Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Ailgylchu - oes newydd

O ddydd Llun 14 Mehefin, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartner newydd May Gurney yn casglu sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu mewn ffordd newydd.

Mae ystod y gwastraff y gellir ei ailgylchu wedi cael ei hymestyn gryn dipyn ac mae bellach yn cynnwys yr holl bapur, cardbord, plastigau, gwydr, tuniau, caniau, tecstilau a’r holl wastraff bwyd, hyd yn oed cig, pysgod ac esgyrn. Bydd yr holl ddeunyddiau i’w hailgylchu’n cael eu casglu’n wythnosol. Bydd y gwastraff sy’n weddill, na ellir ei ailgylchu, a ddylai fod yn llai erbyn hyn, yn gallu cael ei roi mewn sachau tirlenwi i’w gasglu bob pythefnos.

Dros yr wythnosau diwethaf fe ddylai pob un o’r 60,000 o aelwydydd yn y fwrdeistref fod wedi derbyn llythyr, llyfryn wyth tudalen, a thaflen ‘cwestiynau a ofynnir yn aml’ sy’n egluro sut y bydd y fenter newydd yn gweithio, a chalendr lliw yn atgoffa trigolion pa ddiwrnod yw eu diwrnod casglu.

Mae cynwysyddion ailgylchu ychwanegol wedi cael eu danfon i gartrefi hefyd, gan gynnwys sach las ar gyfer plastigau a bin mawr a blwch bach ar gyfer gwastraff bwyd ynghyd â leiners compostadwy.

Meddai’r Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym wedi ymdrechu’n galed iawn i baratoi trigolion ar gyfer y cynllun ailgylchu a gwastraff newydd ac rydym yn gobeithio y bydd pawb yn gwneud eu gorau i gofleidio’r fenter newydd hon. Gofynnwn i drigolion wirio bod ganddynt bopeth y mae ei angen arnynt i ddechrau ailgylchu mwy, gan gynnwys eu dau flwch du, eu bin mawr a’u blwch bach rown ar gyfer gwastraff bwyd, eu sach las ac wrth gwrs eu calendrau atgoffa. Mae’r calendrau’n bwysig oherwydd mae’n bosib y bydd rhai trigolion yn canfod bod eu diwrnodau casglu wedi newid.

“Gwyddom y bydd yn rhaid wrth addasiadau i’r modd y mae pobl yn rhoi eu gwastraff a’u deunyddiau ailgylchadwy allan o ganol mis Mehefin ymlaen, ond bydd y manteision i’r amgylchedd yn wych, gyda llawer llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi a mwy o lawer yn cael ei ailgylchu fel y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer deunyddiau eraill.

“Cafwyd tair blynedd o ymgynghori â grwpiau trigolion, byd diwydiant ac arbenigwyr, o gymharu â chynghorau eraill, ac yna chwe mis o godi ymwybyddiaeth cyn cyrraedd y cam hwn, ond rwy’n hyderus ein bod yn barod. Rwy’n apelio o ddifrif ar ddeiliaid tai i baratoi hefyd a bod yn gadarnhaol ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud drostynt hwy, dros eu teuluoedd ac, yn y pen draw, dros genedlaethau’r dyfodol.”

Yn ogystal â’r ymgyrch cyfathrebu, mae digonedd o waith wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni hefyd.

Rhoddwyd hyfforddiant ychwanegol i’r bobl a fydd yn casglu’r gwastraff a’r deunydd ailgylchadwy, mae cerbydau newydd wedi cael eu darparu, a system TG newydd wedi cael ei gosod hyd yn oed i wneud y gwaith o fonitro’r broses newydd yn gyflym ac effeithlon.

Mae May Gurney eisoes yn darparu gwasanaethau arobryn ar gyfer 18 awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi ennill nifer sylweddol o wobrau yn y diwydiant am ansawdd ei waith, llwyddiannau amgylcheddol, ac am y ffordd arloesol y mae’n gweithio gyda chwsmeriaid.

Mae Rhona Coulter o May Gurney yn obeithiol iawn ar ôl y cyfnod dwys o gynllunio sydd wedi mynd â’r bartneriaeth at drothwy ‘chwyldro ailgylchu’ Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Rydym wedi’n cyffroi’n arw i fod yn rhan o chwyldro ailgylchu’r ardal hon. Yn anad dim, rydym yn awyddus i’w gwneud yn hawdd i drigolion ailgylchu mwy ac i’r Cyngor gael mwy o werth o’r deunyddiau a gesglir gennym.

“Dyna pam ein bod yn cyflwyno fflyd newydd o 20 o gerbydau ailgylchu wedi’u dylunio’n arbennig i symleiddio casgliadau, ac yn ailwampio’r orsaf drosglwyddo bresennol i wneud y gwaith o brosesu’r deunyddiau’n fwy effeithlon. Mae’r newyddbethau hyn, ynghyd â chyflwyno gwasanaethau casglu newydd, yn golygu y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd go iawn yng Nghymru.”

Yn leol

External Links