Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643<
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Ymuno â'r Llyfrgell

Cysylltiadau Lleol:

Cysylltiadau Lleol:

Ymuno â'r Llyfrgell Ar-Lein

Lawrlwytho Ffurflen Gais (pdf)

Llyfrgelloed Lleol

Lawrlwytho Polisi Defnydd Derbyniol o'r Rhyngrwyd (pdf)

Polityka Dozwolonego Korzystania Z Internetu

NI chodir tâl am ddefnyddio'r llyfrgell, benthyg llyfrau na defnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol.

Mae ymuno yn hawdd - y cwbl y mae angen ei wneud yw llenwi'r ffurflen ar-lein a gallwch ddechrau mwynhau manteision aelodaeth ar unwaith. Byddwch yn gallu trefnu i lyfrau gael eu rhoi ar gadw trwy ein catalog ar-lein a chael mynediad at ystod o gronfeydd data defnyddiol sy'n rhad ac am ddim. Wedyn gallwch gasglu eich cerdyn llyfrgell newydd yn eich llyfrgell leol - y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw dod ag un math o dystiolaeth i ddangos pwy ydych chi (megis trwydded yrru, pasbort, llyfr rhent neu fil gan gwmni cyfleustodau). Os ydych yn iau na 16 bydd angen i chi gael llofnod rhiant neu ofalwr.

Neu gallwch lawrlwytho, argraffu a llenwi ffurflen gais a mynd â hi i'ch llyfrgell leol.

Os ydych am ddefnyddio'r rhyngrwyd bydd yn rhaid i chi hefyd arwyddo ein polisi defnydd derbyniol. Os ydych yn iau na 16 byddwch angen llofnod rhiant neu ofalwr.

Eich cerdyn aelodaeth

Unwaith y caiff eich cais ei dderbyn fe gewch gerdyn aelodaeth sy'n gadael i chi fenthyg hyd at 10 eitem ac, os byddwch angen hynny, defnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol.

Ar eich cerdyn bydd eich rhif aelodaeth unigryw eich hun ac ni ellir ei drosglwyddo i unrhyw berson arall. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw lyfrau sydd wedi eu benthyg arno. Dewch â'ch cerdyn gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld â'r llyfrgell os gwelwch yn dda. Edrychwch ar ôl eich cerdyn. Os byddwch yn ei golli, dywedwch wrth y llyfrgellydd ar unwaith fel y gallwn atal rhywun arall rhag ei ddefnyddio. Codir tâl bychan am gerdyn newydd (am ddim i ddarllenwyr iau).

Yn leol