Dr Henry John Randall, LLB FSA, (1877 - 1964)
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Syr John Nicholl |
Hanner can mlynedd yn ôl, ysgrifennodd H.J. Randall y llyfr cyntaf i ddisgrifio gwreiddiau a thyfiant tref Pen-y-bont ar Ogwr yn llawn. Ganwyd Henry John Randall y cyfreithiwr a'r hanesydd (Harry i'w gyfeillion) ar 13eg o Ragfyr 1877 yn Mount Pleasant, Pen-y-bont, yn fab i William Richard Randall, cyfreithiwr, a Hannah (née Johnston). Daethai ei dadcu, John Randall, i Pen-y-bont ym 1826 i reoli ystadai Dwnrhefn.. Ym 1881 roedd teulu John Randall yn byw gyda'i famgu, Martha Pritchard Randall yn 'Slade' yn Southerndown. Fe addysgwyd Henry Randall mewn ysgol breifat yn West Malvern ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Bradfield a dechreuodd hyfforddi i fod yn gyfreithiwr ym 1896 gan gymhwyso ym 1900. Ym mis Awst 1916 fe briododd Olga Ruth Brewis yng Nghadeirlan Newcastle-on-Tyne ac fe symudon nhw i Ferthyr Mawr ym 1926.
Roedd yn aelod o'r cymdeithasau canlynol sy'n dangos ei ddiddordeb cryf mewn archeoleg, daearyddiaeth, daeareg a hanes: Bwrdd Henebion Cymru; Bwrdd Astudiaethau Celtaidd; Cymdeithas Archeolegol Cambria; - Llywydd ym 1928 a Thrysorydd Anrhydeddus 1936-51; Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd - Llywydd 1946-47; Cymdeithas Cofnodion De Cymru a Mynwy - cyd-olygydd o 1929. Roedd hefyd yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr ac yn aelod o Glwb Athenaeum yn Llundain. Dechreuodd ei berthynas agos gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru pan ddaeth yn aelod o'r Pwyllgor Celfyddyd ac Archeoleg ym 1925. Ymhen yr hir a'r hwyr daeth yn Drysorydd Anrhydeddus yr Amgueddfa o 1952 hyd 1962 gan sefydlu 'Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru' cymdeithas y bu'n gadeirydd iddi o 1954 hyd ei farwolaeth. Fe'i etholwyd yn Gadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Ardal Pen-y-bont ar Ogwr ym 1952. Ym 1963, i gydnabod ei wasanaeth i Forgannwg a Chymru fe'i anrhydeddwyd gan Brifysgol Cymru gyda gradd Doethur yn y Cyfreithiau (LLD).
Wedi bod yn gyfreithiwr trwy gydol ei fywyd ymddeolodd Dr. Randall o'i gwmni Randall, Llewellyn and Verity ym 1962. Ag yntau'n awdur nifer o ysgrifau a phapurau cyfreithiol, cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf History in the Open Air, sef casgliad o ysgrifau, ym 1936 ac fe'i ddilynwyd ym 1944 gan The Creative Centuries. Fe ysgrifennodd am hanes Cymru Rufeinig yn In the Roman Period sef ei gyfraniad ef i gyfrol canmlwyddiant y cyfnodolyn Archaeologia Cambrensis ym 1946. Cyhoeddwyd Bridgend: the story of a market town ym 1955, a daeth ei lyfr olaf o'r wasg ym 1961, gyda'r teitl The Vale of Glamorgan, studies in landscape and history. Bu Dr. Randall farw ar 4ydd o Dachwedd 1964 yn ei gartref ym Merthyr Mawr yn 86 mlwydd oed. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa iddo ar 9fed o Dachwedd yn Eglwys y Santes Fair, Nolton, gydag arlosgiad yn Thornhill, Caerdydd.
Roedd gan y dyn hwn gariad dwfn at Ben-y-bont a'i phobl. Dyma eiriau o bennod olaf ei lyfr Bridgend: the story of a market town - "And so farewell little town of mine. For more than a century and a quarter you have sheltered my family, and I am the last of my name that you will ever know. May you ever continue in a condition of quiet prosperity as you have always done, remembering that the spectacular is not always the enduring, and that size is no measure of value".
Ffynonellau
RANDALL, Henry John. Bridgend: the story of a market town, adargraffiad o gyhoeddiad 1955. Llyfrgelloedd Sir Pen-y-bont: Morgannwg Ganol/ Cedric Chivers, 1994.
Bridgend 900: a brief chronology of the Bridgend district from the coming of the Normans 1093 - 1993, gol. Pearce, David J. Pen-y-bont a'r Bontfaen: D. Brown & Sons/ Cymdeithas Hanes Lleol Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, 1993.
Dictionary of Welsh Biography 1941 - 1970. Llundain: Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, 2001.
Llyfrgell Astudiaethau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr - ffeil fywgraffiadol,
The Times, 9fed o Dachwedd 1964 (ysgrif goffa)
Glamorgan Gazette, Gwener 20fed o Dachwedd 1964 Tudalen 11 (adroddiad am y gwasanaeth coffa ac ysgrif goffa)
Cysylltiadau
Cymdeithas Hanes Lleol Ardal Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Syr John Nicholl (1759-1838)
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganwyd John Nicholl, ail fab John Nicholl o Lanmaes ar 16eg o fis Mawrth 1759. Astudiodd yn ysgolion gramadeg Y Bontfaen a Bryste ac yna yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Yno enillodd radd Baglor yn y Gyfraith Sifil ym 1780 a Doethuriaeth yn y Gyfraith Sifil ym 1785. Ym 1785 dygwyd e i far Doctor's Commons ac fe gychwynnodd ar yrfa gyfreithiol werthfawr iawn. Ym 1798 fe'i urddwyd yn farchog ar ôl dod yn "Adfocad y Brenin". Byddai yn aml yn cyfarwyddo'r Cyfrin Gyngor a'r ysgrifennydd Gwladol ar gyfraith rhyngwladol.
Roedd Sir John yn Geidwadwr pybyr ac fe gychwynnodd ar yrfa wleidyddol pan cafodd ei ethol i gynrychioli bwrdeistref Penryn (1802) yn y senedd. Fe gynrychiolodd Hastings (1806) a great Bedwin (Wiltshire) hefyd. Bu'n gwasanaethu'r fwrdeistref olaf hon nes iddo ymddeol o'r senedd ym 1832.
