Datganiad Cydraddoldeb Cyffredinol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei amryw rolau fel arweinydd cymuned, darparwr gwasanaeth a chyflogwr teg. Golyga hyn y bydd y cyngor yn gweithio i sicrhau cyfiawnder a chynhwysiad cymdeithasol; i drin holl ddinasyddion y sir yn deg a chyda pharch; cydnabod hawliau unigolion i gyfranogi'n llawn ym mywyd democrataidd, cymdeithasol ac economaidd y sir.
Mae'r cyngor yn cydnabod bod y profiad o wahaniaethu yn realiti i bobol ac mae wedi ymrwymo i herio pob math o wahaniaethu ble bynnag y bydd yn digwydd, os yw’n seiliedig ar ryw, hil, anabledd, iaith, ffydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws gofalwr neu statws cymdeithasol, rydym yn cydnabod y gallai rhai pobl brofi amlffurfiau o wahaniaethu ac nad yw rhai pobl yn elwa’n uniongyrchol o amddiffyniad deddfwriaethol.
Bydd y cyngor yn sicrhau nad yw ei wasanaethau yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw garfan o'r gymuned a'i fod yn darparu gwasanaethau sy'n ymatebol i amrywiol anghenion pobl.. Ein nod fydd gwireddu arferion cydraddoldeb ac amrywioldeb da sydd o fudd i bawb.
I gyflawni hyn, blaenoriaethau'r cyngor fydd ymddwyn fel hyrwyddwr cymunedol ac eiriolwr dros ddinasyddion; adeiladu cymuned gydlynol a bywiog ble y gwerthfawrogir a rhoddir gwerth ar amrywiaeth; ac i greu'r cyfleoedd gorau posibl i gymunedau i gyd-fyw, cydweithio a chyd-ddysgu fel y gall unigolion gyrraedd eu llawn botensial.
Caiff ymrwymiadau'r Cyngor eu hegluro'n fwy manwl yn ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol 2009-2011. Mae copi o'r cynllun ar gael trwy anfon cais i'r cyfeiriad e-bost canlyno corporateimprovement@bridgend.gov.uk
Dyma Nodau Cydraddoldeb Cyffredinol y cyngor:
Arweinyddiaeth Gymunedol
- Rhoi gwerth ar amrywiaeth a hyrwyddo cydberthnsau cymunedol da o fewn y fwrdeistref sirol.
- Gweithio gyda’n sefydliadau sy’n bartneriaid i gael bwrdeistref sirol fwy cynhwysol.
- Hyrwyddo ymagweddau cadarnhaol tuag at bobl sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol.
- Datblygu dulliau o gyfathrebu sy'n gynhwysol i'r gymuned gyfan.
- Datblygu proses ymgynghori gynhwysol sy'n gwella dealltwriaeth y cyngor o anghenion defnyddwyr gwasanaeth a staff.
- Gweithio gyda sefydliadau cydraddoldeb a'r sector gwirfoddol i gefnogi gymrusiad grwpiau cydraddoldeb lleol.
- Adeiladu cymunedau mwy diogel yn y fwrdeistref sirol drwy fynd i’r afael ag aflonyddu a thrais a gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i ddarparu ymateb effeithiol i ddigwyddiadau a chefnogi dioddefwyr.
- Gweithredu fel pencampwr cymunedol ar gydraddoldeb a chynhwysiad cymdeithasol drwy gefnogi cynghorwyr yn eu swyddogaethau ward, wrth wneud penderfyniadau a chraffu.
Darpariaeth Gwasanaeth
- Creu diwylliant o newid o fewn y cyngor fel bod cydraddoldeb yn galon i'w holl weithgareddau.
- Prif-ffrydio cydraddoldeb i broses cynllunio strategol y cyngor.
- Rhwystro gwahaniaethu, erledigaeth neu aflonyddu ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Gosog targedau clir i wneud gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion amrywiol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol neu'n ymweld â hi.
- Monitro nifer y rhai sy’n manteisio ar wasanaethau a gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac eithriad cymdeithasol.
- Annog pobl o gefndiroedd amrywiol i gyfranogi mewn adolygu, cynllunio a datblygu gwasanaethau.
- Annog partneriaid a chontractwyr cymunedol i fabwysiadu arfer da mewn cydraddoldeb.
Cyflogwr Teg
- Sicrhau cydraddoldeb, tegwch a chysondeb mewn amodau ac arferion cyflogaeth, gan gynnwys cyflog cyfartal.
- Monitro’r gweithlu ar draws y cylch cyflogaeth i sicrhau bod y gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y fwrdeistref sirol.
- Darparu amgylchedd gweithredol diogel a hygyrch sy’n rhydd o wahaniaethu ac aflonyddu.
- Cynnig cyfleoedd gweithio a hyfforddi hyblyg i staff er mwyn sicrhau cydbwysedd bywyd-gwaith ac i alluogi'r cyngor i gael ymagwedd hyblyg tuag at waith.
- Hyfforddi, datblygu a chefnogi staff i ddeall ac i herio rhwystrau i gydraddoldeb.
- Prif-ffrydio cydraddoldeb i ddatblygiad rheoli.
- Last Updated: 12/05/2011
- Rate this page
- Back to top







