Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi’r ffordd ar gyfer cysylltiadau busnes â Belarws
Mae Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llywyddu ymweliad swyddogol gan ddirprwyaeth fusnes o Felarws a chynrychiolwyr o Siambr Masnach a Diwydiant Belarws. Roedd y ddirprwyaeth, dan arweiniad y Cadeirydd, Mr Vasili Ramanau, yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr er mwyn meithrin cysylltiadau busnes newydd â chwmnïau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfarfu’r ddirprwyaeth â chwmni Morris Line Engineering, Remploy Ltd, Maenordy Cwrt Colman a Creation Development Trust o Ben-y-bont. Yn ystod eu hymweliad, aeth y cynrychiolwyr ar daith hefyd o amgylch Spectrum Technologies PLC yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont, sydd eisoes yn prynu rhai o’u cyflenwadau o Felarws.
Derbyniodd Cadeirydd y ddirprwyaeth blac wedi’i gwneud o lechen Gymreig hefyd, gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Colin Teesdale, i goffáu’r ymweliad.
Estynnodd y Maer groeso i’r ddirprwyaeth, gan ddweud: “Mae cysylltiadau rhyngwladol yn bwysig iawn. Mae nifer o fusnesau yn yr ardal hon yn allforio a mewnforio ac mae ganddynt bartneriaid rhyngwladol, y mae pob un ohonynt yn fanteisiol i fusnes, masnach a’r economi. Dyma un o’r rhesymau pam ein bod yn falch i’ch cyfarch ac rwy’n gobeithio y bydd deilliannau cadarnhaol i’r ddwy ochr. Gobeithio y bydd eich ymweliad yn un llwyddiannus ac y gallwn feithrin perthnasoedd rhwng ein dwy ardal.”
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd y Cynghorydd David Sage, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â chysylltiadau cryf â Belarws o ran cyflenwi gofal dyngarol. Gan wneud sylw am yr ymweliad, meddai’r Cynghorydd Sage: “Roedd yn bleser gennyf gwrdd â’r ddirprwyaeth o Felarws. Mae fy nghysylltiadau i â’r wlad hyd yn hyn wedi bod yn gysylltiedig â materion dyngarol yn bennaf, felly roedd o ddiddordeb mawr i mi gael gweld y wlad o safbwynt gwahanol, sef busnes a masnach ryngwladol. ”
Gyda’r ddirprwyaeth yn ystod eu hymweliad â Chymru roedd Mr Michael Rye, Conswl Anrhydeddus Cymru i Weriniaeth Belarws. Meddai Mr Rye: “Fe ddechreuodd gwŷr busnes o Gymru ddangos diddordeb mewn sefydlu cysylltiadau busnes â Belarws yn ôl ym 1990, o ganlyniad i ymweliadau dyngarol â’r wlad. Mae’r diddordeb wedi bod yn cynyddu byth ers hynny ac mae llywodraeth Belarws wedi gwneud ymdrechion gwirioneddol i greu amgylchedd ffafriol ar gyfer buddsoddiad tramor. “
Aeth ymlaen: “Mae Belarws wedi datblygu ei hisadeiledd, mae ganddi lafurlu hynod gymwysedig a chystadleuol ac mae mewn lleoliad da yn ddaearyddol. Mae trosiant sy’n deillio o fasnach gyda’r DU yn fwy na biliwn o ddoleri’r UDA ac mae 135 o fentrau ym Melarws sydd wedi cael cyllid o Brydain ac mae nifer fawr iawn o gwmnïau Prydeinig yn dangos diddordeb cynyddol mewn cychwyn eu busnesau ym Melarws.”
Os hoffech wybod mwy am sefydlu cysylltiadau busnes â Belarws, cysylltwch â Michael Rye ar 02920 611304.
- Last Updated: 22/07/2010
- Rate this page
- Back to top







