Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cefnogwch oreuon Pen-y-bont ar Ogwr yng nghystadleuaeth Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn 2010

Mae dau o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn 2010.

A hwythau’n chwifio’r faner ar ran Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, hwy yw’r unig ddau o Gymru yn rownd derfynol y gwobrau eleni – ac mae angen eich pleidleisiau chi arnynt.

Mae Clive Blackshow a Stephen Cottrell wedi cael eu henwebu yn y categorïau Cyfraniad Oes a Gwobr Werdd yn y drefn honno, a byddant yn mynd benben â 21 o weithwyr eraill o gynghorau ledled y DU yn y gwobrau mwyaf clodfawr ym myd llywodraeth leol yn y DU.

Gyda phleidleisiau’n cael eu derbyn tan 8 Gorffennaf 2010, nifer y pleidleisiau gan aelodau o’r cyhoedd fydd yn penderfynu pwy fydd enillydd y tlws yn y pen draw ym mhob categori.

Yn leol

External Links