Canolfan y Cyfryngau
Croeso i ganolfan ar-lein Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y cyfryngau. Bydd y tudalennau hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol ac yn darparu dolenni er mwyn dod i wybod mwy am yr ardal, y Cyngor a sut i gysylltu ag aelod o’r tîm Cyfathrebu a Marchnata.
|
Helpu busnesau i arbed arian ar eu biliau ynni Mae Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r ymgynghorwyr ynni, Enica, i gynnig cymorth amgylcheddol arbenigol rhad ac am ddim i fentrau bach a chanolig (MBCh) ym Mhen-y-bont ar Ogwr. |
|
Canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol CBAC Pen-y-bont ar Ogwr 2010 Mae pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr heddiw’n dathlu canlyniadau da iawn yn arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol (UG) CBAC eleni. |
|
Clasuron o Lyfr Canu Mawr America ym Mryngarw dydd Sul yma Bydd Wayne Warlow’s Manhattan Experience yn perfformio caneuon jazz safonol o Lyfr Canu Mawr America ym Mharc Gwledig Bryngarw, sy’n cael ei redeg gan y Cyngor, ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, dydd Sul yma, sef 22 Awst o 2.30pm – 4.30pm |
|
Plant yn dysgu am fyd natur trwy lwyddiant Diwrnodau Hwyl i’r Teulu Mae’r gwyliau haf wedi dechrau ac mae’r Diwrnodau Hwyl i’r Teulu ym Mharc Gwledig Bryngarw, sy’n cael ei redeg gan y Cyngor, ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi hen ddechrau hefyd. |
|
Paneli solar yn dwyn arbedion i CBS Pen-y-bont ar Ogwr Bedwar mis ar ôl gosod paneli solar ar do Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r buddsoddiad eisoes yn dwyn arbedion o ran y swm y mae’r Cyngor yn ei wario ar gynhesu dŵr. |
|
Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi’r ffordd ar gyfer cysylltiadau busnes â Belarws Mae Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llywyddu ymweliad swyddogol gan ddirprwyaeth fusnes o Felarws a chynrychiolwyr o Siambr Masnach a Diwydiant Belarws. |
|
Peidiwch â cholli’r hwyl i gyd! Ddim yn gwybod sut i’ch cadw chi eich hun a’ch plant yn brysur yr haf hwn? Mae’r ateb gan Barc Gwledig Bryngarw, y parc sy’n cael ei redeg gan y Cyngor, ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr… Diwrnodau Hwyl i’r Teulu! |
|
Dolydd gwyllt yn eu blodau ym Mryngarw 2010 yw Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, a phan fo’r haf ar ei anterth dyma’r adeg berffaith i brofi cyfoeth a harddwch cefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr. |
|
Ailgylchu - oes newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartner newydd May Gurney yn casglu sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu mewn ffordd newydd. |
|
Strydoedd yn sgorio’n uchel yn y cynghrair sbwriel Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rai o’r strydoedd glanaf yng Nghymru yn ôl tabl cynghrair sbwriel newydd. |
|
Cyllid ar gyfer chwarae plant Bydd grant o bron £1m yn cael ei rannu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r awdurdod cyfagos, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, i ddatblygu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. |
|
Peidiwch â gadael i’r cacwn ddifetha eich haf Gyda’r haf ar ein gwarthaf a’r tywydd yn cynhesu, mae adran Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio trigolion i gadw golwg am gacwn. |
|
Cyflogeion y Cyngor yn estyn llaw Gafael mewn brws paent, helpu i godi arian a mentora pobl ifanc – dyma rai yn unig o’r ffyrdd y gall staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau, trwy ymuno â’r cynllun estyn llaw. |
|
Dyfodol Disglair i Bedford Mae un o safleoedd mwyaf hanesyddol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ailagor i’r cyhoedd ar ôl bod ar gau am wyth mlynedd. |
|
