Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

blackaypdlogo180w

Prif nod yr Adran Pobl Ifanc Heini (AYPD) yw cynyddu’r cyfleoedd i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae ein gwaith gyda chlybiau chwaraeon, ysgolion, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

team4Life

Mae’r Adran Pobl Ifanc Heini’n gweithio tuag at y weledigaeth o gael ei chydnabod fel gwasanaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd ar flaen y gad yng Nghymru. Rydym yn amcanu at gyflawni hyn trwy ysbrydoli plant, pobl ifanc a theuluoedd i fod yn fwy egnïol yn fwy aml. Mae nifer o feysydd lle mae’r Adran Pobl Ifanc Heini’n cael effaith gadarnhaol ar unigolion a’r gymuned leol.

Meysydd / categorïau blaenoriaeth

Ysgolion heini

Mae gan yr Adran Pobl Ifanc Heini bresenoldeb gweithredol a gweladwy yn yr ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar lefel gynradd ac uwchradd. Ein nod wrth ymwneud ag ysgolion yw mynd ati’n barhaus i gynyddu’r cyfleoedd i gyfranogi trwy gymorth ychwanegol gyda’r cwricwlwm ac ymyrraeth allgyrsiol.

Dyma rai o’r rhaglenni sy’n rhan o’r rhaglen ysgolion heini:


Campau’r Ddraig – Nod Campau’r Ddraig yw rhoi’r cyfle i bawb rhwng 7 ac 11 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon. Gall clybiau Campau’r Ddraig gael eu rhedeg mewn ysgolion yn ystod yr awr ginio neu ar ôl ysgol, mewn clybiau chwaraeon lleol neu mewn cynlluniau chwarae a chanolfannau cymunedol.

x60

5 x 60 – Mae’r enw 5 x 60 yn amlygu’r ffaith y dylech anelu at fod yn egnïol ar bum niwrnod o’r wythnos am o leiaf awr (60 munud).
Mae’r rhaglen hon wedi’i bwriadu i helpu pobl ifanc i fyw bywydau iach ac i’w rhoi ar ben ffordd tuag at ddod yn athletwyr gwych neu gael hwyl yn unig wrth fwynhau bod yn heini gyda ffrindiau!
Gall ymarfer corff rheolaidd gynnwys nifer o weithgareddau megis codi hwyl, dawnsio, pêl-fasged a phêl-droed.

healthysclslogo

Y rhaglen ysgolion iach – mae Ysgolion Iach yn brosiect sy’n ceisio annog pawb yn ein hysgolion i fod yn iachach. Nid dim ond bwyta’n iachach yw’r nod – er bod hynny’n rhan bwysig. Mae’r rhaglen hefyd yn amcanu at ddatblygu amgylchedd iach mewn ysgolion, ac mae materion megis ysmygu, addysg rhyw, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, ofn bwlio a cham-drin corfforol i gyd yn cael sylw. Mae rhai ysgolion yn dod yn iachach trwy ennill Gwobr Genedlaethol Ysgol Iach y Llywodraeth ac mae llawer o rai eraill wedi sefydlu arferion hybu iechyd y tu allan i’r rhaglen.

IntheZonelogo

Yn y parth – efallai na fydd amser chwarae byth yr un fath eto nawr bod Yn y Parth wedi cyrraedd ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r rhaglen hon gan Gyngor Chwaraeon Cymru’n rhannu buarthau ysgolion yn wahanol ardaloedd, megis ardal chwaraeon, ardal gemau ac ardal ymlacio. Fel rhan o’r sesiynau daw disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn fonitoriaid chwarae gweithredol, gan gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi hwyliog i ddysgu gemau newydd, pleserus. Caiff disgyblion eu hannog hefyd i feddwl am eu gemau eu hunain i wneud amser chwarae’n fwy o hwyl.

Gwyliau a digwyddiadau

Mae’r Adran Pobl Ifanc Heini’n trefnu llawer o wyliau a digwyddiadau i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt. Bob blwyddyn cynhelir gemau 5 x 60 y sir sy’n denu ysgolion o bob rhan o’r fwrdeistref. Mae gwyliau Campau’r Ddraig yn digwydd mewn nifer o safleoedd trwy gydol y gwanwyn a’r haf. Ceir gweithdai chwaraeon, digwyddiadau i wirfoddolwyr a hyd yn oed Gemau Olympaidd bychain.

Chwaraeon egnïol:-

Mae chwaraeon egnïol yn canolbwyntio ar gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer cyfranogi mewn cymunedau; mae hyn yn cynnwys datblygu clybiau, hyfforddwyr ac arweinwyr. Mae hefyd yn cynnwys hyrwyddo a chefnogi gwyliau, cystadlaethau a mentrau lleol.