Fe ddilynodd Sir William Wynne fel Deon y Bwâu a Barnwr Llys Archesgob Caergaint ym 1809. Cafodd ei benodi hefyd yn Farnwr Uchel Lys y Morlys, swydd a ddaliodd hyd ei farw ym 1838.
Bywyd Teuluol
Priododd Sir John Judy Birt, merch ieuengaf Peter Birt o Gastell Gwenfô ym 1787. Ganwyd iddynt bump o blant - dau fab, un a fu farw'n faban, a thair merch. Roedd wedi etifeddu buddiant mewn eiddo yn Llanilltud Fawr pan fu farw ei dad bedydd, Parch. John Nicholl, ym 1770. Ym 1771 bu farw Edward Powell o Dondu gan adael ei ystad ym mhlwyfi Llangynwyd, Peterston-super-Montem, Llanilltud fawr, Llansanffraid-ar-Ogwr a Newcastle i John Nicholl oedd ar y pryd ond yn ddeuddeg oed.
Yn ystod ei yrfa byddai'n aros mewn tŷ tref yn Llundain ac yn Tondu House pan oedd ym Morgannwg. Fodd bynnag, roedd hi'n weddus bod person o'i ansawdd ef yn byw ar ystad o safon a daeth y teulu i Dŷ Merthyr Mawr i fyw yn y diwedd.
Pan fu farw Charles Bowen, mab anghyfreithlon Hugh Bowen, ym 1787 fe drosglwyddwyd y tŷ i'w hanner-frodyr a'i chwaer. Roedd Sir John yn un o'r ymddiriedolwyr a benodwyd i gyflawni amodau ei ewyllys. Fodd bynnag, roedd yr ystad wedi ei morgeisio'n drwm ac roedd dyledion a chymynroddion i'w talu. Roedd ewyllys Charles Bowen yn darparu fod gwerthu'r ystad yn ddigon i dalu'r dyledion hyn ond roedd ei hanner-brawd Stephen Jones yn mynnu £24,000, oedd yn llawer gormod. Yn y diwedd fe gytunwyd ar bris ac ym 1804 prynodd Sir John Nicholl ystad o dros 800 erw ym Merthyr Mawr am £18,000.
Ym 1806 dechreuodd Sir John gymryd camau i adeiladu plasty ym Merthyr Mawr. Wedi dymchwel yr hen dŷ fe gyflogodd y pensaer Henry Wood i baratoi cynlluniau ar gyfer adeiladu tŷ newydd ym Merthyr Mawr. Fodd bynnag fe gododd nifer o drafferthion rhwng Wood a Sir John ac ym mis Mehefin 1808 gofynnodd Henry Wood am ddiddymu'r cytundeb rhyngddo a Sir John.
Roedd Sir John yn benderfynol o orffen y tŷ newydd ac erbyn yr haf ym 1809 roedd yn byw ym Merthyr Mawr er nad oedd y tŷ wedi ei gwblhau. Bu Sir John fyw ym Merthyr Mawr hyd ei farw ar 26ain o fis Awst 1838 yn 79 mlwydd oed ac fe basiodd y tŷ i'w unig fab John. Ers adeiladu'r tŷ yn gynnar yn y 19eg ganrif mae disgynyddion Sir John Nicholl wedi byw yn Nhŷ Merthyr Mawr. Yn ogystal â threulio llawer o amser ac ynni yn gwella'r ystad bu Sir John yn gyfrwng sefydlu ysgol a banc cynilo ym Mhen-y-bont. Yng ngeiriau Randall: "Mae Pen-y-bont yn fawr ddyledus i Sir John a'i fab".
Ffynonellau:
Merthyr Mawr House - gan Hilary M. Thomas
Oxford Dictionary of National Biography
Wil Ifan (William Evans)
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganwyd William Evans yn Llanwinio, Sir Gaerfyrddin ym 1883. Fe raddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor ym 1905 gan astudio am flwyddyn arall yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Fe gychwynnodd ei yrfa grefyddol ym 1905 pan cafodd ei ordeinio yn yr eglwys Gynulleidfaol yn Nolgellau.
Ym 1909, symudodd William Evans i Ben-y-bont ar Ogwr ar ôl derbyn swydd gweinidog yr Eglwys Gynulleidfaol Lloegr. Ar wahân i'r cyfnod y treuliodd yn Eglwys Gynulleidfaol Lloegr Richmond Road, Caerdydd, rhwng 1916 a 1925, treuliodd Evans y gweddill o'i fywyd ym Mhen-y-bont.
Mae William Evans yn fwy adnabyddus yn hanes Cymru fel Wil Ifan. Trwy gydol ei amser fel gweinidog ym Mhen-y-bont, roedd William Evans yn ennill ei blwyf fel y bardd Wil Ifan yn yr Eisteddfod. Fe ennillodd y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith, yn Y Fenni (1913), Penbedw (Birkenhead) (1917) a Phwllheli (1925). Fe ysgrifennodd Evans ysgrifau, dramau a barddoniaeth. Fe ysgrifennai yn y Gymraeg a'r Saesneg ar nifer o bynciau. Mae'r cyfrolau A Quire of Rhymes; short poems a Where I Belong ill dau yn canolbwyntio ar brydferthwch Gorllewin Cymru a Bro Morgannwg. Amlygwyd ei deimladau am heddychiaeth yn Dail Iorwg ac Unwaith Eto.
Bu gan William Evans hefyd golofn yn y Western Mail a bu'n darparu erthyglau a chartŵnau ar gyfer y papur newydd hwn. Fe gynhwyswyd rhai o'i golofnau yn y llyfr Colofnau Wil Ifan ym 1962. Bu hefyd yn ysgrifennu ac yn cyfieithu caneuon gyda cherddorion gan gynnwys Haydn Morris a T. Hopkin Evans.
Ymddeolodd Wil Ifan o'i swydd fel gweinidog ym Mhen-y-bont ym 1947, ond fe barhaodd ei gyfraniad i fywyd diwylliannnol Cymru. Ym 1947 fe'i wnaethpwyd yn Faglor Anrhydeddus yn y Celfyddydau gan Brifysgol Cymru. Rhwng 1947 a 1950 ef oedd Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bu farw William Evans ar 16eg o Orffennaf 1968 yn ei gartref ym Mhen-y-bont, chwe mis ar ôl marwolaeth ei wraig. Fe'i gladdwyd yn Rhyd-y-main, Sir feirionnydd. Gellir crynhoi ei gyfraniad at fywyd diwylliannol Cymru yng ngeiriau'r llith goffa a ysgrifennodd Parch. Lloyd Woodhouse iddo. Fe ysgrifennodd "Trysorir ei gyfeillgarwch gan lawer o'i gyfoeswyr enwog, yn bregethwyr, yn feirdd, yn ffigyrau cyhoeddus a gwŷr llen Cymru". Mae Cymru'n gyfoethocach o'i etifeddiaeth.
