Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Dechrau Da

Ers mis Gorffennaf 1999 mae Dechrau Da Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn dosbarthu llyfrau AM DDIM i fabanod pan fyddant yn mynychu eu gwiriad iechyd 7 i 9 mis yn y clinig. Ariennir y cynllun gan Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru. Mae cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr ac ymwelwyr iechyd Ymddiriedolaeth Iechyd Bro Morgannwg yn sicrhau bod rhieni yn derbyn y neges nad yw hi fyth yn rhy gynnar i gyflwyno llyfrau i fabanod.

 

Cysylltiadau Lleol:

English/Saesneg

Gwasanaethau i blant
Amser Stori

Bownsio a Rhigymu
Chatterbooks
Gwaith Cartref

Gwerth eu Darllen!

Ymgyrch Helfa Lyfrau Dechrau Da

 

Bagiau Dechrau Da

 



Mae pob deunydd Dechrau Da yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog. Mae pob pecyn Dechrau Da yn cynnwys y deunyddiau AM DDIM canlynol:Bag cynfas o ansawdd da yn cynnwys:2 lyfr adnabyddus (un yn Saesneg, y llall yn ddwyieithog)Taflen o ganllawiau ar gyfer rhieni/gofalwyr ar gyfer rannu llyfrau.Rhigymau a Llyfrau i fabanod: taflen ddwyieithog yn rhoi manylion am ystod o lyfrau ar gyfer babanod.Mat bwrdd hwiangerddi.Taflen wybodaeth am y llyfrgell: manylion ynglŷn â Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr gyda ffurflen ymaelodi.

Dylai pob babi gaiff ei eni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dderbyn bag Dechrau Da pan fydd yn mynychu clinig ar gyfer gwiriad iechyd 7 - 9 mis. Holwch yn eich llyfrgell leol os na fyddwch, am ba bynnag reswm, wedi derbyn bag.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar gyfer rhannu llyfrau gyda babanod a phlant bach ar wefan Dechrau Da ar http://www.bookstart.co.uk/

Yn leol