Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Hwb adfywio gwerth £9m i ganol tref Pen-y-bont

Mae rhaglen adfywio sy’n werth £9m i drawsnewid canol tref Pen-y-bont wedi cael sêl bendith yn dilyn hwb ar ffurf cyllid gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae mwy na £7.7m wedi cael ei gymeradwyo trwy Raglen Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir. Ynghyd â chyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn cyflawni’r cynllun, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y dref yn cael bywyd newydd, gan roi hwb i hyder masnachol a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal.

Trwy’r cynllun, bydd Heol y Llys – y fynedfa draddodiadol i mewn i ganol y dref i ymwelwyr sy’n cyrraedd ar drên – rhan ddeheuol Stryd Nolton, Heol Ogleddol Merthyr Mawr, Cheapside, Heol Derwen a Stryd y Groes oll yn elwa o welliannau. Bydd y rhain yn amrywio o un lleoliad i’r llall a byddant yn nodweddiadol yn cynnwys dodrefn stryd newydd, uwchraddio eiddo masnachol, gwaith treftadaeth a gwelliannau i ddiogelwch cerddwyr, hygyrchedd a rheoli traffig. Mae prosiect adfywio eisoes ar y gweill yn Stryd Elder, a bydd y cyllid newydd yn ei galluogi i elwa o welliannau pellach a chysylltiadau â’r ardal bresennol i gerddwyr.

Wrth gyhoeddi’r pecyn cyllid, meddai’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt: “Mae’r modd llwyddiannus yr ydym yn rheoli adnoddau’r UE yn sicrhau bod cynlluniau hanfodol fel hwn yn gallu cael eu cyflawni er mwyn dwyn manteision parhaol i bobl, cymunedau a busnesau. Bydd y buddsoddiad hwn yn creu amgylchedd gwell a mwy o gyfleoedd a fydd yn cynyddu ffyniant i’r rheiny yn y dref a thu hwnt.”

Fel rhan o’r cynllun, bydd cysylltiadau rhwng datblygiadau a rhannau mwyaf canolog y dref hefyd yn cael eu gwella er mwyn sicrhau mynediad rhwyddach at gyfleusterau a gwasanaethau lleol.

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Jocelyn Davies: “Bydd gwella golwg y dref yn cynyddu hyder darpar fuddsoddwyr, yn rhoi cymorth i’r sector manwerthu ac yn cynyddu balchder pobl yn y gymuned leol a fydd yn elwa o amgylchedd deniadol lle gallant fyw, gweithio a ffynnu.”

Bydd y cyllid yn adeiladu ar gamau adfywio blaenorol a chyfredol yng nghanol y dref sydd wedi’u bwriadu i wella’i olwg, ei enw da fel canolfan fanwerthu a’i apêl cyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd David Sage, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y byddai’r cyllid yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyfnod newydd o adfywio i dref fwyaf yr ardal.

Meddai: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn uchelgeisiol tu hwnt ar gyfer yr ardal gyfan. Rydym wedi gwneud cynnydd da ym Maesteg ac rydym wrth ein bodd bod ein cynlluniau adfywio ar gyfer Porthcawl yn mynd rhagddynt yn sgîl cyhoeddi’n ddiweddar enw’r datblygwr a ffafrir ar gyfer adfywio ardal y glannau a chymeradwyo arian grant Ewropeaidd tuag at gynllun yn yr harbwr.

“Rydym wedi cyflawni cryn dipyn yng nghanol tref Pen-y-bont dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae cyhoeddiad heddiw ynghylch cyllid newydd o fwy na £9m yn mynd i fod o gymorth mawr i ni o ran prysuro ein gwaith ar brosiectau adfywio. Rydym yn dymuno creu amgylchedd deniadol, ffyniannus yng nghanol y dref sy’n gwarchod y gorffennol hanesyddol tra’i fod ar yr un pryd yn creu dyfodol modern.

“Bydd llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar olwg canol y dref, gwarchod a gwella adeiladau hanesyddol ac allweddol ac uwchraddio unedau eiddo i ddarparu arwynebedd llawr cadarnhaol a deniadol. Ond byddwn hefyd yn cydweithio â busnesau lleol i wneud Pen-y-bont yn gyrchfan o ddewis.”

Nodiadau i Olygyddion:

Caiff cynllun adfywio canol y dref ei ariannu â chyfraniad o £7.7m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys £3.2m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £4.5m o’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir. Yn ogystal, bydd dros £2m yn cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a ffynonellau preifat.

Mae rhaglenni £3.5bn y Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2007-2013 yng Nghymru’n cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (olynydd y rhaglen Amcan 1), a rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru.

Mae’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir yn darparu cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer sefydliadau o bob sector i roi cymorth gyda gweithgareddau cymwys dan raglenni’r Cronfeydd Strwythurol 2007-2013.

Yn leol

External Links