Adnoddau
"Arolwg Canmlwyddiant yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig 1873 - 1973"
"An historical survey of the English Congregational Church, Bridgend" John G. Jenkins
"New companion to the literature of Wales" Editor - Meic Stephens
"Oxford Dictionary of National Biography"
"Wil Ifan (bibliography of Welsh and English works" Golygydd - H.J. Williams
Llyfrgell Astudiaethau Lleol Ffeil Fywgraffiadol
Thomas Stockwood (1814-1895)
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ar Ddydd Gwener Rhagfyr 27ain, 1895 adroddodd The Glamorgan Gazette am farwolaeth Mr Thomas Stockwood. Ar adeg o newid mawr yn ddiwydiannol, cymdeithasol a gwleidyddol, fe weithiodd Mr Stockwood yn galed iawn ar ran trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Thomas Stockwood ei addysgu yn The Eagle School yn Y Bont-faen a daeth i fod yn glerc yn swyddfa Mr William Lewis, cyfreithiwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, pan oedd yn 13 oed. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ac yntau'n gyfreithiwr wedi cymhwyso'n llawn, daeth yn bartner i Mr. Lewis. Bu'n Glerc i Ynadon ardal Sesiwn Fach Y Castellnewydd am 50 mlynedd ac roedd ganddo bractis preifat mawr yn Neuadd y Dref.
Y meysydd eraill ym mywyd Pen-y-bont ar Ogwr yr oedd yn gysylltiedig â hwy oedd y Bwrdd Iechyd, yr oedd yn Gadeirydd arno, gan ymddiswyddo oherwydd nad allai berswadio ei gyd-aelodau am yr angen i sefydlu system carthffosiaeth. Mae'n bosibl dychmygu pam y byddai wedi ymddiswyddo mewn protest wedi darllen yr Adroddiad gan G.T. Clark ar yr Amodau Iechydol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1849. Mae un darn o dystiolaeth yn datgan:
"Braidd nad oes gan unrhyw dŷ ddraen yn rhedeg ohono; draeniau stryd agored yw'r unig sianelau ar gyfer cario'r dŵr glaw o'r toeau'r yn ogystal â charthion hylifol o'r tai ".
Roedd Thomas Stockwood hefyd yn Grwner Maenor Ogwr, yn Ysgrifennydd a Thrysorydd Pwyllgor Neuadd y Dref a Chadeirydd Bwrdd Ysgol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn gyfreithiwr i Gymdeithas Adeiladau Permanent Benefit ac yn gyfreithiwr lleol Ystâd Dwn-rhefn (Dunraven). Yn ei swydd fel Syrfëwr y Priffyrdd roedd yn gyfrifol am wneud y Rhiw yn agored i gerddwyr ac eto gallwn weld o'r adroddiad ar yr Amodau Iechydol pam yr oedd hyn yn beth da i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywed yr adroddiad:
"Mae'r Rhiw yn cynnwys 14 tŷ ar osod am rhwng 1 swllt i 1swllt ac 8 ceiniog yr wythnos. Nid oes ganddynt ddŵr. Yn y stryd ceir cwter agored a'r tu ôl iddynt ceir iardiau agos iawn llawn budreddi, heb eu palmantu, yn wlyb ac yn draenio i'r tai. Ar ran isaf y stryd hon ceir iard y tanerdy, a drws nesaf lle i drin crwyn anifeiliaid. Cwynir am ddrewdod y lle hwnnw. Mae Mr Popkin hefyd yn cwyno, gyda digon o reswm, am ddrewdod y lladd-dy cyhoeddus cyffiniol. Mae'r ardal hon o'r dref o fewn cyrraedd llifogydd yr afon."
Am flynyddoedd lawer bu Mr. Stockwood yn warden yr eglwysi Y Castellnewydd a Nolton.
Ganed Thomas yng Nghasnewydd ond dysgodd siarad Cymraeg pan ddaeth i Ben-y-bont ar Ogwr, gan fod y Gymraeg ar yr adeg honno yn iaith gyntaf llawer o'r trigolion. Priododd â Miss Ann Thomas, Leicester House, Pen-y-bont ar Ogwr a chawsant naw o blant, y bu pedwar ohonynt farw yn eu babandod.
Mae Cyfarwyddiadur Slater 1880 yn rhestru Mr. Stockwood yn byw yn Newcastle House ond erbyn Cyfarwyddiadur Kelly 1891 roedd yn byw yn Caerderwen, Stryd y Parc ac yno y bu farw yn 81 oed. Cynhaliwyd ei angladd ar Ddydd Sadwrn Tachwedd 28ain yn Eglwys y Santes Fair, Nolton ac fe'i claddwyd ym Mynwent yr Eglwys Nolton.
Ffynonellau
RANDALL, H.J Bridgend The Story of a Market Town, 1955
Cyfarwyddiadur Slater o dde Cymru 1880
Cyfarwyddiadur Kelly o dde Cymru 1891
Glamorgan Gazette Rhagfyr 27ain 1895
CLARK, G. T, Report on the Sanitary Condition of Bridgend, 1849
Dr William Morgan F.R.S. (1750 - 1833)
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales |
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Roedd cyfraniad William Morgan i gymdeithas yn pontio byd gwyddoniaeth, arian a gwleidyddiaeth. Ganed Dr William Morgan ar Fai 26ain, 1750 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fab i feddyg ym Mhen-y-bont, William Morgan, a'i wraig Sarah.
Mae William Morgan yn adnabyddus yn bennaf fel prif actiwari Cymdeithas Yswiriant yr Equitable o Chwefror 1775 hyd at ei ymddiswyddiad ym 1830. Un o dasgau cyntaf William Morgan dros Gymdeithas Yswiriant yr Equitable oedd cyfrif gwerth ymrwymiadau'r polisïau oedd mewn grym. Y gwaith hwn oedd y tro cyntaf i unrhyw un trwy'r byd roi prisiad ar fusnes yswiriant bywyd. Bu gwaith Morgan yn gymorth i'r cwmni ddod erbyn 1829 yn werth £12.4 miliwn gyda dros 8800 o bolisïau.
