Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cynllunio Ein Dyfodol

Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Cynigion Cyn-adneuo

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr

12 Chwefror – 31 Mawrth 2009

I gael rhagor o wybodaeth:

ewch i www.bridgend.gov.uk/planning

ffoniwch 01656 643670 neu e-bostiwch at planning@bridgend.gov.uk

Rhagymadrodd

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr yn ddogfen statudol sy’n nodi’r polisïau cynllunio defnydd tir i’r Fwrdeistref Sirol drwyddi draw tan 2021.

At ddibenion ymgynghori, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Cynigion Cyn-adneuo CDLl Pen-y-bont ar Ogwr sy’n amlinellu Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun a’r Strategaeth sy’n Cael ei Ffafrio. Caiff y rhain eu dangos ar ffurf Diagram Strategol a’u gweithredu drwy Bolisïau Strategol.

Hoffem gael eich barn CHI ar y Cynigion Cyn-adneuo

Mae’r Cynigion Cyn-adneuo hefyd wedi bod yn destun Arfarniad Cychwynnol annibynnol o Gynaliadwyedd (sy’n cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) ac maent wedi cael eu sgrinio o safbwynt Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Crynodeb o’r Cynnig

Mae’r Ddogfen Cynigion Cyn-adneuo ar gael i’w darllen yma.

Mae’r Crynodeb Anhechnegol o’r Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael i’w ddarllen yma.

Mae’r Arfarniad o Gynaliadwyedd llawn (sy’n cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) ar gael i’w ddarllen yma.

Mae’r Adroddiad Sgrinio o safbwynt yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael i’w ddarllen yma.

Mae Cynigion Cyn-adneuo Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer y CDLl sy’n datgan:

Erbyn 2021, caiff Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gweddnewid i fod yn rhwydwaith cynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol a chysylltiedig sydd â gwell ansawdd bywyd a chyfleoedd i bawb sy’n byw a gweithio yn yr ardal, yn ymweld â hi neu’n ymlacio ynddi.

Y catalyddion i’r gweddnewidiad hwn fydd:

Mae’r Cynigion Cyn-adneuo wedi’u seilio o amgylch y pedair thema ganlynol:

- Cynhyrchu mannau cynaliadwy o ansawdd uchel

- Amddiffyn a gwella’r amgylchedd

- Lledaenu ffyniant a chyfle drwy adfywio

- Creu cymunedau diogel, iach a chynhwysol

Mae rhoi Strategaeth y CDLl ar waith yn llwyddiannus yn dibynnu ar dair elfen:

- Gweithredu pedair ardal dwf allweddol o safbwynt adfywio strategol

- Datblygu pedwar safle cyflogaeth strategol

- Gwireddu prosiectau adfywio eraill sy’n cael eu targedu


Ceir crynodeb o’r cynigion yng Nghylchlythyr y CDLl sy’n cael ei ddanfon i bob aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol. Cliciwch yma i ddarllen copi.

Dulliau Ymgynghori

Rydym am glywed eich barn chi am y cynigion hyn. Gallwch weld y cynlluniau a’r dogfennau llawn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, a gofyn cwestiynau am sut y byddant yn effeithio arnoch chi.

Arddangosfeydd CDLl

Dewch draw i weld arddangosfa’r CDLl a fydd ar daith drwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd yn cynnwys arddangosiadau a gwybodaeth am y cynigion.

Gwener 13 Chwefror Gŵyl Sain Folant, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr 9am – 5pm

Sadwrn 14 Chwefror Gŵyl Sain Folant, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr 9am – 5pm

Sadwrn 14 Chwefror Tesco, Maesteg 9am - 5pm

Gwener 20 Chwefror Gorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr 9am - 6pm

Sadwrn 21 Chwefror Canolfan Siopa Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr 9am - 5.30pm

Gwener 27 Chwefror Canolfan Croeso Porthcawl 9am - 4.30pm

Llun 2 Mawrth Canolfan Henoed Pontycymer, Oxford Street 9am - 6pm

Mawrth 3 Mawrth Capel Noddfa, Caerau 9am - 5pm

Sesiynau Galw Heibio Cymunedol

I gael golwg fanylach ar y cynigion, dewch draw i un o’n sesiynau galw heibio cymunedol. Bydd swyddogion ar gael i eistedd gyda chi a mynd drwy’r cynigion yn fanwl, gan drafod sut y bydd y cynigion yn effeithio arnoch chi ac ateb unrhyw gwestiynau a fydd gennych.

Llun Chwefror Pwll Ynysawdre 11am - 7pm

Mawrth 17 Chwefror Neuadd Les Pencoed 11am - 4.30pm

Mercher 18 Chwefror Canolfan Bywyd y Pîl 11am - 6pm

Llun 23 Chwefror Neuadd y Gweithwyr Blaengarw 11am - 6pm

Mawrth 24 Chwefror BAVO, Commercial Street, Maesteg 11am - 4.30pm

Iau 26 Chwefror Canolfan Bywyd Ogwr 11am - 6pm

Sadwrn 28 Chwefror Canolfan Croeso Porthcawl 11am - 4pm

Gwener 6 Mawrth Y Swyddfeydd Dinesig, y Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid 11am - 7pm

Yn ogystal â bod y dogfennau i gyd ar gael ar-lein, maent ar gael yn y mannau isod:

Sut gallwch chi wneud eich barn yn hysbys?

Rhowch wybod inni beth yw’ch barn chi am y cynigion drwy glicio yma.

Neu, mae ffurflen sylwadau ar gael ar-lein ichi ei lawrlwytho, ei hargraffu a’i hanfon atom. Mae’r ffurflen ar gael hefyd ar ffurf copi papur oddi wrth y Cyngor, y llyfrgelloedd, yr arddangosfeydd neu’r sesiynau galw heibio.

Dylid anfon sylwadau e-bost at planning@bridgend.gov.uk

Ffacsiwch eich sylwadau at 01656 643190.

Postiwch eich sylwadau at: Y Rheolwr Grŵp - Datblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Y Cyfnod Ymgynghori

Mae’r cyfnod ymgynghori yn para o 12 Chwefror tan 5.00pm ar 31 Mawrth 2009

Rhaid i bob sylw ar y Cynigion Cyn-adneuo ddod i law un ai’n ysgrifenedig neu’n electronig cyn 5.00pm ddydd Mawrth 31ain Mawrth 2009. Ni fydd unrhyw sylwadau a ddaw i law ar ôl yr amser hwnnw yn cael eu derbyn.

Bydd pob sylw a dderbynnir cyn yr amser terfyn yn cael ei gydnabod, a hynny fel arfer drwy’r cyfrwng a ddefnyddiwyd gennych i’w anfon (h.y. dros yr e-bost/drwy’r post).

Beth yw’r Camau Nesaf?

Cyn gynted ag y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, caiff yr holl sylwadau eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bydd unrhyw newidiadau priodol yn cael eu gwneud i’r strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y CDLl. Caiff y strategaeth ddiwygiedig ei hymgorffori wedyn yng Nghynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r cyhoedd ynglŷn â hwn yn 2010.

Manylion Cyswllt

Os bydd angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch ynglŷn â’r CDLl, dylech gysylltu â’r Is-adran Cynllunio Datblygu un ai dros yr e-bost: planning@bridgend.gov.uk, drwy lythyr i’r cyfeiriad uchod, neu dros y ffôn ar 01656 643670

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld ar we dudalennau’r Adran Gynllunio.

Mae modd gweld y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol ar ei gwefan hi (cyswllt allanol).

Chwefror 2009

Yn leol