Hil
Mae’r cyngor yn ymrwymedig i herio pob ffurf o wahaniaethu ar sail hil a hybu cysylltiadau hiliol da.
Bydd y cyngor yn cyflawni’i amrywiol swyddogaethau i gwrdd â’i ddyletswyddau cyfreithiol dan adran 71 Y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae hyn yn gosod rhwymedigaeth gyffredinol ar awdurdodau lleol i :-
Gael gwared o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil;
Hybu cydraddoldeb cyfle;
Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng personau o wahanol grwpiau hiliol.
Gall gwahaniaethu ar sail hil gael effaith niweidiol yn y gymuned ac yn y gweithle. Golyga’r boblogaeth ddu a lleiafrifol ethnig gymharol isel yn y sir fod gennym gyfrifoldeb penodol i herio’r dybiaeth nad oes ‘unrhyw broblem’ gyda hiliaeth a bod y sir yn rhydd o broblemau hiliol. Yn arbennig, gall y teimlad o fod yn ynysig ac yn ddieithr wneud aelodau’r boblogaeth ddu a lleiafrifol ethnig yn fwy bregus i wahaniaethu, gelyniaeth ac ymdriniaeth amhriodol.
Mae’r boblogaeth ddu a lleiafrifol ethnig yn y sir yn amrywiol. Mae gan wahanol gymunedau ac unigolion wahanol anghenion ac ni ddylid eu diffinio gan ragdybiaethau neu stereoteipio.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Hiliol 2005-2008.
Newydd sbon: @Y Pwyllgor
Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch hil yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.
30 Awst 2006 Eitem 7 Datganiadau Cydraddoldeb Drafft
Cysylltiadau defnyddiol
Banc Islamaidd Prydain
BAVO
Cobwebs (am wybodaeth am grŵpiau lleol)
Cofrestr Cenedlaethol Cyfieithwyr ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus
Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol
Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd (VALREC)
Heddlu De Cymru
Praca w Brytanii (gwefan ar gyfer gweithwyr o wlad Pwyl)
Ymddiriedolaeth Runnymede
- Last Updated: 29/10/2007
- Rate this page
- Back to top







