Sut y gallwch chi wneud i chi eich hun deimlo’n well?
Tri o bobl ifanc ydym ni sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac y mae’n bywydau wedi dioddef ergyd ddinistriol yn sgîl achosion o hunanladdiad. Fe hoffem rannu rhai o’n meddyliau a’n teimladau â chi: |
| |
“Fe gafodd y digwyddiadau effaith ddinistriol arnom ni a’n teuluoedd ac fe newidion nhw’n bywydau’n ddramatig. Daeth pob un ohonom o hyd i gymorth mewn gwahanol ffyrdd ond yr hyn a gawsom yn fwyaf manteisiol oedd ein gilydd. Gyda’n gilydd cawsom ein hysbrydoli i roi cymorth i eraill nad ydynt o bosib mor ffodus â ni. Felly fe weithion ni fel tîm i lunio gwybodaeth a allai pobl eraill ei chael yn ddefnyddiol. | ||
“Roedd yr effaith a gafodd hyn ar ein bywydau’n drychinebus; efallai na fyddem wedi dod drwyddi heb ein gilydd. Gwefannau fel hon yw’r rhai sy’n ceisio atal y boen hon y bu’n rhaid i ni ddygymod â hi.” | ||
|
Os ydych yn ei chael yn anodd siarad, rhowch eich teimladau ar bapur, anfonwch neges destun at rywun, anfonwch lythyr neu neges e-bost. Os ydych yn teimlo’n hunanladdol mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun. | |
|
Treuliwch fwy o amser gyda theulu a ffrindiau a thrafodwch eich teimladau. | |
|
Mae athrawon wastad ar gael i siarad gyda hwy ac i wrando ar eich problemau. | |
|
Rhowch ganmoliaeth i chi eich hun. Dywedwch wrthych eich hun am y pethau da yr ydych wedi’u gwneud heddiw. | |
|
Ceisiwch ddeall y gall problemau fod yn rhai byrdymor yn unig. | |
|
Gallwch wastad chwilio am ateb i broblem. | |
|
Nid yw problemau wastad mor fawr ag y maent yn ymddangos. Ddiwrnodau neu wythnosau’n ddiweddarach maent fel arfer yn ymddangos yn llai ac yn haws ymdrin â hwy. | |
- Last Updated: 19/06/2009
- Rate this page
- Back to top








