Cyfrifoldebau Teulu a Gofal

Mae hawliau newydd a gwell ar y ffordd ar gyfer pobl â chyfrifoldebau teulu a gofal, dan y Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006.
Mae’r Ddeddf, a dderbyniodd gydsyniad brenhinol ar 21ain Mehefin 2006, yn ehangu absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu taledig, yn ehangu’r hawl i wneud cais am weithio hyblyg ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldebau gofal dros oedolion, yn darparu ar gyfer tâl mamolaeth statudol i gael ei ehangu, ac yn cyflwyno absenoldeb tadolaeth ychwanegol
Bydd y prif newidiadau wneir gan y Ddeddf yn dod i rym yn Ebrill 2007. Gweithredwyd llawer o’r rhain gan reoliadau ddaw i rym ar 1af Hydref 2006 ac maent yn gymwys ar gyfer menywod y mae wythnos ddisgwyliedig eu hesgor ar neu ar ôl 1af Ebrill 2007 ac i fabwysiadwyr y disgwylir i’w plant gael eu gosod gyda nhw ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Rhag blaen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi paratoi datganiad cydraddoldeb drafft ar gyfer pobl â chyfrifoldebau teulu a gofal.
Newydd sbon: @Y Pwyllgor
Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch cyfrifoldebau teuluol a gofal yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.
30 Awst 2006 Eitem 7 Datganiadau Cydraddoldeb Drafft
Cysylltiadau Defnyddiol
Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol
Cobwebs (am wybodaeth am grŵpiau lleol)
Gofalwyr Cymru
Gofalwyr y DU
- Last Updated: 14/03/2007
- Rate this page
- Back to top







