Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Swydd newydd i oruchwylio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa o benodiad sydd newydd gael ei gyhoeddi.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi enwi Dorothy Edwards yn gyd-gyfarwyddwr ardal cyntaf y sir. 

Bydd Dorothy’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth wedi’i gydgysylltu’n well rhwng y Cyngor a’r bwrdd iechyd i wella gwasanaethau ar gyfer ein trigolion hŷn, ein hoedolion agored i niwed a phobl â mam corfforol neu nam synhwyraidd.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Mel Nott: “Yn draddodiadol mae’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi cydweithio er budd pobl leol gan fod nifer o drigolion ac arnynt angen gofal cymdeithasol i oedolion hefyd yn bobl ac arnynt angen am wasanaethau a ddarperir gan y GIG.

“O ystyried yr heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu wrth geisio ateb y galw am ein gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mae cyfuno ein hadnoddau yn gwneud synnwyr.

“Fel rhan o’r dull hwn, rydym eisoes wedi datblygu swyddi a rennir ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a chyfleusterau megis y ganolfan Adferiad Rhwyddach yn eich Cymuned, a agorwyd yn ddiweddar gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.”

Bydd y cyd-gyfarwyddwr ardal yn atebol i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Lles yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae gan Dorothy Edwards gefndir ym maes rheoli gwasanaethau iechyd a hithau wedi gweithio yn y maes am 18 mlynedd, gan dreulio’r rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw’n datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau cynllunio mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol yn ardal Abertawe.

Meddai Dorothy: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cynnig y cyfle cyffrous hwn i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nes at ei gilydd.

“Bydd y trefniadau ardal newydd yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd y cyfrifoldeb am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd sylfaenol a gwasanaethau cymunedol rheng-flaen, yn ogystal ag ystod o wasanaethau mewn ysbytai gan gynnwys ysbytai cymunedol, dan yr un ymbarél.

“Bydd hyn yn wir ein galluogi i ganolbwyntio ar ddarparu gofal yng nghartrefi’r bobl eu hunain a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r materion penodol sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yn yr ardal.”

Meddai Win Griffiths, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi gallu penodi cyd-gyfarwyddwr ardal ar gyfer y swydd ym Mwrdd Iechyd PABM sy’n gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr.

“Rwy’n credu mai cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yw’r ffordd orau o sicrhau bod anghenion pobl am ofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu diwallu mewn ffordd briodol. Rydym eisoes wedi sefydlu trefniadau cydweithio llwyddiannus ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a galluogi pobl i gael adferiad rhwyddach yn eu cymuned.

“Trwy gydweithio, rwy’n gobeithio y gallwn ddarparu gwell gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ardal cymuned Pen-y-bont ar Ogwr.”

Yn leol

External Links