Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
A yw’n ddiogel talu dros y Rhyngrwyd?Ydy, mae’n ddiogel talu dros y Rhyngrwyd. Caiff yr wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom ei hamgryptio. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw un yn gallu ei darllen wrth iddi deithio dros y rhyngrwyd. Os hoffech wirio statws diogelwch ein gweinyddwr gwe, lle caiff eich manylion eu cadw, cliciwch ar y symbol clo clap ar waelod eich porwr ar yr ochr dde. Rydym yn cadw manylion cardiau credyd yn ddiogel, a chyfyngir ar fynediad atynt. | |
Beth fydd yn digwydd unwaith y byddaf wedi rhoi manylion fy ngherdyn credyd i chi?Unwaith y byddwch wedi anfon manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd atom, a’r taliad wedi cael ei gymeradwyo, caiff eich cyfrif ei ddebydu o fewn dau ddiwrnod gwaith. | |
Faint o Dreth Gyngor / Ardrethi Busnes sydd arnaf?Dylech gyfeirio at eich bil neu eich hysbysiad diweddaraf i ganfod faint sy’n ddyledus. Penderfyniad i chi yn llwyr yw faint y byddwch yn ei dalu â cherdyn debyd neu gredyd, ond oni bai eich bod yn talu’r swm sy’n ddyledus, ni fydd eich cyfrif yn gyfredol ctaxen@bridgend.gov.uk | |
Beth os wyf yn anghytuno â’r Tâl Ychwanegol a godwyd arnaf mewn Maes Parcio?Mae’n rhaid llenwi ffurflen apelio a’i hanfon at yr Adran Trafnidiaeth a Pheirianneg. Gellir cael ffurflenni apelio o’r Dderbynfa yn Swyddfeydd Dinesig CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel | |
- Last Updated: 14/08/2008
- Rate this page
- Back to top







