Datganiad ar Breifatrwydd a Diogelwch
Mae eich diogelwch pan fyddwch yn defnyddio ein system taliadau ar-lein yn bwysig i ni. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn ddiogel. | |
Mae’n bolisi gennym ein bod yn diogelu eich preifatrwydd trwy drefnu bod eich gweithrediadau ar-lein gyda’r Cyngor yn ddiogel. | |
Pan fyddwch yn anfon eich manylion talu atom, cânt eu hamgryptio, neu eu newid i god annarllenadwy, ar eu taith rhwng eich cyfrifiadur chi a’n cyfrifiadur ni. Felly nid yw’n bosib i unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom gael ei darllen rhwng y ddau fan hwn. | |
Pan fo’ch manylion talu’n cyrraedd cânt eu cadw’n ddiogel yn y pen yma. Cymerir camau gofalus i gyfyngu ar y mynediad at eich gwybodaeth. | |
Ni fyddwn ond yn defnyddio manylion eich cerdyn ar gyfer y taliad dan sylw. Ni fyddwn yn datgelu manylion eich cerdyn i unrhyw drydydd partïon heblaw am y banc sy’n eu prosesu ar gyfer talu. | |
Os hoffech wirio statws diogelwch ein gweinyddwr gwe, lle caiff eich manylion eu cadw, cliciwch ar y symbol clo clap ar waelod eich porwr. | |
Unwaith y bydd eich cwmni cerdyn credyd neu eich banc wedi cymeradwyo’r taliad, bydd yn ei brosesu o fewn dau ddiwrnod gwaith. | |
Unwaith y bydd eich taliad wedi cael ei awdurdodi, bydd yn ymddangos ar sgrîn gadarnhau, y byddwch o bosib am argraffu copi ohoni neu ei chadw er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol. | |
Mae’r Cyngor yn cydymffurfio ag amodau Deddf Diogelu Data 1998. | |
- Last Updated: 14/08/2008
- Rate this page
- Back to top







