Rhwydwaith Y Bobl
Cyfleusterau AM DDIM cyfrifiadurol yn eich llyfrgell leol
Beth yw Rhwydwaith y Bobl?Mae cyfleusterau cyfrifiadurol DI-DÂL yn cael eu darparu yn eich llyfrgell leol i'w defnyddio gan bawb. Cronfa Cyfleoedd Nweydd y Loteri sy'n ariannu'r ymgyrch yma sy'n rhan o ymrwymiad y llywodraeth i addysg gydol bywyd a darpariaeth gwybodaeth. |
|
Mae gan bob llyfrgell leol y cyfleustrerau Rhwydwaith y Bobl canlynol:
- Cyrchiad cyflym i'r Rhyngrwyd
- E-bost
- Meddalwedd Microsoft Office (prosesugeiriau, taenlenni ac ati)
- Sganwyr ac argraffwyr
- Llwytho i lawr i CD a USB drive
Bydd Rhwydwaith y Bobl yn agor casgliadau hanes leol unigryw Gwasanaeth Llyrgelloedd a Gwybodaeth Pen-y-bont i bawb. Mae yna raglen halaeth ar waith i roi miloedd o ffotograffau, dogfennau a thestunau ar gael ar bob terfynell gyfrifiadurol a thros y Rhyngrwyd.
Sut ydw i'n defnyddio Rhwydwaith y Bobl?
- Bwydd Rhwydwaith y Bobl ar gael AM DDIM yn y llyfrgelloedd a restrir.
- Os ydych chi eisoes yn aelod o llyfrgell, does raid i chi ond cwblhau ffurflen syml i ddechrau defnyddio Rhwydwaith y Bobl (os ydych chi o dan 16 oed bydd angen llofnod rhiant).
- Os nad ydych chi'n aelod o llyrfgell eto, ymholwch ynghylch ymuno yn eich llyfrgell leol..
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bawb.
- Os nad ydych chi erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen, peidiwch â phoeni. Bydd staff yn eich llyfrgell leol yn dangos i chi sut.
- Mae hi'n bosibl archebu sesiynau ar gyfer grwpiau neu fudiadau. Ymholwch yn eich lyfrgell leol.
Mae croeso i chi gysylltu â'ch llyfrgell leol neu Bencadlys y Llyfrgelloedd (Ffôn: 01656 754800) os oes gennych unrhyw gwestiwn am Rwydwaith y Bobl
Ble gallaf i ddefnyddio Rhwydwaith y Bobl?
Ganolfan Hanes Lleol a Theuluol Llyfrgell Abercynffig Llyfrgell Betws Canolfan Bywyd Cwm Ogwr Llyfrgell Maesteg Llyfrgell Pencoed Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr Llyfrgell Pontycymer Llyfrgell Porthcawl Canolfan Bywyd Y Pîl Llyfrgell "Cyberlink" Sarn Y Llynfi |
- Last Updated: 29/09/2011
- Rate this page
- Back to top








