Oedran
|
|
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i fynd i’r afael â gwahaniaethu sy’n seiliedig ar oedran, a gwneud yn siŵr fod pobl o bob oed yn cael eu trin yn deg.
Fe wnawn hyn drwy ein swyddogaethau fel darparwr gwasanaeth, cyflogwr ac arweinydd cymunedol. Gall ymagweddau negyddol a rhagfarn yn seiliedig ar oedran fod yn broblem i bobl hŷn a phobl iau fel ei gilydd. Ond rydym eisiau i’n cymunedau fod yn llefydd lle mae pobl o bob oedran yn cael eu parchu a’u cefnogi er mwyn gwireddu’u potensial a byw eu bywydau’n llawn.
Datblygwyd ”Byth yn rhy Hen”, y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, drwy gydweithredu clos rhwng defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gyda sefydliadau statudol a gwirfoddol. Mae’n darparu cyfeiriad clir ar gyfer gwella gwasanaethau i bobl hŷn, er mwyn hybu’u hiechyd a’u lles a’u galluogi i gynnal eu hannibyniaeth, eu potensial a’u cyfranogiad.
Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yn ôl Deddfwriaeth ac Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau i, neu sy’n effeithio ar, blant a phobl ifanc, ar draws ystod oedran 0 – 25 mlwydd oed.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, darllenwch ein Datganiad Cydraddoldeb Oedran drafft.
Newydd sbon: @Y Pwyllgor
Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch oedran yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.
30 Awst 2006 Eitem 7 Datganiadau Cydraddoldeb Drafft
Cysylltiadau Defnyddiol
Age Concern
Age Positive
BAVO
Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Cobwebs (am wybodaeth am grŵpiau lleol)
Funky Dragon (Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru)
Heddlu De Cymru
Help the Aged
Cymdeithas Pensiynwyr Cymru
Cynulliad Pensiynwyr Cenedlaethol
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Plant a Phobl Ifanc
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Pobl Hŷn
Strategaeth Pobl Hŷn (“Byth yn Rhy Hen”)
Tocynnau Bws am Ddim
- Last Updated: 02/08/2007
- Rate this page
- Back to top










