Rhywioldeb
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i gael gwared o ragfarn a gwahaniaethu homoffobig. Bydd y Cyngor yn sicrhau, wrth gyflawni’i ddyletswyddau, y rhoddir i bobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol driniaeth gyfartal a di-ragfarn.
Dymunem annog cyfranogiad pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, a byddwn yn gweithio gydag eraill i wneud cymunedau’n fwy diogel a galluogi pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i fyw heb ragfarn nac ofn.
Wynebir gwahaniaethu anghyfreithlon, ac eir i’r afael â rhagfarn drwy ddysgu a datblygu.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth, darllenwch ein Datganiad Cydraddoldeb Lesbaidd, Deurywiol a Thrawsrywiol drafft.
Ceisiwch fwy o wybodaeth am Arolwg LHD Cymru Gyfan Stonewall 2006.
Mae’r arolwg newydd hwn yn dilyn ymlaen o’u harolwg yn 2003 “Eich Cyfrif Neu’ch Eithrio” , y mae crynodeb ohono ar gael yn y Gymraeg.
Newydd sbon: @Y Pwyllgor
Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch rhywioldeb yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.
30 Awst 2006 Eitem 7 Datganiadau Cydraddoldeb Drafft
Cysylltiadau defnyddiol
Cobwebs (am wybodaeth am grŵpiau lleol)
Partneriaethau Sifil
Stonewall
- Last Updated: 26/02/2007
- Rate this page
- Back to top







