Henebion Cofrestredig
Caiff y gair heneb ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth eang iawn o safleoedd archeolegol, adfeilion neu adeiladau. Maent yn amrywio’n fawr o ran y cyfnod amser a rychwantir – yr enghreifftiau hynaf y gwyddom amdanynt yw ogofau sy’n cynnwys y dystiolaeth gynharaf am bobl yng Nghymru, a’r mwyaf diweddar yw’r gweddillion diwydiannol a oedd yn dal i gael eu defnyddio yn yr ugeinfed ganrif. Caiff rhai henebion eu hystyried yn rhai o bwys cenedlaethol ac maent felly yn cael eu dynodi’n henebion rhestredig o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drigain o henebion, sy’n dangos bod i’r fwrdeistref orffennol cyfoethog ac amrywiol. Ceir ynddi enghreifftiau o bob un o’r deg prif gategori o heneb, sef:
- Ogofau
- Safleoedd angladdol a defodol cynhanes
- Safleoedd domestig ac amddiffynnol cynhanes
- Safleoedd Rhufeinig
- Gwrthgloddiau llinellol
- Croesau a cherrig arysgrifenedig
- Safleoedd eglwysig a ffynhonnau
- Safleoedd seciwlar canoloesol ac ôl-ganoloesol
- Pontydd
- Safleoedd diwydiannol.
Diben rhestru yw sicrhau bod safle’n cael ei gadw yn y tymor hir. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llunio a chynnal rhestr o’r henebion hyn a chyfrifoldeb Cadw: Henebion Cymru yw sicrhau bod unrhyw heneb ar y rhestr yn cael amddiffyniad statudol. Rhaid cael Caniatâd Heneb Restredig gan Cadw cyn gwneud unrhyw waith ar heneb restredig. Rhaid cael caniatâd heneb restredig hyd yn oed i wneud gwaith a fydd o fudd i’r heneb, megis cloddio archeolegol. Mae gwneud gwaith heb Ganiatâd Heneb Restredig yn dramgwydd troseddol.
Efallai y darperir rhywfaint o gymorth grant gan Cadw, oherwydd cydnabyddir bod atgyweirio a chynnal heneb restredig yn gallu bod yn gostus. Mewn rhai achosion, mae hefyd yn bosibl ymrwymo i gytundeb rheoli gyda Cadw. I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Cadw: http://www.cadw.wales.gov.uk/
- Last Updated: 15/01/2010
- Rate this page
- Back to top







