5 Rhagfyr 2005 ymlaen, mae Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yn caniatáu i gyplau o'r un rhyw gael cydnabod eu perthynas dan y gyfraith a chael statws cyfreithiol newydd, sef partneriaid sifil. Mae hyn yn rhoi rhai hawliau dan y gyfraith i gyplau o'r un rhyw, o safbwynt pensiynau, yswiriant bywyd, etifeddiaeth ac ati.

Rhaid i gwpl sydd am ddod yn bartneriaid sifil gyflwyno 'hysbysiad' i'r Cofrestrydd yn yr ardal ble maen nhw'n byw. Bydd manylion yn cael eu cofnodi, a'u harddangos yn ystafell aros y Swyddfa Gofrestru am bymtheg diwrnod clir. Mae'n rhaid gwneud hyn dan y gyfraith, a dim ond ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben y ceir cofrestru'r bartneriaeth sifil. Gellir cofrestru'r bartneriaeth naill ai yn y Swyddfa Gofrestru neu mewn lleoliad trwyddedig. Gall fod yn broses seml iawn sy'n cynnwys dim mwy na chyfnewid addunedau (dewisol) a llofnodi'r rhestr partneriaeth sifil ym mhresenoldeb dau dyst, a fydd yn ychwanegu eu llofnod eu hunain. Ar y llaw arall, os byddwch yn cofrestru yn y Swyddfa Gofrestru, gall fod yn rhan o seremoni lawnach am yr un pris. Os bydd cyplau'n dewis cynnal y seremoni mewn lleoliad trwyddedig, bydd yn rhaid talu ffi i'r Cofrestrydd fod yn bresennol. Gellir ychwanegu cerddi, cerddoriaeth ac ati at seremonïau mewn lleoliadau trwyddedig.

Rhaid i gyplau sy'n dymuno ffurfio partneriaethau sifil fod dros 16 oed, ac os ydynt dan 18 oed rhaid cael caniatâd y rhieni. Rhaid iddynt fod yn rhydd i ffurfio partneriaeth - h.y. rhaid iddynt beidio â bod yn briod nac mewn partneriaeth sifil arall ar y pryd.

Dyma'r ffïoedd ar hyn o bryd:

Cyflwyno hysbysiad partneriaeth sifil £33.50
Cofrestru Partneriaeth Sifil / ynghyd â seremoni yn y Swyddfa Gofrestru £40

Cofrestru Partneriaeth Sifil / ynghyd â seremoni mewn lleoliad trwyddedig:

Llun - Gwener £233
Dydd Sadwrn £252
Dydd Sul a Gŵyl y Banc £290

Ffi'r dystysgrif:

£3.50 ar yr adeg cofrestru
£7.00 ar ôl cofrestru
Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar (01656) 642391 i gael mwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad.