Am Llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr
Ffon: (01656) 754800
Facs: (01656) 642431
e-bost: blis@bridgend.gov.uk
Y cwbl y mae'u hangen arnoch yw cerdyn llyfrgell dilys a rhif PIN (ar gael o unrhyw lyfrgell).
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau benthyca llyfrau a gwybodaeth cyhoeddus i'r 128,000 o breswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng 10 llyfrgell gangen, llyfrgell deithiol, Cyberlink, Y Llynfi (Maesteg) a Ganolfan Hanes Lleol a Theuluol.

Rydym yn cynnig:
- dros hanner miliwn o lyfrau, CDau, DVDau a llyfrau llafar i'w benthyca
mae mynediad i'r rhyngrwyd, e-bost, sganio, llosgi CD a phrosesu geiriau i gyd yn rhad ac am ddim ar gael ym mhedair llyfrgell ar ddeg Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy Rwydwaith y Bobl
- mae ymuno yn hawdd - y cwbl y mae angen ei wneud yw llenwi'r ffurflen ar-lein a gallwch ddechrau mwynhau manteision aelodaeth ar unwaith
- rhestr o'n stôr gyfan ar gael yn ein catalog ar-lein
- ystod eang o ffynonellau gwybodaeth argraffedig ac awtomataidd
- gwasanaeth rhyng-lyfrgellol cyflym sy'n rhoi mynediad i ddeunydd o bob rhan o'r byd
- gwasanaeth dosbarthu i'r cartref i ddarllenwyr sy'n gaeth i'r ty
- cyfleusterau eang ar gyfer ymchwilio i hanes lleol a theuluol
- cerbyd arloesol Cyberlink ICT. Edrychwch ar yr amserlen i weld os yw'n ymweld â'ch cymuned chi heddiw.
- ystod eang o ddeunydd a gwasanaethau i blant a digwyddiadau rheolaidd i bobl ifanc o bob oed (o fabanod i'r arddegau)
- Mae dysgu i bawb..... Dyma a gynigir gan eich llyfrgell chi.

Mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn Ganolfan Learndirect.

Mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn Ganolfan Brawf ECDL.
A ydych am gael llyfr sydd ddim gennym?

Gwnewch gais am unrhyw lyfr o unrhyw le* AM DDIM
*Yn amodol ar ei fod ar gael.
Y cynnig yn agored dim ond i fenthycwyr sydd â chyfrif clir gyda Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr.
Ceisiadau am eitemau sydd ddim mewn stoc ar gael am ddim i'r rheini sy'n byw, gweithio neu'n cael eu haddysgu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ymuno â'r llyfrgell ar-lein

Mae ymuno yn hawdd - y cwbl y mae angen ei wneud yw llenwi'r ffurflen ar-lein a gallwch ddechrau mwynhau manteision aelodaeth ar unwaith. Byddwch yn gallu trefnu i lyfrau gael eu rhoi ar gadw trwy ein catalog ar-lein a chael mynediad at ystod o gronfeydd data defnyddiol sy'n rhad ac am ddim.
llyfrgell.cymru.org

Mae llyfrgell.cymru.org yn drysorfa o wybodaeth ac yn adnodd ardderchog sy'n rhad ac am ddim i bawb. Yr ateb iawn y tro cyntaf a phob troy n eich llyfrgell ar-lein.
Cobwebs

Cyfeiriadur arlein syn cynnwys clybiau, cymdeithasau a mudiadau o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Wefan Cobwebs (www.cobwebs.uk.net). Gallwch ddod o hyd i bob math o gymdeithas lleol, ynghyd â'i manylion cyswllt a gwybodaeth defnyddiol. Mae'n fath o gronfa ddata allwch archwilio arlein. Mae Cobwebs hefyd yn cynnig cymorth er mwyn i fudiadau nad ydynt yn gwneud elw ym Mhen-y-bont ar Ogwr allu creu tudalennau We eu hunain.
Ask Cymru
Llyfrgell cyfair electronig Cymru yw Ask Cymru. Mae tîm o lyfrgellwyr cyfair hyfforddedig o bob rhan o Gymru yn barod ac yn disgwyl i ateb eich cwestiynau ffeithiol, ac fe gewch ymateb o fewn 48 awr.
Bavalinc

Partneriaeth o wasanaethau llyfrgell yw (BAVALINC Llyfrgelloedd yn y Gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro) sy'n gweithio o fewn Bro Morgannwg ac ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i sefydlwyd ym mis Chwefror 2003, ac mae BAVALINC ar hyn o bryd yn cynnwys 30 man gwasanaethu unigol, gan gynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach, a llyfrgelloedd colegau annibynnol a cholegau ôl-raddedig.
|
|
Beth sy'n neywdd?
Canolfan Hanes Lleol a Theuluol, Ty'r Ardd
O ddydd Llun 9 Ionawr 2012 ein horiau agor newydd fydd:
Dydd Llun 9 - 1 & 2 - 5
Dydd Mawrth 9 - 1 & 2 - 7
Dydd Mercher 9 - 1 & 2 - 5
Dydd Iau 9 - 1 & 2 - 7
Dydd Gwener 9 - 1 & 2 - 5
Dydd Sadwrn 9 - 1 & 2 - 5
eLyfrau

