Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gall y Cyngor helpu i gadw eich seddi ceir yn ddiogel

Pa mor ddiogel yw sedd car eich plentyn? Gallwch gael gwybod am ddim mewn digwyddiad profi seddi arbennig a gynhelir gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mis yma.

Fel rhan o Wythnos Diogelwch Plant, gall rhieni, gofalwyr, teidiau a neiniau neu unrhyw un sy’n dymuno i seddi eu plant gael eu harchwilio a’u profi wneud hynny trwy ymweld â Tesco, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar ddydd Iau Mehefin 24 a dydd Gwener Mehefin 25 rhwng 9am a 4pm.

Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd bod sedd car anaddas neu un a osodwyd yn wael yn peidio â diogelu eich plentyn, a dangos sut y gall ychydig o wybodaeth ychwanegol fod o gymorth i rieni a gofalwyr sicrhau diogelwch eu plant yn y dyfodol tra’u bod yn teithio.

Arbenigwyr y Cyngor fydd yn cynnal yr archwiliadau, sy’n gwbl rad ac am ddim ac yn cymryd 10 munud yn unig i’w cwblhau.

Yn gyfreithiol mae’n rhaid i blant dan 135cm (tua 4tr 5mod) o uchder sydd dan 12 oed ddefnyddio sedd baban, sedd plentyn neu sedd godi briodol – hyd yn oed ar siwrneiau byr.

Gallai defnyddio seddi diogel i blant mewn ceir yn y ffordd gywir atal nifer o’r marwolaethau a’r anafiadau i blant sy’n digwydd bob blwyddyn yn y DU.

Y llynedd fe gofnododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfradd methu o 80 y cant ar gyfer y seddi a archwiliwyd gan brofwyr arbenigol.

O’r 101 o seddi a archwiliwyd, cafwyd fod gan bron chwarter ddiffygion mawr megis bod y seddi wedi’u gosod yn anghywir, ac roedd gan bron hanner ryw fath o ddiffyg bach.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd David Sage: “Nod Wythnos Diogelwch Plant yw helpu pobl i ddeall y risgiau gwirioneddol i blant a’r newidiadau syml sy’n gallu lleihau’r risgiau hynny – fel bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau bywydau diogelach, iachach, mwy egnïol.

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r ymgyrch hwn mewn ffordd weithredol trwy gynnal ein digwyddiad i archwilio seddi’n rhad ac am ddim. Fel awdurdod rydym am godi ymwybyddiaeth y cyhoedd bod sedd car sy’n anaddas neu wedi’i gosod yn wael yn methu â diogelu’r plentyn. Gydag ychydig yn unig o wybodaeth ychwanegol, gall rhieni sicrhau bod eu plant yn ddiogel yn ystod siwrneiau yn y car a gobeithio y bydd yr archwiliadau hyn yn helpu i atal anafiadau o ganlyniad i ddamweiniau yn y dyfodol.”

Meddai Rheolwr y Gwasanaeth Safonau Masnach, Helen Picton: “Mae’r mathau o ddiffygion neu broblemau a all achosi risg i blant yn cynnwys seddi ceir wedi’u gosod yn llac, cyfeirio gwregys diogelwch y car yn y ffordd anghywir gan olygu nad yw sedd y plentyn yn ddigon sownd, seddi ceir nad ydynt yn addas ar gyfer gwneuthuriad a model y car a seddi ceir sy’n anaddas ar gyfer pwysau neu oedran y plentyn.

“I rywun sydd wedi derbyn hyfforddiant, mae’r diffygion hyn yn rhai hawdd i’w canfod a gellir achub bywydau, felly dewch i’r digwyddiad pwysig hwn.”

Cynhelir y digwyddiad ym maes parcio Tesco, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont rhwng 9am a 4pm ar ddydd Iau, Mehefin 24 a dydd Gwener Mehefin 25. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch ag Ellis Roberts, Uwch Swyddog Masnachu Teg, ar 01656 643643.

Ffeil Ffeithhiau

Rhowch ystyriaeth i’r canlynol bob amser wrth brynu a defnyddio sedd car ar gyfer eich plentyn:

A yw’n bosib gosod y sedd yn dynn yn eich car?

Nid yw pob sedd yn addas ar gyfer ceir o bob gwneuthuriad a model, ac mae wir yn werth profi cyn prynu, ac ymarfer cyn ei defnyddio. Dylech hefyd gofio hyn os byddwch yn newid eich cerbyd, neu pan fydd y sedd hefyd yn cael ei defnyddio i gludo plentyn mewn ceir eraill (e.e. ceir teidiau a neiniau, gwarchodwyr plant ac ati).

A yw’r sedd yn addas ar gyfer pwysau ac oedran y plentyn?

Caiff seddi i blant mewn ceir eu bandio yn ôl pwysau’r plentyn y maent wedi’u bwriadu ar ei gyfer. Sicrhewch eich bod yn dilyn cyngor y gweithgynhyrchwr, a sicrhewch fod y sedd yn cael ei disodli yn ôl yr angen wrth i’r plentyn dyfu.

A yw’r sedd wedi’i dylunio’n unol â’r safonau diogelwch cyfredol?

Chwiliwch am y marc cymeradwyo swyddogol (mark ‘E’ y Cenhedloedd Unedig fel arfer). Y safon ddiogelwch ar hyn o bryd yw R44.04.

A ydych wedi dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr yn ofalus i sicrhau bod eich plentyn wedi’i ddiogelu a’i gau i mewn yn dynn?

Os ydych yn gallu symud y sedd o ochr i ochr yn y car ni fydd wedi’i gosod yn ddiogel. Ni ddylai fod tro o gwbl yn y gwregys diogelwch i oedolion, ac ni ddylai’r bwcl fod yn gorffwys ar ffrâm sedd y plentyn. Dylid gwirio harnais y sedd yn rheolaidd a gwneud addasiadau i ymorol am y dillad y mae’r plentyn yn eu gwisgo, gan y gall harnais sy’n rhy llac arwain at ostyngiad dramatig mewn diogelwch.

Peidiwch BYTH â defnyddio sedd i blentyn sy’n wynebu tuag yn ôl mewn sedd teithiwr â bag aer.

Os ceir damwain, gall grym bag aer sy’n llenwi ag aer achosi anafiadau angheuol i blentyn sydd wedi’i ddiogelu fel yma.

Peidiwch BYTH â defnyddio sedd ail law ar gyfer plentyn oni bai eich bod yn gwybod ei hanes.

Efallai nad yw sedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn cyrraedd y safonau diogelwch cyfredol, ac efallai nad yw’n cael ei chyflenwi ynghyd â’r cyfarwyddiadau angenrheidiol ar gyfer ei gosod. Efallai fod y sedd eisoes wedi cael ei difrodi mewn damwain, rhywbeth a all effeithio’n ddifrifol ar ei diogelwch.

Yn leol

External Links