Cyfrannodd Dr Morgan at gylchoedd eraill o fewn cymdeithas. Paratodd dablau blwydd-dal ar gyfer Swyddfa'r Ddyled Wladol yn 1808 a chynghorodd amryw o bwyllgorau seneddol ynghylch Deddfau'r Tlodion yn 1817-18 a Chymdeithasau Budd yn 1827. Gwnaeth sylwadau hefyd ar faterion cymdeithasol y dydd. Condemniodd yn gyhoeddus y Ddyled Wladol ac ariannu'r rhyfel yn erbyn Ffrainc.
Nid yn y byd ariannol yn unig y gwnaeth Morgan gyfraniad o bwys. Gydol ei fywyd, bu Morgan yn arbrofi gyda thrydan, a dywedir mai ef, trwy'r arbrofion trydanol hyn, a ddarganfyddodd Belydr-X. Wrth basio cerrynt trydanol trwy diwb gwydr wedi ei selio, ac yna gadael i'r tamaid lleiaf o aer fynd i mewn i'r tiwb, darganfu William Morgan bod y tiwb yn disgleirio â lliw gwyrdd. Dyma'r math cyntaf o Belydr-X.
Yn 1785 cyhoeddodd Morgan bapur yn amlinellu ei ganfyddiadau, ond ni ddatblygwyd darganfyddiad Morgan yn llawn ar y pryd. Aeth 110 o flynyddoedd heibio cyn i Emil Roentgen "ailddarganfod" a datblygu'r darganfyddiad hwnnw.
Drwy holl hanes radioleg, mae'n anodd iawn gweld cofnod am Morgan a'i ddarganfyddiad. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig y dechreuwyd geisio tynnu sylw at gyfraniad Morgan i wyddoniaeth. Yn 1995 dadorchuddiwyd cofeb swyddogol iddo yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan un o'i ddisgynyddion uniongyrchol, i gofio am ŵr oedd, trwy ei waith, wedi helpu actiwarïaid a gwyddonwyr modern.
Ffynonellau:
Pearce, D.J. gol. Pen-y-bont ar Ogwr 900
Randall, H.J. Bridgend: the story of a market town Llyfrgelloedd Sirol Morgannwg Ganol, 1994
Williams, C.E. A Welsh Family: From the beginning of the 18th Century, Women's Printing Society Ltd. 1893
"Oxford Dictionary of National Biography", Cyfrol 39 Morant - Murray
Amrywiol erthyglau papur newydd
John Bedford a'r Gweithfeydd Haearn yng Nghefn Cribwr
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganed John Bedford yn Birmingham yn niwedd y 1720au, yn fab i John a Sarah. Cyllellydd yn y fasnach haearn oedd ei dad, a dilynodd y mab ei dad i'r fasnach honno a dod yn 'japaniwr' yn 1748. Yr oedd John Bedford wedi gadael Birmingham erbyn 1765 a'i sefydlu ei hun yn reolwr yr efail yn Trostrey, Sir Fynwy. Cadwodd, fodd bynnag, eiddo a diddordebau busnes yn Birmingham, â'i dad yn gofalu amdanynt ar ei ran. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, trwy werthu un eiddo yn Birmingham llwyddodd i brynu ei efail ei hun yn y Tŷ Du, ac arhosodd yno hyd 1770.
Gadawodd y Tŷ Du ac ail-leoli yng Nghefn Cribwr lle roedd wedi prynu ystâd 95 erw. Roedd gan John Bedford gynlluniau mawr ar gyfer yr ystad a bwriadai ddatblygu yno weithfeydd haearn cyflawn, yn cynnwys cloddfeydd, ffwrnais chwyth ac efail yn ogystal â phyllau glo, gweithfeydd briciau a chwareli carreg. Fodd bynnag ni lwyddodd i wireddu ei gynlluniau ar gyfer ei ystad yng Nghefn Cribwr. Mae peth tystiolaeth yn ei lythyrau sy'n awgrymu mai un o'r rhesymau am y methiant oedd iddo ganolbwyntio'n ormodol ar arbrofi gyda gwahanol fathau o ddeunydd crai a gwella technegau gwneud haearn yn hytrach na datblygu'r gweithfeydd haearn yn fenter fasnachol.
Disgrifiwyd John Bedford fel gŵr a roddodd gynnig ar lawer ond a gyflawnodd gyn lleied. Priodolwyd ei fethiant i'w gymeriad ecsentrig, ei ddewis o safle ar gyfer ei weithfeydd haearn, ei ddiffyg crebwyll ariannol a'i ddibyniaeth ar fenthyciadau. Fodd bynnag, er mai aflwyddiannus oedd gweithfeydd haearn John Bedford, daeth eraill yn ddyledus iddo am yr ohebiaeth helaeth a adawodd i'r Gymdeithas Celfyddydau, ac aelodau eraill y diwydiant, yn awgrymu gwelliannau i dechnegau gwneud haearn. Mae ei ohebiaeth wedi ei diogelu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Bu farw John Bedford yng nghartref ei frawd yn Digbeth ar Fedi 30, 1791. Claddwyd ef ym mynwent Capel Marston, Hall Green a rhannwyd ei ystad rhwng ei wraig a'i blant. Wedi iddo farw cafwyd ymdrechion i ail ddechrau mwyndoddi yng Nghefn Cribwr, ond aflwyddiannus fu'r ymdrechion hynny.
Ffynonellau
Granville, Neville. Cefn Cribwr: Chronicle of a village. Stewart Williams, Y Barri: 1980.
Rees, D. Morgan. 'John Bedford: A Lesser-known Ironmaster.' Journal of the South East Wales Industrial Archaeology Society. (Detholiad). 1967.
Riden, Philip. John Bedford and the Ironworks at Cefn Cribwr. Philip Riden, 1992.
James Brogden (1832 - 1907)
Trwy ganiatâd Keith E. Morgan (Around Porthcawl, Newton and Nottage, Chalford, 1996) |
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Mae'n debyg mai James Brogden a'i deulu oedd un o'r dylanwadau mwyaf ar dwf Porthcawl. Erbyn 1856 roedd y teulu Brogden, un o gwmnïau allforio mwynau mwyaf Furness, Sir Gaerhirfryn, yn allforio 200,000 tunnell o Barrow i Dde Cymru. Y cysylltiad hwn â De Cymru a barodd i John Brogden ddod i wybod am anawsterau ariannol Syr Robert Price, perchennog Gwaith Haearn Tondu. O fewn rhyw ddwy flynedd symudodd Brogden a'i Feibion i mewn ac erbyn 1855 roeddent wedi prynu Gwaith Haearn Tondu yn swyddogol. Daethant hefyd yn berchen ar yr hawl i gloddio am lo a haearn yn Nhondu a'r wlad o'i amgylch.