Dyma enghreifftiau o’r rhain:

XTRAtalent

Dance Xtra – mae dawns, yn enwedig dawns stryd, ymhlith y gweithgareddau sy’n tyfu gyflymaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae bron pob ysgol uwchradd bellach yn cynnig dosbarthiadau dawns ar ôl ysgol ac mae nifer o glybiau dawns cymunedol wedi datblygu. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i drefnu dosbarthiadau a chystadlaethau sy’n arwain yn y pen draw at gyfleoedd i gymryd rhan mewn pencampwriaethau cenedlaethol. Unwaith eto bydd yr Adran Pobl Ifanc Heini’n cynnal ei digwyddiad dawns rhwng ysgolion, digwyddiad sydd wastad yn boblogaidd iawn ac yn hynod gystadleuol.

Canolfannau datblygu

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rwydwaith chwaraeon ysgolion cryf a thros 200 o glybiau cymunedol sy’n cynnwys ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau. Fel rhan o’r broses datblygu talent mae i rai clybiau bwysigrwydd chwaraeon strategol. Mae canolfannau datblygu i’w cael hefyd i bobl ifanc sydd â’r potensial i fynd ymhellach yn eu dewis gamp. Mae rhai o’r cyfleodd sydd i’w cael ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys:-
Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr • Clwb Hoci Pen-y-bont ar Ogwr • Carfan Nofio Pen-y-bont ar Ogwr • Rygbi’r Undeb Pen-y-bont a’r Cylch • Canolfan Datblygu Pêl-droed Sirol Pen-y-bont ar Ogwr • Canolfan Datblygu Badminton Pen-y-bont ar Ogwr.

LondonGames2012

Ffocws ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd – mae’r cyfnod paratoi o bedair blynedd cyn Llundain 2012 wedi dechrau a bydd yr Olympiad diwylliannol yn arwain at fuddsoddi mewn ystod o raglenni chwaraeon a chelfyddydol. Mae’r Adran Pobl Ifanc Heini’n credu y dylai gwaddol y Gemau Olympaidd achosi cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu’n helpu i drefnu gweithgareddau chwaraeon. Bydd ystod o ddigwyddiadau arbennig yn cael eu trefnu i godi ymwybyddiaeth o ddarpar athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd sydd â chyswllt â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd cyfleoedd gwych hefyd i ysgolion cynradd ac uwchradd gynnwys adnoddau addysgu a grëwyd yn arbennig mewn gweithgareddau yn yr ysgol.

PerforTrainSchelog

Cynllun Hyfforddiant Perfformio – Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i roi cymorth i’n hathletwyr talentog gyflawni eu potensial. Mae’r cynllun Hyfforddiant Perfformio neu PT yn rhoi cymorth i athletwyr sydd wedi cynrychioli eu gwlad. Mae’r cynllun yn rhoi Bridge Card am ddim i aelodau, gan eu galluogi i ddefnyddio ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio a chyfleusterau chwaraeon eraill fel ffordd o ategu eu rhaglen hyfforddi. Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth dîm yr Adran Pobl Ifanc Heini.

ukcoachlogo

Hyfforddwyr chwaraeon – mae nifer o bobl ifanc wedi dangos diddordeb mewn trefnu chwaraeon a digwyddiadau ar gyfer eraill neu hyd yn oed fod yn hyfforddwyr. Efallai eu bod yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i fyd chwaraeon neu ddatblygu profiad fel gwirfoddolwyr cyn mynd i’r brifysgol. Gall yr Adran Pobl Ifanc Heini helpu trwy roi iddynt yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen ac o bosib eu cyfeirio at y cwrs hyfforddi cywir. Mae hyfforddiant arweinyddiaeth yn digwydd trwy gydol y flwyddyn ond gallwn hefyd ganfod cyrsiau arbennig ar gyfer dod yn hyfforddwyr mewn chwaraeon penodol megis pêl-droed, rygbi neu bêl-rwyd. Mae cyfleoedd rheolaidd i wirfoddolwyr roi cymorth gyda chwaraeon a gweithgareddau ar ôl ysgol. Weithiau rydym yn gallu cyfrannu at gostau’r cyrsiau hyfforddi. Yn ddiweddar cafwyd cynnydd yng nghostau’r cyrsiau addysgu hyfforddwyr yn dilyn cyflwyno’r hyn a elwir yn gymwysterau UKCC.

Chwaraeon egnïol – mae hyn yn cynnwys yr holl ystod o chwaraeon traddodiadol a gweithgareddau corfforol eraill sy’n tyfu’n gyflym. Byddwn yn annog pobl ifanc i ddweud wrthym pa weithgaredd corfforol yr hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu a byddwn hefyd yn cynnig help ac arweiniad i athletwyr sy’n ymroddedig i gael llwyddiant yn eu camp benodol hwy. Gyda Gemau Olympaidd Llundain ar fin ysgubo’r byd chwaraeon rydym yn awyddus i annog ein darpar athletwyr Olympaidd ni ein hunain a sicrhau bod manteision Llundain 2012 yn cael eu gweld ledled Pen-y-bont ar Ogwr.

