Lwfans Tai Lleol
Beth ydyw?
Y Lwfans Tai Lleol (LTLl) yw’r enw newydd ar gyfer Budd-daliadau Tai ac mae’n effeithio ar denantiaid a landlordiaid llety preifat ar rent. Mae’r cynllun wedi’i fwriadu i fod yn ffordd decach a symlach o gyfrifo budd-dal ar gyfer pobl ar incwm isel.
Ar bwy y mae’n effeithio?
* tenantiaid preifat sy’n gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai
* hawlyddion presennol sy’n newid cyfeiriad i denantiaeth breifat
* hawlyddion mewn llety preifat ar rent sy’n cael toriad yn eu hawliad presennol am fudd-dal.
Sut y caiff y LTLl ei gyfrifo?
Mae swm y LTLl y gallech ei gael yn dibynnu ar y canlynol:
Pwy sy’n byw gyda chi
Pa ardal yr ydych yn dymuno byw ynddi
Faint o arian sydd gennych yn dod i mewn
Pa gynilion sydd gennych
Nifer yr ystafelloedd y mae arnoch eu hangen
Mae’r LTLl yn lwfans tai sy’n seiliedig ar gyfradd unffurf a bydd nifer y bobl sy’n byw gyda chi’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o ystafelloedd gwely y mae arnoch eu hangen.
Caniateir un ystafell wely ar gyfer:
* pob cwpl sy’n oedolion
* unrhyw oedolyn arall sy’n 16 mlwydd oed neu’n hŷn
* unrhyw ddau blentyn, ni waeth beth fo’u rhyw, sydd dan 10
* unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw sydd dan 16
* unrhyw blentyn arall.
Fe anwybyddir nifer yr ystafelloedd eraill at y diben hwn gan fod gan bob tenant hawl i’r rhain.
Os ydych yn rhentu fflat un ystafell neu ystafell mewn tŷ a rennir yna byddwch yn gymwys i dderbyn y LTLl yn ôl y gyfradd ar gyfer anheddau lle rhennir ystafelloedd yn unig. Defnyddiwch y Cyfrifwr hawl i ystafelloedd gwely dan y LTLl os ydych yn ansicr.
Yr ardal yr ydych yn byw ynddi
Caiff pob cyngor ei rannu’n ardaloedd (Ardaloedd Marchnad Rentu Eang) gan swyddog rhent annibynnol. Gallwch ddefnyddio’ch cod post i ganfod ym mha ardal yr ydych chi’n byw. Bydd swm y LTLl yr un faint ble bynnag yr ydych yn byw yn eich ardal, yn hytrach na swm sy’n cyfateb i’r rhent a gaiff ei dalu am yr eiddo. Mae hyn yn golygu y bydd gan denantiaid â’r un amgylchiadau hawl i LTLl yn ôl yr un gyfradd. Bydd y tenantiaid yn cael dewis sy’n eu galluogi i benderfynu rhwng ansawdd a phris eu llety.
Er enghraifft, os yw’r gwir rent yn llai na’r LTLl ar gyfer y math o eiddo y mae ar y tenant ei angen, bydd y tenant yn gallu cadw’r arian ychwanegol hyd at uchafswm o £15 yr wythnos. Fodd bynnag, os yw’r gwir rent a godir yn uwch na’r LTLl, bydd yn rhaid i’r tenant dalu’r gwahaniaeth i’r landlord.
Pobl Sengl dan 25 mlwydd oed
Bydd person sengl dan 25 mlwydd oed, sydd heb berson nad yw’n ddibynnol yn byw gydag ef/gyda hi yn meddu ar hawl i Lwfans Tai Lleol yn ôl y gyfradd safonol ar gyfer ystafell mewn llety a rennir. Fodd bynnag, bydd hwn yn seiliedig ar ddiffiniad mwy hael na’r Rhent Ystafell Sengl presennol, sy’n cyfyngu’r hawl mewn perthynas â Budd-dal Tai i’r gyfradd ar gyfer ystafell mewn llety a rennir. Bydd y gyfradd newydd yn seiliedig ar anheddau lle mae gan y tenant ddefnydd unigryw o un ystafell wely’n unig a lle mae’r denantiaeth yn caniatáu i’r tenant rannu defnydd o un neu fwy o’r canlynol:
cegin
ystafell ymolchi
toiled
ystafell sy’n addas i fyw ynddi.
Bydd person sy’n ddifrifol anabl dan 25 mlwydd oed a phobl sy’n gadael gofal dan 22 mlwydd oed yn meddu ar hawl i Lwfans Tai Lleol yn ôl y gyfradd ar gyfer eiddo hunangynhaliol ag un ystafell wely, ar yr amod eu bod yn rhentu eiddo o’r maint hwnnw o leiaf. I’r rheiny sy’n gymwys i gael premiwm anabledd difrifol, byddant yn gymwys ar gyfer y gyfradd un ystafell ni waeth beth fo maint eu llety.
Faint o LTLl fyddaf yn ei gael?
Nid oes unrhyw newidiadau i’r rheolau ynghylch hawl i Fudd-dal Tai; mae’r hawl yn dal yn seiliedig ar amgylchiadau ariannol person a phrawf o gytundeb tenantiaeth dilys.
LTLl yw’r budd-dal uchaf posib y gallwch ei dderbyn tuag at eich rhent. Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn yn dal yn dibynnu ar yr arian sydd gennych yn dod i mewn bob mis, pa gynilion sydd gennych a phwy arall sy’n byw gyda chi.
Sut y caiff ei dalu?
Yn y rhan fwyaf o achosion caiff y LTLl ei dalu’n uniongyrchol i’r tenant a chyfrifoldeb y tenant fydd talu’r rhent i’r landlord. Bydd y LTLl yn cael ei dalu’n uniongyrchol i gyfrifon banc neu â siec wedi’i chroesi. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi agor cyfrif banc os nad oes un gennych yn barod. Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn cael anhawster gyda’r cyfrifoldeb hwn a bydd help ar gael os oes angen.
Nid yw’r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol yn yr achosion canlynol:
* os mai Cymdeithas Dai yw eich landlord
* os yw eich rhent wedi’i gofrestru’n “rhent teg”
* os dechreuodd eich tenantiaeth cyn 1989
* os yw eich tenantiaeth yn cynnwys darparu gofal, cymorth neu oruchwyliaeth a’r rheiny’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, elusennau neu fudiadau gwirfoddol
* os mai carafán, cartref symudol neu gwch preswyl yw eich llety.
Os yw eich rhent yn cynnwys swm sylweddol am brydau bwyd a gweini (e.e. llety mewn hostel preifat) efallai na fydd LTLl yn berthnasol. Y swyddog rhent annibynnol fydd yn penderfynu ynghylch hyn.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Lwfans Tai Lleol yn www.dwp.gov.uk/housingbenefit/lha
- Last Updated: 08/01/2010
- Rate this page
- Back to top