Rhoddwyd y gweithfeydd yng ngofal James Brogden ac amryw o gynorthwywyr, a llwyddasant i'w troi yn fusnes proffidiol. Dechreuasant hefyd fwyngloddio tir yng Nghribwr Fawr a Park Slip; Cae-Gwarel; Blaen Cwmdu; Garth Fach a Chwmdu Canol. O'r diwedd, pan ymestynnwyd y mentrau cloddio glo hyn ymhellach i fyny'r cymoedd roedd angen ffordd o gario'r glo ymaith. Dyma arweiniodd at adeiladu rheilffordd o Nantymoel at y gyffordd â Rheilffordd Cwm Llynfi yn Nhondu ac adeiladu rheilffordd o Dondu i Borthcawl. Roedd hon wedi ei chwblhau erbyn 1865.
O ganlyniad i'r datblygiadau yng Nghwm Ogwr, nid oedd y dociau ym Mhorthcawl bellach yn ddigonol ar gyfer trin y fasnach glo a mwyn haearn. Llwyddodd teulu'r Brogden i gael Deddf Seneddol yn 1864 er mwyn gwella Doc Porthcawl. Rhoddwyd James yng ngofal y gwaith hwn a gwblhawyd o'r diwedd yn 1867. Gallai'r doc newydd hwn dderbyn llongau cymharol fawr, ac o ganlyniad yr oedd 165,000 o dunelli o lo wedi ei gludo o'r doc erbyn 1871.
Prynodd James Brogden hefyd 32 acer o dir oedd yn ffinio â'r doc newydd ym Mhorthcawl gyda'r bwriad o sefydlu tref arno. Stryd John oedd y gyntaf i'w chodi, wedi ei henwi ar ôl y penteulu. Tua 1865 dechreuwyd adeiladu cartref y teulu Brogden, Tŷ Newydd, a ddaeth yn ddiweddarach yn Westy'r Seabank. Cwblhawyd y Rhodfa yn 1887.
Fodd bynnag, cafodd cwymp y fasnach yn harbwr Porthcawl effaith ddychrynllyd ar hynt teulu'r Brogden, ac wedi marwolaeth James yn 1907 gorfodwyd ei wraig Mary Caroline i werthu Tŷ Sea Bank ynghyd â thiroedd eraill o amgylch Porthcawl. Claddwyd James Brogden ym mynwent Eglwys y Plwyf yn Newton.
Ffynonellau
The Brogden pioneers of the early industrial development in
Mid Glamorgan gan L.S. Higgins
Around Porthcawl, Newton and Nottage casglwyd gan Keith E. Morgan
Tondu Iron Works gan Wyn Price
Newton, Nottage and Porthcawl gan L.S. Higgins
Porthcawl, Newton and Nottage gan Alun Morgan
Porthcawl: its history and development gan Alun Morgan
Christopher Williams RBA (1873 - 1934)
Arlunydd A Phaentiwr Portreadau O Faesteg
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
1873
Ganed Christopher David Williams, mab Evan and Mary Williams, ar Ionawr 7fed yn Stryd Commercial, Maesteg. Yr oedd ei dad, a hanai o Lanllwch, ger Caerfyrddin, yn berchen ar siop groser yn Stryd Commercial oedd â thebot enfawr yn crogi uwch y ffenestr ac a elwid yn lleol yn "Siop Williams Tebot". Oherwydd i'w fam farw, anfonwyd Christopher i fyw gyda Mrs Phoebe Williams yn Stryd Brown, Nantyffyllon. Yn ddiweddarach aeth yn ôl i fyw yn "Siop Williams Tebot". Gelwid ef "Christie" gan ei ffrindiau, ac aeth i Ysgol Gwaith Haearn Llynfi lle sylweddolodd Jeremiah Williams, athro'r dosbarth arlunio, bod dyfodol disglair iddo fel arlunydd.
1886
Yn 13 mlwydd anfonwyd ef i ysgol breswyl Monkton House yng Nghaerdydd.
1889
Yn 16 mlwydd oed gadawodd Gaerdydd a mynd i Ysgol Uwchradd Croesoswallt.
1891
Yn ystod ei flwyddyn olaf yng Nghroesoswallt aeth ar ymweliad ag Oriel Gelf Walker yn Lerpwl, a chafodd ei gyfareddu gan y ffigwr-lun "Perseus ac Andromeda" gan Lord Leighton. Gwnaeth hyn ef yn fwy penderfynol fyth o fod yn arlunydd yn hytrach na meddyg. Wedi llawer o ddadlau penderfynodd ei dad ei gefnogi yn yr yrfa yr oedd wedi ei dewis. Astudiodd gyda Mr F.J.Kerr (1856 - 1928), a ddysgai yn ei gartref yn Heol y Lladd-dy, Castell-nedd ac yn Athrofa Dechnegol Castell-nedd.
1893
Enillodd ysgoloriaeth a roddai'r hawl iddo gael tair blynedd o addysg yn rhad ac am ddim yn y Coleg Celf Brenhinol.
1896
Enillodd fynediad rhad ac am ddim i Ysgolion yr Academi Frenhinol. Gan ei fod yn byw yn Kensington, o fewn cyrraedd rhwydd i orielau celf a stiwdios, yr oedd yn parhau dan ddylanwad yr arlunwyr Lord Leighton a'r Cymro G.F.Watts.
1899
Cyfaill iddo yn Llundain, "Mrs Sackville Evans" oedd gwrthrych y portread cyntaf a gomisiynwyd ganddo.
1902
"Paolo a Francesca" oedd ei lun cyntaf i gael ei arddangos yn yr Academi Frenhinol.
1903
Dangoswyd ei bortread olew ar ganfas, "Evan Williams, Tad yr Arlunydd", yn yr Academi Frenhinol, a hefyd yn "Yr Orendy, Margam".
1904
Ar Fedi 21ain priododd ag Emily Appleyard yn Eglwys yr Holl Saint, Scarborough. Aethant ar fis mêl estynedig i'r Eidal, gan ymweld â Fenis ar eu ffordd adref wedi blwyddyn oddi cartref.
1905
Ar Hydref 13eg ganed eu mab cyntaf, Gwyn, yn Kensington.
1908
Ganed eu hail fab, Ivor.
