Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

English

Yr Her Cydraddoldeb

Mae gwneud ein gweledigaeth yn realaeth erbyn 2016 yn gyfle i ni gyd herio cydraddoldeb.

Rydym yn cydnabod bod gwahaniaethu yn realiti i bobl. Gall gwahaniaethu ymddangos mewn sawl ffurf a gellir ei brofi mewn gwahanol ffyrdd. Efallai na fydd pobl yn cael cyfleoedd bywyd a chânt eu rhwystro rhag cyflawni eu potensial oherwydd eu:

Rhyw

Hil

Anabledd

Iaith

Oedran

Tueddfryd rhywiol

Ffydd

Dyletswyddau teuluol neu fel gofalwr.

Rydym yn deall fod gennym ddyletswydd foesol, gymdeithasol a statudol i:

Gymryd camau i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

Cymryd camau i rwystro gwahaniaethu

Gymryd camau i symud unrhyw rwystrau neu rwystrau posibl i driniaeth deg

Gymryd camau pendant pan fydd gwahaniaethu'n digwydd

I gwrdd â'r her hon ein nod fydd gwneud cydraddoldeb y rhan annatod o'r modd y mae'r cyngor yn gweithio drwy ei rolau fel:

arweinydd cymunedol

darparwr gwasanaeth

cyflogwr

Croesawu’n cyfrifoldeb

Mae arweinyddiaeth yn hanfodol i sicrhau bod cydraddoldeb yn dod yn rhan annatod o’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithredu. Er mwyn mynd rhagddi ag agenda cydraddoldeb mae’r Cyngor wedi ffurfio:

Pwyllgor Cydraddoldebau’r Cyngor, yn cael ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor, a

Grŵp Rheoli Cydraddoldebau Corfforaethol, yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Dysgu.

Mae’n Datganiad Cydraddoldeb Cyffredinol yn amlinellu fel byddwn yn cwrdd â herio cydraddoldeb.

Newydd sbon: @Y Pwyllgor

Bydd yr adran hon yn eich hysbysebu chi pan fo mater ynghylch polisïau corfforaethol yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cyngor, ers i’r Pwyllgor gael ei sefydlu yn ystod haf 2006.

18 Gorffenaf 2007 Eitem 6 Datblygiad Fframwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

20 Medi 2006 Eitem 7 Polisi & Cynllun Cydraddoldeb Drafft

Yn leol