Help i chwilio ar y Gronfa Ddata Ceisiadau Cynllunio.
Gallwch ddefnyddi’r nodwedd hon i chwilio am fanylion ceisiadau cyfredol a cheisiadau y penderfynwyd arnynt, o ddiwedd 1992 tan y presennol. Os yw cais yn un cyfredol, gallwch weld ei statws a gwneud sylwadau, drwy e-bost, o fewn 21 diwrnod iddo ddod i law.
Gallwch chwilio ar sail un yn unig o’r meysydd a ddangosir ar y sgrin chwilio isod, neu gyfuniadau o unrhyw rai o’r meysydd, i fireinio eich chwiliad ymhellach.
Y sgrin Chwiliad Ceisiadau

Os oes gennych rif cais cynllunio penodol, y ffordd gyflymaf o gael gafael ar y manylion yw drwy ddefnyddio’r dudalen Chwiliad Ceisiadau.
Cyfeirnod: Gallwch chwilio yn ôl Cyfeirnod, Lleoliad, Ymgeisydd a dyddiadau ceisiadau o ddiwedd 1992. Gallwch hefyd deipio rhan o gyfeirnod gan ddefnyddio nod-chwilwyr (%), megis %/06/%. Mae’r nod canran yn cynrychioli’r gwerth anhysbys cyn neu ar ôl y rhan o’r cyfeirnod sy’n hysbys. Mae modd defnyddio’r nod-chwiliwr yn y meysydd Cyfeirnod, Lleoliad, Cod Post ac Ymgeisydd.
Lleoliad: Gallwch deipio unrhyw ran o gyfeiriad neu leoliad yn y blwch hwn. Er enghraifft, os ydych am ddod o hyd i’r holl geisiadau ar ffordd benodol, gallwch deipio enw’r ffordd, megis y Stryd Fawr. Gallwch hefyd deipio manylion eraill a fyddai’n ymddangos mewn cyfeiriad, megis "Broadlands". Gallwch hefyd roi codau post yn y blwch hwn.
Cod post: Gallwch chwilio yn ôl cod post am geisiadau a ddaeth i law er mis Gorffennaf 2005, lle mae’r ymgeisydd wedi nodi’r cod post.
Ymgeisydd: Gallwch chwilio yn ôl yr enw y gwnaed y cais cynllunio ynddo. Sylwch y gallai’r enw hwn fod yn enw’r Asiant yn gweithredu ar ran perchennog neu ddeiliad yr eiddo.
Plwyf: Gallwch ddethol plwyf oddi ar y gwymplen a chwilio yn ôl Cynghorau Tref a Chymuned er 2003.
Dyddiadau derbyn rhwng:
Gallwch fireinio’ch chwiliad i ddod o hyd i geisiadau a ddaeth i law ar ôl, cyn neu rhwng y dyddiadau a nodwch
Ar ôl ichi ddethol eich meini prawf chwilio – cliciwch ar y "botwm chwilio ". Bydd y sgrin ganlyniadau yn cael ei harddangos wedyn.
Y Sgrin Ganlyniadau

Yn dibynnu ar ba mor fanwl oedd eich chwiliad, efallai y cewch fwy nag un dudalen o ganlyniadau. Os felly, unwaith y cyrhaeddwch chi waelod y dudalen a bod rhagor o ganlyniadau ar dudalen ddilynol, gallwch gyrchu atynt drwy glici’r botwm “Nesaf”.
I gael rhagor o fanylion am gais gallwch glicio ar y cyfeirnod yn y golofn Cyfeirio.
Os oes penderfyniad wedi cael ei wneud, gallwch glicio ar y golofn Penderfyniad i weld rhagor o fanylion am y penderfyniad.
Y Sgrin Cais Cynllunio

O’r sgrin hon gallwch gyrchu at y wybodaeth ychwanegol ganlynol drwy glicio ar y cysylltiadau sydd ar gael:
Swyddog Bydd y cyswllt hwn yn rhoi gwybod sut mae cysylltu â swyddog achos y cais.
Adroddiad y Swyddogion Yn dibynnu ar ba gyfnod y mae’r cais ynddo – gellir gweld adroddiad y swyddogion o’r cyswllt hwn.
Gweld yr Argymhelliad Os yw’r swyddogion wedi gwneud argymhelliad mewn perthynas â’r cais, gallwch gael y wybodaeth honno drwy glicio ar y cyswllt hwn.
Dalen Newidiadau Mae modd gweld unrhyw newidiadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â’r cais ac wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgor drwy glicio ar y cyswllt hwn.
Penderfyniad Os oes penderfyniad wedi cael ei wneud – gallwch gyrchu at y wybodaeth yma.
Os yw’r cais yn dal yn y cyfnod ymgynghori, gallwch wneud sylwadau ar y cais yn electronig os ydych yn dymuno. Bydd cyswllt gyda’r teitl "Sylwadau" i’w weld ar frig y dudalen.
Gwneud sylwadau ar gais
Gallwch wneud sylwadau ar gais drwy lenwi’r ffurflen ar-lein sydd i’w gweld isod:

Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen, cliciwch ar y botwm “Cyflwyno” a bydd tudalen gadarnhau yn cael ei harddangos (fel a ddangosir isod). Dylech nodi’r cyfeirnod gan fod angen dyfynnu hwn mewn unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ynglŷn â’r cais.

Siarad yn y pwyllgor
Mae cyngor ar gael ar y wefan hon ynglŷn â siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu.
Y Penderfyniad ar y Cais Cynllunio
Unwaith y byddwch wedi clicio ar y cyswllt “Penderfyniad” – bydd manylion y penderfyniad yn cael eu harddangos.

- Last Updated: 15/01/2010
- Rate this page
- Back to top







