Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gwrandewch ar ein gwefan

Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth llafar ar ein gwefan i’w gwneud yn fwy hygyrch i’r rheiny sy’n profi anawsterau darllen. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi’r cyfle i’n hymwelwyr glywed cynnwys gwefan bridgend.gov.uk (a gwefannau eraill â gwasanaeth llafar) yn cael ei ddarllen iddynt. Y cwbl y mae’n rhaid i chi ei wneud yw gosod meddalwedd rhad ac am ddim Browsealoud

Pam cynnwys gwasanaeth llafar ar ein gwefan?
Mae cynnwys gwasanaeth llafar ar ein gwefan yn cynnig ffordd ychwanegol o gael mynediad at ein cynnwys i’r bobl hynny sy’n ei chael yn anodd darllen. Mae hyn yn cynnwys pobl â dyslecsia neu anawsterau dysgu, y rheiny nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, neu unrhyw un â pheth nam ar ei olwg.

Sylwer nad yw Browsealoud wedi’i fwriadu fel darllenydd sgrîn i bobl ddall nac i unrhyw un â nam difrifol ar ei olwg.

Beth yw Browsealoud?
Mae Browsealoud yn ddatrysiad sy’n eich galluogi i glywed cynnwys gwefan yn cael ei ddarllen i chi. Wrth i chi symud y cyrchwr dros destun, caiff ei ddarllen yn uchel. Gellir lawrlwytho’r meddalwedd am ddim a chi sy’n rheoli’r llais, ynganiad y geiriau a’r testun sydd wedi’i amlygu ac a gaiff ei ddarllen.

Sut mae’n gweithio?
Rydych yn lawrlwytho ategyn bychan rhad ac am ddim ar gyfer eich porwr gwe. Unwaith y bydd yr ategyn wedi’i osod, gall cynnwys y wefan hon gael ei ddarllen yn uchel.

Ble allaf gael gafael ar Browsealoud?
Cliciwch ar ddolen Browsealoud isod a chewch eich tywys i wefan allanol lle cewch gyfarwyddiadau llawn ar gyfer lawrlwytho a gosod y meddalwedd. Pan fydd y broses osod wedi’i chwblhau, bydd eicon Browsealoud yn cael ei osod yn nrôr eich system, sef yng ngwaelod eich porwr ar yr ochr dde. Bydd dwbl-glicio ar yr eicon hwn yn agor cymhwysiad Browsealoud.

 

Lawrlwytho a gosod Browsealoud

Yn leol

External Links