Bridgend County Borough Council, Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB

Tel: 01656 643643
Text: 01656 643644
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk

Opening times
Monday - Friday 8.00am - 5.30pm

How to find us

Help

Help cyffredinol
Help technegol

Help gyda mynediad

Cynghorion i’ch helpu i chwilio

Help cyffredinol

Newydd ddechrau defnyddio’r Rhyngrwyd?
Gweld tudalen we

Argraffu cynnwys tudalen we

Newydd ddechrau defnyddio’r Rhyngrwyd?

Nid yw gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron, rhwydweithiau a’r Rhyngrwyd. Fodd bynnag, lle da i ddechrau yw safle BBC WebWise.

Mae’r gwasanaeth Addysg yn y Gymuned a Choleg Pen-y-bont yn cynnig cyrsiau lle gallwch wella eich sgiliau ac mae Rhwydwaith y Bobl yn cynnig mynediad rhad-ac-am-ddim at y Rhyngrwyd mewn tair llyfrgell ar ddeg ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Gweld tudalen we

Mae geiriau sydd wedi’u hamlygu (geiriau wedi’u tanlinellu) ar dudalen yn ddolenni sy’n agor tudalen arall o wybodaeth ar eich sgrîn. Os symudwch chi bwyntydd eich llygoden dros air neu lun sydd wedi’i amlygu neu dros ddolen mewn dewislen, bydd y pwyntydd yn newid i symbol llaw sy’n pwyntio, er mwyn dynodi bod dolen i’w chael sy’n eich arwain at dudalen neu wefan arall.

Gallwch glicio ar y botymau Yn ôl / Back ac Ymlaen / Forward ar far offer eich porwr gwe i fynd yn ôl neu ymlaen at dudalen yr ydych wedi’i gweld yn barod.

Argraffu cynnwys tudalen we

Gallwch argraffu cynnwys tudalen we yr ydych yn edrych arni trwy glicio ar y botwm Argraffu / Print ar far offer eich porwr gwe. Bydd blwch dialog yn eich galluogi i bennu dewisiadau argraffu a dechrau argraffu.

Help Technegol

Pa borwr gwe ddylwn i ei ddefnyddio?
Rwy’n ceisio cael mynediad at wefan allanol ond yn cael gwall-negeseuon drwy’r amser

Sut allaf ddarllen dogfen pdf?

Pa borwr gwe ddylwn i ei ddefnyddio?

Y ffordd orau o weld ein gwefan yw trwy borwr gwe sy’n seiliedig ar y meddalwedd diweddaraf, naill ai Internet Explorer neu Netscape Navigator. Gellir lawrlwytho’r rhain o’r gwefannau perthnasol yn rhad ac am ddim. Mae ein gwefan yn defnyddio tablau, nad yw porwyr hŷn o bosib yn gallu eu dangos yn iawn. Mae’r wefan wedi’i bwriadu i gael ei defnyddio gyda’r porwyr canlynol:

Internet Explorer 5.5 a 6 ar gyfer cyfrifiaduron PC
Netscape Navigator 4.73 ar gyfer cyfrifiaduron PC

Netscape Navigator 6.0, 6.1 a 6.2 ar gyfer cyfrifiaduron PC
Internet Explorer 5.0 ar gyfer cyfrifiaduron Macintosh
Netscape Navigator 4.08 ar gyfer cyfrifiaduron Macintosh
Netscape Navigator 6.0, 6.1 a 6.2 ar gyfer cyfrifiaduron Macintosh

Rwy’n ceisio cael mynediad at wefan allanol ond rwy’n cael gwall-negeseuon drwy’r amser

Ni allwn roi sicrwydd y bydd gwefannau sy’n eiddo i fudiadau a sefydliadau eraill yn gweithio’n iawn. Gall fod nifer o resymau sy’n achosi i wefan beidio â bod ar gael. Os byddwch yn parhau i gael problem wrth geisio mynd at wefan gan ddefnyddio dolen sydd ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, anfonwch neges e-bost atom yn bcbcweb@bridgend.gov.uk

Sut allaf ddarllen dogfen PDF?

Mae rhai tudalennau ar y wefan hon yn rhai nad ydynt wedi’u hysgrifennu mewn iaith HTML, ond maent yn hytrach mewn fformat a elwir yn Fformat Dogfen Gludadwy (pdf). Nid yw porwyr gwe’n gallu dangos dogfennau PDF felly bydd arnoch angen rhaglen o’r enw Adobe Acrobat Reader. Gallwch lawrlwytho’r rhaglen yn rhad ac am ddim o Wefan Adobe.

Mae Adobe hefyd yn darparu offer a gwybodaeth arbenigol sy’n helpu i wneud ffeiliau PDF yn hygyrch i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg.

Help gyda mynediad

Safonau
Bysellau cyrchu

Safonau

Mae’r wefan hon wedi’i dylunio’n unol â Safon Lefel A Menter Hygyrchedd y We (WAI) Consortiwm y We Fyd-eang (W3C).

Bysellau cyrchu

Mae bysellau cyrchu’n llwybrau cyflym at rannau o’r wefan a ddefnyddir yn rheolaidd. Maent wedi’u bwriadu i roi cymorth i ddefnyddwyr sy’n ei chael yn anodd defnyddio llygoden neu y mae’n well ganddynt ddefnyddio llwybrau cyflym ar y bysellfwrdd. I ddefnyddio bysell cyrchu, yn syml daliwch y fysell ‘Alt’ i lawr a phwyswch un o’r bysellau cyrchu isod, a bydd hon yn eich arwain at y ddolen a ddewiswyd gennych. I ddilyn y ddolen, pwyswch y Dychwelwr.

S = Osgoi’r Gwe-lywio
C = Cymraeg
1 = Hafan
3 = Mynegai A-Z i Wasanaethau
4 = Chwilio
6 = Help
8 = Ymwadiad
9 = Cysylltwch â Ni
0 = Tudalen â dewislen o fysellau cyrchu sy’n nodi’r bysellau cyrchu a ddefnyddir ar y wefan a’r gwasanaethau y maent yn cysylltu â hwy

Cynghorion i’ch helpu i chwilio

Rydym yn defnyddio peiriant chwilio Google i’ch helpu i chwilio trwy’r safle. Mae adran help a chynghorion wych i’w chael sy’n rhoi cyflwyniad i gysyniadau sylfaenol mewn perthynas â chwilio ac sy’n disgrifio dulliau chwilio manwl a all eich helpu i chwilio’n fwy effeithiol.

Related Links

External Links