Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643<
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cydraddoldebau

Tic dwbl - Yn gadarn o blaid pobl anabl

Pobl darlun

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhob un o’i swyddogaethau fel arweinydd cymuned, darparwr gwasanaethau a chyflogwr.

Mae cydraddoldeb wrth galon popeth a wnawn. Mae cydraddoldeb yn golygu deall a mynd i’r afael â’r rhwystrau fel bod pawb yn cael cyfle teg i gyflawni eu potensial.

Rydym yn ymrwymo i drin pob dinesydd â pharch, ac i ddarparu gwasanaethau a chynnig cyfleoedd cyflogaeth sydd yn ymatebol i anghenion amrywiol pobl.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi dod â deddfau gwrthwahaniaethu, megis Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005, Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1986, ynghyd ac wedi eu disodli.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (y ‘ddyletswydd gyffredinol) sy’n disodli’r dyletswyddau ar wahân blaenorol ar gydraddoldeb ar sail anabledd, hil a rhyw. Daeth hon i rym ar 5 Ebrill 2011.

Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn nodi bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth weithredu eu swyddogaethau, fod yn ystyriol o’r angen i:

  1. Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir dan y Ddeddf.
  2. Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle, rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt yn eu rhannu, er enghraifft drwy:

a) ddileu/ lleihau anfanteision

b) bodloni anghenion y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig

c) annog cyfranogaeth mewn gweithgareddau/ bywyd cyhoeddus

  1. Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt yn eu rhannu, er enghraifft drwy :

Y nodweddion gwarchodedig yw:

Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn berthnasol hefyd i briodas a phartneriaeth sifil, ond dim ond o ran y gofyniad i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu.

Er mwyn helpu i sicrhau bod y ddyletswydd gyffredinol hon yn cael ei bodloni gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu nifer o ddyletswyddau penodol. Amlinellir y dyletswyddau penodol hyn yn y canllaw hanfodol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: trosolwg i awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, ac maent yn cynnwys datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol y cyngor yn nodi sut y byddwn yn bodloni ein dyletswyddau cydraddoldeb ac yn gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion amrywiol y bobl sy’n byw neu’n gweithio yn y Fwrdeistref Sirol neu’n ymweld â hi.

Mae arweiniad lefel uwch yn hanfodol i helpu i sicrhau bod yr agenda cydraddoldebau yn cael ei phrif ffrydio i waith yr holl gyngor.

Er mwyn datblygu’r agenda cydraddoldeb mae’r cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Cabinet – Cydraddoldebau, a gadeirir gan hyrwyddwr cydraddoldeb yr awdurdod, y Cynghorydd David Sage, sef y Dirprwy Arweinydd.

Mae’r Pwyllgor hwn yn cael ei gefnogi gan y Grŵp Rheoli Cydraddoldebau Corfforaethol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o gyfarwyddiaethau’r awdurdod, ac sy’n cael ei gadeirio gan y Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Dolenni defnyddiol eraill:

Cysylltwch â ni:

Paul Williams
Swyddog Cydraddoldeb Ac Ymgysylltu

Cwrt y Cigfrain
Lôn y Bragdy
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AP
Ffôn (01656) 643212
Ffôn testun 18001 (01656) 643212
Ffacs (01656) 642433
E-bost Paul.Williams2@bridgend.gov.uk

Rachel Williams
Swyddog Ymgynghori ac Ymgysylltu

Cwrt y Cigfrain
Lôn y Bragdy
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AP
Ffôn (01656) 643664
Ffôn testun 18001 (01656) 643664
Ffacs (01656) 642433
E-bost Rachel.owen@bridgend.gov.uk

Rhiannon Crocombe
Hyfforddai Cydraddoldeb ac Ymgysylltu
Cwrt y Cigfrain
Lôn y Bragdy
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AP
Ffôn (01656) 643236
Ffôn testun 18001 (01656) 643236
Ffacs (01656) 642433
E-bost Rhiannon.Crocombe@bridgend.gov.uk

Yn leol