Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gwaith cartref

Mae llyfrgelloedd yn fannau delfrydol i wneud eich gwaith cartref ac fe gewch chi bob math o wybodaeth i'ch helpu chi gyda'ch cywaith ysgol. Mae gan lyfrgelloedd lyfrau sy'n berthnasol i bob Cyfnod Allweddol. Gyda chaniatâd eich rhieni gallwch gael mynediad am ddim at y rhyngrwyd i'ch helpu gyda'ch gwaith ysgol.

 

Cysylltiadau Lleol:

Gwasanaethau i blant
Amser Stori

Bownsio a Rhigymu

Chatterbooks

Dechrau Da

Gwerth eu Darllen!

Ymgyrch Helfa Lyfrau Dechrau Da

Porthcawl Reference Section

Britannica Junior Britannica Student

Britannica Online yw'r gwyddoniadur clasurol sy'n cynnwys 123,000 o erthyglau cyfredol.

Mae hefyd ar gael mewn dau rifyn arbennig, Britannica Junior ar gyfer rhai rhwng 5 ac 11 oed, a Britannica Student ar gyfer rhai rhwng 12 a 18 oed.

Defnyddio'r Rhyngrwyd ar gyfer Gwaith Ysgol

Mae yna lawer o wybodaeth ar y we, ond gall e fod yn llethol:

Allwch chi ymddiried yn wybodaeth a geir ar y we?

Gall unrhyw un gofrestru enw parth a chreu gwefan, ond yw'r wybodaeth yn wir ac yn gywir? Gwiriwch pwy sy'n berchen ar y wefan yn www.whois.net am enwau rhyngwladol neu www.nic.uk am wefannau'r D.U.

Wrth chwilio am wybodaeth ar y we allwch chi byth fod yn sicr fod yr hyn yr ydych yn ei ddarllen yn wir, ond i geisio penderfynu gallwch chi:

Llên-ladrad

Mae "torri" gwybodaeth o wefan a'i "phastio" i mewn i'ch dogfen chi yn dwyll sy'n cael ei alw'n llên-ladrad.

Mae'n iawn defnyddio ffynonellau rhyngrwyd, cyn belled â'ch bod chi'n dweud pa rai. Defnyddiwch y wybodaeth y dewch o hyd iddi ar y we ond ail-ysgrifennwch hi yn eich geiriau eich hun. Ar ddiwedd darn o waith ysgol, dylech enwi'r gwefannau a wnaeth eich helpu chi.

Mynnwch gip ar y gwefannau hyn:

Cymorth cyffredinol gyda gwaith cartref:

www.homeworkelephant.co.uk - Dros 5000 o adnoddau rhyngrwyd i'ch helpu gyda'ch tasgau gwaith cartref cartref

www.channel4.com/homework - Adrannau cynradd ac uwchradd ar gyfer mathemateg, ieithoedd, gwyddoniaeth, hanes, daearyddiaeth a llawer mwy e

Anifeiliaid

Anifeiliaid

http://www.arkive.org - ffotograffau, ffilmiau a recordiadau sain o rywogaethau'r byd sydd mewn perygl

www.bats.org.uk - Gwefan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod

www.kidsplanet.org - dysgwch am anifeiliaid gwyllt o bob cyfandir

www.uksafari.com - ffotograffau, ffeithiau a gwybodaeth

Barddoniaeth

Barddoniaeth

www.childrenspoetrybookshelf.co.uk - Clwb llyfrau i rai sy'n hoff o farddoniaeth

www.fizzyfunnyfuzzy.com - Llawer o benillion doniol

www.footballpoets.org - Casgliad amrywiol o gerddi wedi eu cyfansoddi gan gefnogwyr pêl-droed a barddoniaeth

www.theotherpages.org/poems/index.html - Chwiliwch am gerddi a beirdd. Gallwch chwilio yn ôl awdur, teitl a phwnc a dod o hyd i ffotograffau a chrynodebau bywgraffiadol am y beirdd

Celf

www.wga.hu - Oriel Gelf ar y We - amgueddfa rithwir o baentiadau a cherfluniaeth Ewropeaidd o'r cyfnodau Gothig, y Dadeni a Baróc (1100-1850)

Cerdd

Cerdd

www.essentialsofmusic.com - Bywgraffiadau cyfansoddwyr a golwg ar y prif gyfnodau mewn hanes cerddoriaeth

www.history-of-rock.com - Hanes roc a rôl

www.bbc.co.uk/orchestras/guide - Canllaw i offerynnau'r gerddorfa

Chwaraeon

www.commonwealthgames.com - Hanes Gemau'r Gymanwlad a'r cenhedloedd sy'n aelodau

www.london2012.org/en - Gwybodaeth am y paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain

Corff Dynol ac Iechyd

Corff Dynol ac Iechyd

www.bbc.co.uk/science/humanbody - Gwybodaeth a diagramau am organau, cyhyrau, y sgerbwd, y system nerfol a chylchrediad y gwaed

