Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

English

Sut y byddwn yn cwrdd â'r her cydraddoldeb?

I'n cynorthwyo i gyflawni ein nodau mae'r cyngor wedi cytuno i'r Safon Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae'r Safon Cydraddoldeb yn arf ymarferol sy'n annog cynghorau i ddatblygu arferion cydraddoldeb da a gwella ei berfformiad dros amser. Bydd y Safon Cydraddoldeb yn ein galluogi i weithio drwy 5 lefel o welliannau fydd yn:

Ein cynorthwyo i gyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol

Help us to tackle different forms of discrimination

Rhowch gymorth i ni fynd i’r afael â gwahanol fathau o wahaniaethu

Ein cynorthwyo i fod yn fwy ymatebol i anghenion trigolion a staff

Darparu fframwaith ar gyfer gwella perfformiad dros amser

Tra bod y Safon Cydraddoldebau yn gosod trywydd cyffredin i ymdrin â chydraddoldebau, nid yw’n golygu y gellir ymdrin â’r materion cydraddoldeb gwahanol (rhyw, hil, anabledd, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chredo) fel mater sengl – bydd y rhwystrau yn amrywio a bydd angen triniaeth wahanol ar gyfer pob fater. Dyma paham y mae’n rhaid i’r Cyngor ddatblygu polisïau cydraddoldeb statudol yn cwmpasu:

Hil

Yr Iaith Gymraeg

Anabledd

Rhyw

Rydym yn datblygu Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol fydd yn cysylltu i mewn i’r cynlluniau cydraddoldeb penodol statudol hyn a byddwn yn ei ehangu i gwmpasu oedran, cyfeiriadedd rhywiol a ffydd.

Ond rydym yn gwybod os ydym i lwyddo i gwrdd â herio cydraddoldeb bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Cychwyn y gwaith

Y cam cyntaf yn y broses hon yw datblygu carfan o ddatganiadau cydraddoldeb sy’n cwmpasu hil, rhyw, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ffydd a chredo a chyfrifoldebau teulu a gofal. Y bwriad yw y bydd pob datganiad yn amlinellu’r hyn mae’r cyngor yn anelu at ei gyflawni yn ei swyddogaeth fel arweinydd cymunedol, darparwr gwasanaeth a chyflogwr.
I gychwyn mae’r cyngor wedi adnabod materion a nodau sy’n gyffredin i’r holl haenau cydraddoldeb ac amlinellir y rhain yn y Datganiad Cydraddoldeb Cyffredinol. Mae’r Cyngor hefyd wedi adnabod materion a nodau sy’n benodol i gydraddoldeb hil ac fe amlinellir y rhain yn y Datganiad Cydraddoldeb Hil. Bydd datganiadau cydraddoldeb pellach yn dilyn yn y misoedd i ddod.

Newydd sbon: @Y Pwyllgor

Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch polisïau corfforaethol yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.

18 Gorffenaf 2007 Eitem 6 Datblygiad Fframwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

20 Medi 2006 Eitem 7 Polisi & Cynllun Cydraddoldeb Drafft

Yn leol