Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

English

Cymryd Rhan

Ydych chi am gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar faterion cydraddoldebau?

Mae deddfwriaeth cydraddoldeb a'r Safon Cydraddoldeb yn rhoi pwyslais cryf ar gynnwys y gymuned leol a'r staff mewn datblygu cynlluniau cydraddoldeb ac adolygu cynnydd. Mae'n hollbwysig fod pob rhan o'r gymuned yn cael ei chynnwys. Bydd gwrando ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud yn gwneud yn siwr fod y cyngor yn cwrdd â'r her cydraddoldeb ar gyfer y gymuned gyfan.

Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd y cyngor yn datblygu ac yn diwygio cynlluniau cydraddoldeb corfforaethol statudol i gwmpasu’r Iaith Gymraeg, hil, anabledd, a rhyw. Rydym yn awyddus i gynnwys grwpiau o bobl sydd â maes diddordeb arbennig. Gall dewisiadau cael ei seilio ar eich profiad, diddordeb personol cryf neu arbenigedd proffesiynol.
Caiff cronfa ddata gyfrinachol ei sefydlu a fydd yn cynnwys manylion pawb a phan ddaw mater i ymgynghori arno fe gysylltir â chi os yw o fewn eich maes diddordeb.
Gellir cynnal ymgynghoriad mewn sawl ffordd – cyfarfodydd, grwpiau ffocws, dros y ffôn, holiaduron neu e-bost.

Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan?

Am ragor o wybodaeth ar gymrhyd rhan yn yr holiaduron neu am yr her cydraddoldeb yn gyffredinol cysylltwch â Linda Smith, Cydlynydd Cydraddoldeb Corfforaethol, yn yr Uned Polisi a Rheoli Perfformiad ar (01656) 643332 neu policyunit@bridgend.gov.uk

Gallwn ddarparu dogfennau mewn fformat gwahanol, fel print mawr, os oes angen.

Darllenwch amdano!

Yn ddiweddar, gofynnwyd i aelodau o Banel Dinasyddion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont fynegi eu barn ar Gydraddoldebau. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall agweddion pobl leol tuag at grŵpiau gwahanol, a bydd yn ddefnyddiol wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol i hyrwyddo cydraddoldeb trwy arweinyddiaeth yn y gymuned, darparu gwasanaethau, a rôl CBSP fel cyflogwr.
Darllenwch ganlyniadau’r arolwg yn yr Adroddiad hwn.

Newydd sbon: @Y Pwyllgor

Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch dinasyddion yn cymryd rhan yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.

20 Medi 2006 Eitem 7 Holiadur y Panel Dinasyddion

Cysylltiadau cyflym

Panel Dinasyddion
Tudalennau Ymgynghori CBSP

Yn leol