Crefydd

Crefydd

www.england.anglican.org - Gwybodaeth am Eglwys Lloegr, ei hanes, ei haddoli a'i hadeiladau

http://cistercians.shef.ac.uk - Gwybodaeth am Urdd y Sistersiaid yn Swydd Efrog

www.guardian.co.uk/religion - Cliciwch ar ganllaw i wahanol grefyddau yn y DU

www.interfaithcalendar.org - Dyddiadau gwyliau ac adegau cysegredig crefyddau'r byd

www.sikhs.org - Gwefan liwgar yn cynnwys gwybodaeth grefyddol a diwylliannol

Daearyddiaeth

Daearyddiaeth

www.globaleye.org.uk - Gwefan dda ar gyfer gwaith cartref daearyddiaeth - adrannau cynradd ac uwchradd

www.geography.about.com - Mapiau, atlasau a gwybodaeth am wledydd. Cyfnodau Allweddol 3 a 4

www.georesources.co.uk/indexKs3.htm - Gwybodaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Pynciau'n cynnwys afonydd, arfordiroedd, daeargrynfeydd, ffermio a diwydiant. Hefyd pyrth i ddeunydd TGAU a Safon Uwch

www.geography.learnontheinternet.co.uk - Cyngor ar gyfer adolygu, profion - daearyddiaeth ffisegol, amgylcheddol, dynol ac economaidd

www.scalloway.org.uk - Llawer o wybodaeth syml ac eglur ar aneddiadau, ffermio, diwydiant, poblogaeth, hinsawdd a'r tywydd. Cyfnod Allweddol 2

www.nationalgeographic.com/kids - Yn cynnwys gweithgareddau ac arbrofion, taflenni lliwio a chymorth ar gyfer gwaith cartref

Ffasiwn a Gwisgoedd

Ffasiwn a Gwisgoedd

www.fashion-era.com - Llawer o wybodaeth am hanes ffasiwn, gwisgoedd, dillad, tecstilau a hanes cymdeithasol o 1800 hyd y presennol

www.marquise.de/index.html - Ffasiwn o'r canoloesoedd hyd y 1900au

Gofod

Gofod

http://amazing-space.stsci.edu - Hwyl a gemau gyda seryddiaeth

http://kids.msfc.nasa.gov - NASA i blant - gwybodaeth am rocedi, awyrennau, lloerenni, byw yn y gofod a chyfweliad gyda gofodwr

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

www.yucky.com - Y wefan fwyaf ych-a-fi ar y rhyngrwyd - arbrofion afiach

www.chem4kids.com - Popeth yr ydych am ei wybod am gemeg

www.nelsonthornes.com/secondary/science/scinet/scinet/index.htm - Gwybodaeth am y corff, planhigion, elfennau, trydan, golau a bywgraffiadau gwyddonwyr

www.bbc.co.uk - Hafanau gwyddoniaeth a natur yn cynnwys adrannau ar anifeiliaid, bywyd cynhanes, y corff a'r meddwl dynol a'r gofod

www.tryscience.org - Porth i ganolfannau gwyddoniaeth a thechnoleg o gwmpas y byd

www.pbs.org/wnet/nature/alienempire - Gwefan amlgyfrwng am drychfilod

Hanes

Hanes

www.bbc.co.uk/history/forkids - Ystod eang o bynciau cynradd ac uwchradd

www.historylearningsite.co.uk - Yn ymwneud â phob agwedd ar hanes o Gyfnod Allweddol 3 at Safon Uwch. Pynciau'n cynnwys Y Rhyfel Byd Cyntaf, Hitler, Almaen y Natsïaid, dyfeisiau'r ugeinfed ganrif a llawer mwy

www.historyonthenet.com - Bywyd yn y Canoloesoedd, y fasnach gaethweision, y Rhyfel Cartref, y frenhiniaeth Brydeinig, y Rhufeiniaid, y Normaniaid, y Tuduriaid a'r Stiwartiaid

www.schoolhistory.co.uk - Porth i wahanol wefannau'n ymwneud â holl bynciau hanes y Cwricwlwm Cenedlaethol

www.piratesinfo.com - Popeth y gallech chi ddymuno gwybod am forladron, gan gynnwys hanes môr ladrata a bywgraffiadau morladron enwog

www.royal.gov.uk - Gwefan swyddogol y frenhiniaeth Brydeinig. Yn darparu gwybodaeth am waith y Frenhines, bywgraffiadau'r Teulu Brenhinol, hanes brenhinoedd a breninesau drwy'r oesoedd, cefndir cartrefi brenhinol a chasgliadau celf a gwybodaeth am ddigwyddiadau brenhinol.

www.bbc.co.uk/wales/celts - Gweithgareddau rhyngweithiol wedi eu hanimeiddio i ddysgu am ffordd y Celtiaid o fyw, gan gynnwys y tai, derwyddon, arfau, gemwaith, bryngaerau ac ychydig am y Rhufeiniaid. Cyfnodau Allweddol 1 a 2

www.data-wales.co.uk/celt.htm - Gwefan wedi ei hadeiladu o gwmpas hanes Cymru, digonedd o ffeithiau diddorol am y Celtiaid gan gynnwys eu cyfundrefnau cymdeithasol, eu hiaith a'u crefydd. Cyfnod Allweddol 2.

Mathemateg

www.bbc.co.uk/schools/11_16 - Cymorth Mathemateg TGAU

www.counton.org - gweithgareddau, gemau, profion a thudalennau hwyl yn ymwneud â mathemateg

www.murderousmaths.co.uk - Triciau, gemau a chymorth gyda'ch mathemateg yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd

www.sparknotes.com - Gwefan addysgol dda

Saesneg

Saesneg

www.gamequarium.com/sentencestructure.html - Yn cynnwys gemau rhyngweithiol ar agweddau o ramadeg Saesneg. Addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3

Defnyddiwch lyfrau yn ogystal â'r We wrth wneud eich gwaith cartref. Mae pob llyfrgell yn cadw llyfrau all eich helpu gyda'ch gwaith ysgol. Os na welwch chi'r hyn sydd arnoch ei angen gofynnwch i'r llyfrgellydd. I'ch helpu i gael hyd i lyfrau yn yr adran ffeithiol y llyfrgell defnyddiwch y canllaw 'Torri'r Cod'

Yn leol