Heini am oes

Mae Heini am oes yn darparu gwybodaeth i hybu iechyd a lles. Mae’r wybodaeth hon yn annog cymunedau lleol i ddilyn ffyrdd cadarnhaol o fyw trwy gymryd rhan mewn mentrau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Dyma rai o’r mentrau sydd wedi’u cynnwys:

PlayWalesLogo

Chwarae egnïol – mae cyfleoedd i bobl ifanc chwarae’n bwysig iawn yn enwedig i’r bobl hynny nad ydynt yn dymuno ymuno â chlwb chwaraeon na dilyn camp arbennig. Mae chwarae â dewis rhydd yn hanfodol i ddatblygiad iach pob plentyn a pherson ifanc. Mae Chwarae Cymru’n datgan bod gan bob plentyn hawl i ddarpariaeth chwarae o ansawdd yn eu cymunedau. Mae nifer o leoedd ledled y fwrdeistref sirol sy’n ategu cyfleoedd ar gyfer chwarae egnïol.

Pawb yn heini – Mae’r Adran Pobl Ifanc Heini’n awyddus i sicrhau bod cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgareddau corfforol neu ymarfer corff. Rydym hefyd yn gwybod bod angen mwy o gymorth ar rai grwpiau o bobl na’i gilydd. Mae rhai o’n blaenoriaethau’n cynnwys:

Plant a phobl ifanc mewn cymunedau lle mae lefelau’r gweithgareddau’n is. Ein nod yw rhoi cymorth i bobl greu mwy o weithgareddau yn yr ardaloedd hyn.


Mae merched yn draddodiadol wedi dangos lefelau gweithgarwch is na bechgyn ac rydym yn awyddus i fynd i’r afael â hyn trwy gyflwyno gweithgareddau mwy perthnasol megis dawns, ffitrwydd, crefft ymladd ac ati.


Plant a phobl ifanc ag anawsterau neu anableddau corfforol a dysgu. Rydym yn gweithio i gynyddu nifer y cyfleoedd i fod yn egnïol.

Active4Life

Heini am oes – mae’r Adran Pobl Ifanc Heini am i bawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn egnïol yn gorfforol. Ni waeth beth fo’u hoedran, rydym yn credu y gall pob unigolyn fod yn ‘heini am oes’. Dydych chi byth yn rhy ifanc nac yn rhy hen i ddechrau bod yn egnïol yn gorfforol. Felly boed yn weithgareddau, chwaraeon neu ymarfer corff, rydym ni yma i’ch helpu ac i fod yn gefn i chi.

MendLogovertical

Rhaglen MEND – Mae MEND yn rhaglen hwyliog, rad ac am ddim sy’n galluogi plant i ddod yn iachach, yn fwy heini ac yn hapusach. Oes gennych chi blant rhwng 7 a 13 oed? Ydych chi’n poeni bod eu pwysau ddim yn iach? Ffoniwch ni ac ymunwch â’r rhaglen MEND. Gall y Rhaglen MEND helpu plant i fod yn iach ac yn heini mewn 10 wythnos yn unig – ac mae’n eu helpu i aros felly. Cynhelir y Rhaglen MEND ar ôl ysgol ddwywaith yr wythnos am 10 wythnos. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Amcangyfrifir fod y rhain yn werth £400 ond maent yn gwbl rad ac am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cymorth chwaraeon – cyllid a chymorth i glybiau lleol

Mae’r Adran Pobl Ifanc Heini hefyd yn rhoi cryn dipyn o gymorth i glybiau a mudiadau/sefydliadau lleol trwy gynorthwyo gyda chyfleoedd cyllido. Pa un a ydych yn adran iau sy’n dymuno ehangu, yn glwb sefydledig sy’n awyddus i wella’ch cyfleusterau a’ch offer, ynteu’n glwb sy’n dymuno gwella ac addysgu hyfforddwyr lleol, mae gan yr Adran Pobl Ifanc Heini’r gallu a’r wybodaeth i roi cymorth i chi. Mae’r ffynonellau cyllid yn cynnwys:

Y gist gymunedol – hyd at £1,000 ar gael ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol yn y gymuned.

Grant datblygu – hyd at £25,000 ar gael i ddatblygu gweithgareddau yn eich cymuned.

Sportsmatch Cymru – mae’n annog mwy o fusnesau i gefnogi chwaraeon trwy roi cyllid cyfatebol ar ben nawdd masnachol.

Ceir mwy o wybodaeth yn www.sportswales.org.uk/funding--support neu drwy gysylltu â’r Adran Pobl Ifanc Heini ar 01656 815222.

Mae’r tîm bellach wedi’i leoli ym Mharc Technoleg Sony UK. Gallwch gysylltu â ni trwy’r e-bost aypd@bridgend.gov.uk neu drwy ein ffonio ar 01656 815224

SONYUKSMALL1

item7