Yn ei araith gyhoeddus gyntaf, yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, beirniadodd y diffyg cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr celf yng Nghymru. Roedd o'r farn y dylai gwleidyddion a pherchenogion mwyngloddiau cyfoethog gynorthwyo i ddarparu "celf ar gyfer y bobl yn hytrach na'r bonedd yn unig". Yn ddiweddarach, o ganlyniad i'w ddiddordeb mewn sosialaeth, daeth yn aelod o Gymdeithas y Ffabiaid.
1911
Ymwelodd â Pharis ym mis Ebrill. Ym mis Gorffennaf derbyniodd gomisiwn gan y Brenin George V i weithio ar lun coffaol o Arwisgiad Edward, Tywysog Cymru, yng Nghaernarfon. Yn ogystal â mynychu'r seremoni, ymwelodd â Phalas Buckingham lle'r eisteddodd y Teulu Brenhinol er mwyn iddo allu cwblhau manylion y llun. Gwnaeth ddau fersiwn o'r llun hwn.
Yn ystod haf 1911 paentiodd y cyntaf o dri phortread a wnaeth o Lloyd George. Disgrifiwyd Christopher gan Lloyd George fel "un o'r arlunwyr mwyaf dawnus a gynhyrchodd Cymru". Dechreuodd Christopher weithio hefyd ar "Deffroad Cymru: The Awakening of Wales".
1915
Paentiodd "Branwen", un o dri gwrthrych o'r "Mabinogion" a gwblhaodd. Y lleill oedd "Ceridwen" (1910) a "Blodeuwedd" (1930). Yn "Branwen" y gwelwyd dechreuad ei ofal am burdeb lliw, ac yn y llun olew hwn cyfyngodd ei hunan i ddefnyddio coch, melyn a glas yn unig.
1916
Wedi i Lloyd George ofyn iddo baentio "Cyrch yr Adran Gymreig yng Nghoedwig Mametz", ymwelodd Christopher â blaen y gad ym mis Tachwedd, ac mae'r llun hwn yn cyfleu'r holl erchylltra a'r oferedd a deimlai am ryfel.
1917
Dyma flwyddyn cwblhau'r gweithiau canlynol: - "Y Ffrog Goch", llun o wraig yr arlunydd ar Ynys y Bermo, "Ger Merthyr Mawr", a "Gaeaf ym Morgannwg" a elwir hefyd "Coed Cynffig".
1925
O'r dyddiad hwn hyd 1932 roedd Christopher yn aelod o Bwyllgor Celf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd roedd ei weithiau yn dal i gael eu derbyn yn gyson gan yr Academi Frenhinol, a pharhaodd yntau i hybu diddordeb yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
1934
Ar Orffennaf 18fed cyflwynodd Gwyn ac Ivor, ei feibion, "Paolo a Francesca" a llun Christopher o'i dad i gynulleidfa fawr yn Neuadd y Dref Maesteg. Nid oedd Christopher yn ddigon iach i fod yno, a bu farw'r noson ganlynol wedi darllen y neges telegram a ddywedai bod y seremoni ym Maesteg wedi bod yn llwyddiant. Wedi'r gwasanaeth angladdol yn Llundain, gwasgarwyd ei lwch ar y bryn yn Llangynwyd, lle a fu'n annwyl yn ei olwg ers ei blentyndod. Mynychodd Mrs Williams a'i meibion y seremoni ac arweiniwyd y gwasanaeth gan hen ffrind i Christopher, y Parchg. Samuel Williams.
Ôl-Nodyn
Daeth ei fab hynaf, Gwyn, yn seryddwr o fri, a daeth Ivor yn arlunydd enwog yn ei hawl ei hun.
Yn 1994, cafodd 17 o'i weithiau eu hadfer a'u gosod i'w harddangos yn barhaol: chwech ohonynt yn Neuadd y Dref Maesteg a'r gweddill yn Swyddfeydd Dinesig y Cyngor Bwrdeistref ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Credai Christopher Williams bod angen proffil uwch ar Gelf ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed Ganrif: siawns nad yw ef yn haeddu gwell cydnabyddiaeth am ei gyfraniad ei hun i fyd Celf.
Ffynonellau
Williams, Jeremiah (ed.), 1955. Christopher Williams RBA : an account of his life and appreciations of his work, 2il argraffid. Caernarfon : Delyn Press.
Dictionary of Welsh biography down to 1940,1959. London : Honourable Society of Cymrodorion.
Williams, Jeremiah (gol.), 1955. Christopher Williams RBA : an account of his life and appreciations of his work, Ail Argraffiad. Caernarfon : Gwasg y Delyn.
Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940,1959. Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion.
Rees, Y Parchg. T. Mardy, 1925. Welsh painters, engravers, sculptors (1527 - 1911). Caernarfon : Welsh Publishing Co [am Bortread].
Ffeil fywgraffyddol Astudiaethau Lleol Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr [am doriadau'r Wasg].
Cysylltiadau Gwe:
John Thomas (Pencerdd Gwalia)
Telynor i'r Frenhines Victoria ac i'r Brenin Edward VII
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganwyd John Thomas ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 1af Mawrth 1826 i deulu mawr a pharchus. Roedd ei dad, John Thomas yr hynaf (teiliwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn glarinetydd amatur mewn band lleol wedi dechrau hyfforddi John i chwarae'r picolo pan oedd yn bedair oed.
Erbyn ei fod yn chwech oed roedd John yn ddigon medrus i chwarae mewn band pres lleol ar lefel sirol. Pan brynodd ei dad ffidil iddo wnaeth e ddim dangos diddordeb ond pan glywodd delyn a ddygwyd i'r tŷ penderfynodd mai hwn oedd yr offeryn yr oedd am ei chwarae. Prynodd ei dad hen delyn deires iddo gan Thomas Evans, cyfansoddwr "Y Ferch o'r Sger", a gyda Llywelyn Williams fe ddysgodd John sut i chwarae.
Enillodd John y delyn deires "arian" pan yn 12 oed yn Eisteddfod y Fenni. Roedd Syr Charles Morgan llywydd y digwyddiad am anfon John i'r Academi Cerdd Brenhinol. Anfonodd y teulu i Lundain lle y chwaraeodd John mewn parti a roddwyd gan y Fonhesig Augusta Ada Lovelace, merch yr Arglwydd Byron. Gwnaeth y dyn ifanc hwn gymaint o argraff arni fel ei bod wedi cynnig talu tri chwarter costau ei gwrs yn yr Academi Brenhinol cyhyd â bod y teulu yn talu'r gweddill. Felly cynigiwyd gwaith i'r tad fel teiliwr yn 'St. Paul's Churchyard' lle y bu'r teulu yn byw am bron 20 mlynedd.
