Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

English

Datganiad Cydraddoldeb Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Drafft

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i roi gwerth ar amrywiaeth yn y gymuned ac mae’n cydnabod hawliau pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) i gyfranogi’n llawn ym mywyd democrataidd, cymdeithasol ac economaidd y sir. Mae’r cyngor yn ymrwymedig i herio pob ffurf ar ragfarn homoffobig a gwahaniaethu.

Mae’r cyngor yn deall bod gan unigolion yr hawl i ddiffinio’u hunaniaeth rywiol eu hunain ac na ddylai’i weithdrefn a’i arferion gymryd bod pawb yn drawsrywiol neu y dylai pawb fod yn drawsrywiol. Mae’r cyngor yn cydnabod y gallai pobl LHDT brofi amlffurfiau o wahaniaethu ac y bydd gan bob person wahanol anghenion. Ymhellach, mae’r cyngor yn ymwybodol y gall eithriad a thriniaeth amhriodol wneud pobl LHDT yn fwy bregus i wahaniaethu, gelyniaeth a thriniaeth amhriodol. Mae gan y cyngor swyddogaeth bwysig i ymgymryd â hi wrth herio ymagweddau rhagfarnllyd a thriniaeth ragfarnllyd sy’n rhoi pobl LHDT dan anfantais.

Rydym yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion pobl LHDT. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i frwydro yn erbyn rhagfarn, aflonyddu a thrais tuag at bobl LHDT. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau a’n harferion cyflogaeth yn gefnogol ac yn ymatebol i bobl LHDT fel y gallant fwyhau’u potensial a byw bywyd llawn.

Yn leol