Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Helpu busnesau i arbed arian ar eu biliau ynni

Mae Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r ymgynghorwyr ynni, Enica, i gynnig cymorth amgylcheddol arbenigol rhad ac am ddim i fentrau bach a chanolig (MBCh) ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y pecyn cymorth yn hybu effeithlonrwydd ynni, yn lleihau’r ynni a ddefnyddir ac yn cyfrannu tuag at greu economi isel ar garbon yng Nghymru.

Bydd cwmnïau â bil ynni cyfun o fwy na £5,000 y flwyddyn yn cael cynnig y cyfle i gael dadansoddiad o’r ynni y maent yn ei ddefnyddio bob hanner awr ac, ochr yn ochr ag adolygiad o weithrediadau ar y safle, bydd yr ymgynghorwyr yn canfod ac yn mesur cyfleoedd ar gyfer arbedion ac yn cydweithio gyda Chydlynydd Adfywio Busnesau’r uned.

Meddai Tammy Raz-Nick, Cydlynydd Adfywio Busnesau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Bydd y pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth i gasglu a dadansoddi data ynghyd â chymorth i weithredu’r arbedion a adnabuwyd. Mae dewis ar gael hefyd lle gall busnesau gyflwyno cais i gynllun grant cyfalaf am 40% o’r costau hyd at uchafswm o £10,000 er mwyn cyflawni hyn. Ein nod yw cael gostyngiad o 5% yn yr ynni a ddefnyddir ym mhob busnes.”

Meddai’r Cynghorydd David Sage, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r prosiect hwn yn newyddion gwych ar ddwy lefel; mae’n dda i’r amgylchedd ac mae’n fanteisiol o ran ychwanegu gwerth at y busnes a thrwy hynny wella’r elw net.”

Mae’r prosiect yn rhedeg tan Fawrth 31 2011.

Yn leol

External Links