Dyfarnwyd teitl "Pencerdd Gwalia" i John Thomas yn Eisteddfod Aberdâr yn 1861, a'r flwyddyn ganlynol cyflwynodd gyngherddau o gerddoriaeth Gymreig yn Llundain ac yn fuan cynhaliodd deithiau datganiad ar y cyfandir ac erbyn 1872 roedd wedi'i benodi'n delynor swyddogol i'r Frenhines Victoria.
Er gwaethaf ei lwyddiant yn Llundain nid anghofiodd ei dref enedigol a dychwelodd yn 1877 i chwarae mewn cyngerdd budd er lles dioddefwyr llifogydd lleol.
Bu farw John Thomas yn 1913 yn 87 oed.
Ffynonellau
- Cleaver, Emrys. Musicians of Wales: an account of the lives and work of the major musicians (John Jones, 1968)
- Notable Welsh musicians (of today), with portraits, biographies and a preface on the condition of music in Wales at the present time (wedi'i olygu gan Frederic Griffith). (Francis Goodwen, 1896)
- Welsh music history = Hanes Cerddoriaeth Cymru/golygydd:editor: Sally Harper
- Glamorgan Gazette 1904; 1928.
Mary De la Beche Nicholl 1839 - 1922
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
"Ar 30ain Mai 1860, mynychodd teuluoedd bonedd Morgannwg briodas ffasiynol yn Eglwys Sgeti, Abertawe. Merch ifanc brydferth, merch hynaf gŵr busnes uchel ei barch, diwydiannwr ac Aelod Seneddol, oedd y briodferch. Roedd y priodfab un mlynedd ar bymtheg yn hŷn na'r briodferch, yn bennaeth teulu o dirfeddianwyr cydnabyddedig gydag ystâd fawr yn un o leoliadau prydferthaf y sir, teulu oedd yn nodedig am ei barchusrwydd dilychwin." Dyna ddywed Hilary Thomas yn rhagymadrodd ei llyfr "Grandmother Extraordinary", sy'n seiliedig ar ddyddiaduron Mary. Y briodferch oedd Mary De la Beche Dillwyn a'r priodfab, John Cole Nicholl o Dŷ Merthyr Mawr.
Roedd Mary yn fenyw arbennig a deithiodd y byd i ddringo mynyddoedd a chasglu gloynod byw, a gellir gweld ei chasgliad gloynod byw yn Amgueddfa Abertawe. Yn y llyfr, mae ei wyres Olive yn son am yr atgof canlynol am ei Mam-gu:
Cyn i fy Mam-gu gychwyn ar un o'i hymweliadau â gwledydd y Balcan cofiaf yn fyw hi'n dweud yn hollol bendant wrth fy nhad, "Cofia John, os bydd lladron yn fy nal nid wyt ar un cyfrif i dalu pridwerth amdanaf."
Ymhlith y mannau y bu'n ymweld â hwy yr oedd gwledydd y Balcan, Bwlgaria, Columbia Brydeinig a Libanus. Teithiai gydag esgidiau dringo, rhwyd gloynod a phabell ynghyd ag amrywiaeth cosmopolitanaidd o dywyswyr a gwarchodwragedd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Mary gellir benthyg y llyfr o Lyfrgelloedd Pen-y-bont. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Dŷ Merthyr Mawr yn y llyfrgell Astudiaethau Lleol.
Ffynonellau:
- THOMAS, Hilary. Grandmother Extraordinary (Stewart Williams Publishers, 1979)
Dr Richard Price
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales |
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganwyd Richard Price yn Nhynton, Llangeinwyr, Morgannwg ar 23 Chwefror 1723. Roedd yn fab i Rees a Catherine. Derbyniodd ei addysg ym Mhentwyn, Chancefield a Moorfield a rhwng 1740-1744 astudiodd yn Academi'r Ymneilltuwyr yn Llundain.
Ar ddiwedd ei astudiaethau, daeth Richard Price yn gaplan teulu i Mr Streatfield o Stoke Newington; swydd a roddodd amser iddo barhau â'i astudiaethau. Priododd Sarah Blundell ar 16 Mehefin 1757 a blwyddyn yn ddiweddarach daeth yn bregethwr yn y tŷ cwrdd yn Newington Green. Roedd yn awdur toreithiog a daeth i amlygrwydd cyhoeddus gyntaf yn 1758 pan gyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl "A Review of the Principal Questions and Difficulties in Morals".
Disgrifiwyd Dr Price fel un o Gymry mwyaf yr oesoedd. Roedd yn ymgyrchydd mawr dros ryddid a chydraddoldeb, gan ddod yn rhyddfrydwr ac ymneilltuwr blaenllaw yn y cyfnod hwnnw. Cefnogodd Ryfel Annibyniaeth yr Amerig yn erbyn Prydain ac egwyddorion y Chwyldro Ffrengig.
Roedd Dr Price yn eithriadol ddawnus ym myd arian. Ef oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r tablau actwari, a ddefnyddir hyd y dydd hwn wrth asesu risgiau aswiriant bywyd. Ymhellach, datblygodd y system ariannol yn yr Unol Daleithiau a chynghorodd Ffrainc ynglŷn â'i system ariannol.
Derbyniodd lawer o anrhydeddau yn ystod ei fywyd:
Ar y 05 Rhagfyr 1756, fe'i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. | |
Ar 07 Awst 1767, derbyniodd radd gan Goleg Marischal, Aberdeen. | |
Ar 24 Ebrill 1781, dyfarnodd Iâl Ddoethuriaeth yn y Gyfraith i George Washington a Richard Price. | |
Yn 1778, cafodd ei gyflwyno â Rhyddfraint Dinas Llundain. |
Ar 06 Hydref 1778, gwahoddwyd Richard Price i America i gynghori'r Gyngres ar reoleiddio ei chyllid, fodd bynnag, teimlai ei fod yn rhy hen i wneud newidiadau o'r fath.
Bu farw yn 1791. Daeth Richard Price yn enwog iawn yn America a heddiw fe'i cofir yn fwy yn yr Unol Daleithiau nag yn y DG.