Lawrlwythwch eLyfrau i'ch PC am ddim!
Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr, gallwch fenthyg eLyfrau heb symud o'ch cartref gan ddefnyddio ein gwasanaeth newydd - 'eLyfrau i Gymru'.
Mae nifer o lyfrau ar gael: llyfrau poblogaidd, llyfrau hunan-helpu, llyfrau ffuglen a llyfrau coginio! Mae gennym eLyfrau i blant hyd yn oed!
Gallwch fenthyg eLyfrau drwy eu lawrlwytho nhw, gan ddefnyddio eich rhif cerdyn llyfrgell a'ch PIN. (Ddim yn cyd-fynd a Kindle).
Dewiswch, benthycwch ac archebwch eich eLyfrau o wefan eLyfrau i Gymru
Gallwch lawrlwytho eLyfrau i'ch cyfrifiadur neu'ch gliniadur yna'u trosglwyddo i'ch smartffôn, eich cyfrifiadur llechen neu ambell eDdarllenydd. Gallwch fenthyg hyd at bedwar eLyfr ar un adeg, am hyd at dair wythnos. Ar ôl y cyfnod hwn, byddant yn diflannu o'ch teclyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, bwriwch olwg dros y cwestiynau cyffredin
Os nad ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr, dyma sut mae ymaelodi.
Os ydych yn aelod eisoes ond hwb wybod eich PIN, cysylltwch â'ch llyfgell leol, neu e-bostiwch ni fe atebwn ni gyda'ch manylion.
Ariennir 'eLyfrau i Gymru' ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau llyfrgelloedd 13 awdurdod lleol.
Ymgollwch mewn llyfr!

Darllenwch ragor am ein Grwpiau Darllen, ble cânt eu cynnal, pa lyfrau fyddwn yn eu darllen dros y flwyddyn sydd i ddod a sut y gallwch ymuno yn y gweithgaredd.
Audiobooks Gwasanaeth llwytho i lawr

Fel aelod o lyfrgell BLIS, byddwch yn gallu llogi dros 600 o lyfrau sain cyflawn sydd ymysg y gwerthwyr gorau
Llwythwch i lawr deitlau o'ch dewis chi, a'u trosglwyddo i'ch cyfrifiadur, chwaraewr MP, iPod neu hyd yn oed eich ffôn symudol
Mae'r gwasanaeth ar gael 24/7. Yr unig beth sydd ei angen yw cyfrifiadur personol a mynediad i'r rhyngrwyd band eang
Mae pob teitl yn cynnig argaeledd anghyfyngedig a mynediad cydamserol i holl aelodau BLIS, fel bod pob un o ddefnyddwyr y llyfrgell yn gallu lawrlwytho'r holl deitlau poblogaidd diweddaraf yr un pryd, sy'n golygu bod rhestrau aros yn perthyn i'r oes o'r blaen

Er mwyn ddefnyddio'r gwasanaeth mae'n rhaid i chi yn gyntaf greu cyfrif.
- Mewngofnodi i gatalog y llyfrgell gan ddefnyddio eich rhif côd bar a PIN
- Cliciwch My Library Record. Cliciwch ar y cyswllt ar waelod y dudalen 'Connect to ClipperDL Audiobooks Service'
- Rhowch eich rhif côd bar i wirio eich bod yn Aelod Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr.
- Cliciwch ar 'sign in'
- Cliciwch ar 'Create an account' a chwblhau ac arbed y ffurflen
Os ydych chi eisoes wedi creu eich cyfrif cliciwch yma i fewngofnodi i mewn.
Times Digital Archive 1785-1985

Mae'r Times Digital Archive 1785-1985, gwybodaeth, dealltwriaeth ac adloniant o'r papur newydd mwyaf adnabyddus a mwyaf a nodwyd yn y byd.
Am ddim ar y safle a mynediad o bell i holl aelodau'r llyfrgell

Lluniau O Ein Gorffennol

Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael mynediad i dros 3,500 o ffotograffau drwy wefan y llyfrgell? Mae'r lluniau yn adrodd hanes y Fwrdeistref ar hyd yr oesoedd ac maent yn cynnwys delweddau o dirluniau, digwyddiadau lleol, eglwysi, capeli a thafarndai. Oes gennych chi neu'ch perthnasau gofio unrhyw un o'n lluniau sylw? Allwch chi lenwi rhai manylion ar goll ac yn diweddaru ein cofnodion? Yn syml, defnyddiwch y swyddogaeth adolygu a rhoi rhywfaint o enwau i wynebau, neu ddyddiadau i ddigwyddiadau er mwyn helpu i lenwi'r darnau coll y jig-so.
Dewch i ddarganfod eich cyndeidiau

Ewch ati i ymchwilio i'ch gorffennol a chreu eich siart achau. Cewch fynediad am ddim at Find My Past yn eich llyfrgell leol i chwilio trwy'r canlynol:
- y casgliad o gyfrifiadau mwyaf cyflawn o 1841-1911
- y mynegai ar-lein mwyaf cyflawn o enedigaethau, priodasau a marwolaethau (1837-2006)
- cofnodion plwyf ar gyfer bedyddiadau, priodasau a chladdiadau sy'n dyddio o 1538
- cofnodion ymfudo gan gynnwys 24 miliwn o gofnodion o restrau teithwyr
- cofnodion milwrol sy'n ymwneud â'r Rhyfeloedd Byd a mwy
- llawer mwy o ddogfennau gan gynnwys cofnodion arbenigol
I gael mynediad at y rhain, y cwbl y mae ei angen arnoch yw cerdyn dilys ar gyfer Llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Beth sydd ymlaen yn eich llyfrgell leol
Ionawr - Ebrill 2012

Mae llawer o weithgareddau i bawb trwy gydol yr hydref yn eich llyfrgell leol. I gael mwy o fanylion cliciwch yma.
|