Arwr o Gymro
Roedd yn fraint fawr i ni bod un o arwyr rygbi Cymru, J.J. Williams, wedi dod i’n hysgol i’n cefnogi gyda’r wefan. Roeddem yn teimlo anrhydedd am ei fod wedi rhoi o’i amser ar gyfer prosiect a oedd yn bwysig yn ei farn ef ac fe’n hysbrydolodd i barhau. Mae J.J. Williams hefyd am hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle da i dyfu ynddo ac fe roddodd wybodaeth i ni am ei yrfa. |
|
J J Williams | |
Rwyf wedi byw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr am y rhan fwyaf o’m bywyd. Roeddwn yn ddigon ffodus i dyfu mewn amgylchedd delfrydol yn ardal Maesteg. Fe roddodd imi’r holl gyfleusterau y gallai gŵr ifanc ddymuno amdanynt – digon o gyfleoedd ym myd chwaraeon, addysg dda, bywyd cymdeithasol da a digonedd o wynebau cyfeillgar. | |
Rhoddodd y cefndir hwn imi’r gallu i fynd a gwireddu fy uchelgeisiau – sef chwaraeon yn fy achos i. Fe ddechreuais fy ngyrfa rygbi yng nghlwb rygbi Nantyffyllon ac wedyn fe chwaraeais i Ben-y-bont cyn symud i glwb rygbi Llanelli – lle’r oeddwn pan enillais fy nghapiau rhyngwladol. Roeddwn yn aelod amlwg o dîm rygbi gwych Cymru yn y 70au ac wedyn fe chwaraeais ran fawr ym muddugoliaeth wych y Llewod Prydeinig yn ystod y cyfnod hwnnw. Fe deithiais o amgylch y byd yn chwarae rygbi ar y lefel uchaf ac roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â nifer fawr o bobl enwog o bob rhan o’r byd – sydd wedi dod yn ffrindiau agos i mi byth oddi ar hynny. | |
Mae fy llwyddiant ym myd chwaraeon a’r ffaith bod digon o fynd ynof hefyd wedi fy ngalluogi i ddod yn ŵr busnes llwyddiannus ac rwyf bellach wedi masnachu am ymron i 30 mlynedd – gan wneud hyn oll o ardal Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gartref i’m busnes. | |
Rwyf hefyd wedi mwynhau gwylio llwyddiant fy nhri phlentyn, y bu iddynt i gyd dderbyn eu haddysg yn lleol. Maent i gyd wedi mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus drwy’u hawliau’u hunain. Mae Kathryn, James a Rhys ill tri’n athletwyr rhyngwladol o fri, gyda Rhys yn datblygu i fod yn un o obeithion gorau Prydain mewn athletau yng Ngemau Olympaidd 2012. | |
Felly mae pob un ohonom yn falch o fod wedi cynrychioli Sir Pen-y-bont ym myd chwaraeon neu ym myd busnes, ac rydym oll yn falch iawn o’n cefndiroedd a’n milltir sgwâr. | |
- Last Updated: 06/07/2009
- Rate this page
- Back to top