Gweithiau gan Dr Richard Price
Price, Richard, (1723-1791). A review of the principal questions in morals. Clarendon Press, 1948. | |
Price, Richard, (1723-1791). Four dissertations: I. On providence; II. On prayer; |
Gweithiau am y Dr Richard Price
Laboucheix, Henri. (Sylvia and David Raphael, cyfieithwyr). Richard Price as moral philosopher and political theorist. The Voltaire Foundation, 1982. | |
Williams, Chris (golygydd). Richard Price and the Atlantic revolution. Llafur, 1991. |
Caroline, Iarlles Dunraven
|
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Erbyn amser ei marwolaeth yn 1870, roedd Caroline Iarlles Dunraven wedi gadael sawl atgof parhaol am deulu Dunraven i bobl Pen-y-bont ar Ogwr. Etifeddodd Caroline stad Dunraven ar farwolaeth ei thad, o ganlyniad i farwolaeth ei dau frawd hŷn. Yn 1810, priododd yr Anrhydeddus Windham Quin, Aelod Seneddol Swydd Limerick, Iwerddon. Yn ystod ei bywyd priodasol bu Caroline yn byw yng Nghymru ac Iwerddon. Pan fu farw ei phriod yn 1850, dychwelodd Caroline i Dunraven (Dwn-rhefn) i fyw am weddill ei bywyd.
Cefnogodd Caroline osod cyflenwad dŵr newydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, a gwblhawyd tua 1857. Ariannodd y prosiect cyfan gan gynnwys y cyflenwad dŵr a'r pibau. Cafodd ymdrechion Caroline eu cydnabod gan y dref, oherwydd yn gynnar yn 1858 anfonodd trigolion y dref gyfarchiad at yr Iarlles yn diolch iddi am ei hymdrechion. Yn 1860, rhoddodd Caroline Ffynnon Ddŵr Yfed Goffa Randall i'r dref. Codwyd hon ar waelod Heol y Llys er cof am John Randall, a reolai ei hystâd. Henry John Randall, ŵyr Randall, oedd awdur "Bridgend: the story of a market town". Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Caroline a theulu Dunraven, yna galwch heibio un o'r llyfrgelloedd astudiaethau lleol.
Ffynonellau:
- "Historical anecdotes of Dunraven Castle, in the Vale of Glamorgan", Edward Williams
- "Past times and pastimes", Cyfrolau 1 + 2, W.H.W. Dunraven
- "Dunraven castle Glamorgan, some notes on its history and associations", W.H.W. Dunraven
- "Bridgend: the story of a market town", H.J. Randall
- "Buildings of special architectural or historical interest - Bridgend Ogwr district", Cadw
Syr Morien Bedford Morgan (1912 - 1978)
Cysylltiadau Lleol:Erthyglau eraill Oriel Anfarwolion:Dr Henry John Randall |
Ganwyd Syr Morien Bedford Morgan, peiriannydd awyrennol enwog, yn Caroline Street, Pen-y-bont ar Ogwr ar 20fed Rhagfyr 1912, yn fab i John Bedford Morgan, dilledydd, ac Edith Mary (Thomas gynt), athrawes. Roedd gan y teulu ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth ac, yn ogystal â bod yn bianydd ac organydd medrus, roedd gan Morien lais tenor da hefyd. Derbyniodd ei addysg yn yr ysgolion canlynol; Ysgol Elfennol Pen-y-bont ar Ogwr; Ysgol Coleg Magdalen, Rhydychen, fel corydd; Ysgol Sirol y Bechgyn Aberdâr; Ysgol Uwchradd Canton, Caerdydd; ac Ysgol Rutlish, Merton, Llundain.
Yn 1931 aeth i Goleg St. Catharine, Caergrawnt a derbyniodd wobr John Bernard Seely mewn awyrenneg yn 1934.
Fe'i recriwtiwyd gan y Sefydliad Awyrennau Brenhinol, Farnborough yn 1935. Llwyddodd ei wybodaeth wyddonol, ei brofiad ymchwil, ei egni a'i frwdfrydedd i ddatrys nifer o broblemau erodynameg ar gyfer y prif gynhyrchwyr awyrennau yn ystod y blynyddoedd cyn y rhyfel.
Ym mis Tachwedd 1956, daeth Morien yn gadeirydd y Pwyllgor Awyrennau Teithio Uwchsonig. Fel cyfarwyddwr y rhaglen ymchwil i ddichonoldeb awyren uwchsonig sifil, bu ei frwdfrydedd a'i gred mewn teithio awyr uwchsonig yn gyfrifol am ddatblygiad Concorde.
Rhwng 1959 a 1969 bu Syr Morien yn ymgynghorydd gwyddonol i'r Weinyddiaeth Awyr (blwyddyn) ac yna daliodd swyddi yn y Weinyddiaeth Hedfan, cyn dychwelyd i'r Sefydliad Awyrennau Brenhinol fel Cyfarwyddwr o 1969 hyd 1972. Fel arweinydd tîm talentog mae llawer o'r clod am lwyddiant technegol Concorde yn ddyledus iddo ef.
Ysgrifenna E.G. Broadbent yn y "Dictionary of National Biography" am allu Syr Morien i ddod i adnabod a deall pob math o bobl, ac i berswadio grwpiau amrywiol i gydweithio.
O 1972 hyd ei farwolaeth ar y 4ydd o Ebrill 1978 roedd Morien yn feistr Coleg Downing, Caergrawnt. "ble roedd ei frwdfrydedd a'i hiwmor da ynghyd â'i gyfaredd Gymreig, ei huodledd a'i gariad at gerddoriaeth" yn gwneud yn siŵr ei fod yn tynnu ymlaen yn dda gyda phawb.
Cafodd Morien Morgan ei anrhydeddu gyda'r CB yn 1958 ac fe'i gwnaed yn Farchog yn 1969.
Bu'n llywydd y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol yn 1967-8, a derbyniodd nifer o freintiau eraill ym maes peirianneg awyrennol, a daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1972.
Ffynonellau:
"Bridgend 900" ed. D.J. Pearce 1993 tudalen 79
"Dictionary of National Biography 1971-1980"
"Who Was Who Vol VII 1971-1980"
"Western Mail" 7fed Ebrill 1978 ar microfilm
"The Times" 6fed Ebrill 1978 - ysgrif goffa o'r Ffeil Bywgraffiadol Astudiaethau Lleol
Cysylltiadau Gwe:
Brooklands Museum, Weybridge, Surrey
Concorde SST - The Definitive Concorde Aircraft Site on the Internet
British Airways - Celebrating Concorde
- Last Updated: 01/06/2006
- Rate this page
- Back to top




