A hoffech chi fod yn heini’n hanner cant, yn chwim yn eich chwedegau neu’n sionc yn eich saithdegau? Os felly fe hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr glywed gennych! Mae’r Cyngor yn ceisio safbwyntiau trigolion hŷn ynghylch y mathau o weithgareddau corfforol yr hoffent weld mwy ohonynt yn y fwrdeistref sirol. |
|
Helpwch i drefnu dyfodol Pen-coed – mynnwch gael dweud eich dweud Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-coed yn cydweithio i lunio strategaeth adfywio Pen-coed a chynllun gweithredu i gyd-fynd â’r strategaeth, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda, ond maent am glywed gan drigolion a grwpiau cymunedol lleol. |
|
Her byw yn y gwyllt CBS Pen-y-bont ar Ogwr Wrth i ni ddathlu Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, mae pedwar o aelodau etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phedwar aelod o staff yn paratoi i herio’r tiroedd gwylltion ym Merthyr Mawr, fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion bioamrywiaeth. |
|
Dysgwyr sy’n oedolion yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo Cafodd dysgwyr sy’n oedolion o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y bumed seremoni flynyddol o’i bath, ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl. |
|
Croeso Caerau i Brif Weinidog Cymru Mae Ysgol Gynradd Caerau’n croesawu Prif Weinidog Cymru ar gyfer ei hagoriad swyddogol. |
|
Pwy yw’r gath anhys-bws? Mae’r Cyngor yn gofyn i drigolion lleol helpu i adnabod cath y credir iddi deithio i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr holl ffordd o ynys Cyprus. |
|
Apêl ynghylch barbeciws ar y traeth Mae’r Cyngor yn erfyn ar ymwelwyr â baeau a thraethau Porthcawl i feddwl eilwaith cyn defnyddio barbeciws untro. |
|
Gwarchodfa natur leol Coedwig Tremaen yn agor Mae gwarchodfa natur leol fwyaf newydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei hagor yn swyddogol ym Mracla. |
|
Plant yn dysgu am ffyrdd gwyrddach o fyw Mae plant lleol wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a oedd wedi’i fwriadu i’w haddysgu am y byd yr ydym yn byw ynddo a sut y gallant helpu i wella’r amgylchedd. |
|
Galw am ofalwyr maeth Mae gofalwr maeth lleol yn erfyn ar bobl i geisio mwy o wybodaeth sy’n egluro sut y gallant wneud gwahaniaeth a newid bywyd plentyn. |
|
Ymddiriedolaethau Dinesig yn canmol gwaith adfywio Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael canmoliaeth ddwbl am ei waith i warchod ac adfywio canol tref Pen-y-bont. |
|
Gwefan newydd y BGLl yn datgelu ffeithiau am gymunedau lleol Mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio cronfa wybodaeth newydd sy’n cynnwys ffeithiau diddorol am gymunedau ledled y fwrdeistref sirol. |
|
Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi penodi Dorothy Edwards yn gyd-gyfarwyddwr ardal cyntaf y sir ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. |
|
Plant yn cael blas ar uned fwyd symudol newydd Mae plant ysgol lleol wedi rhoi sêl bendith i uned fwyd symudol newydd gan y Cyngor sy’n hybu bwyta’n iach. |
|
Bws y Bannau’n barod am bawb Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi gwasanaeth Bws y Bannau sy’n mynd â phobl leol i galon y parc cenedlaethol. |
|
Sgiliau Gweithio i Oedolion Yn dilyn cytuno ar becyn chwe blynedd o gyllid Ewropeaidd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pen-y-bont yn mynd i fod yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig rhaglen ‘Sgiliau Gweithio i Oedolion’ i drigolion lleol. |
|
Cymorth i baratoi ar gyfer gwaith Mae partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bracla wedi lansio menter newydd i helpu trigolion lleol i gael mynediad at hyfforddiant a dod o hyd i waith. |
|
Yn Fy Lle I Mae ffilm ryngweithiol newydd yn dwyn y teitl ‘Yn Fy Lle I’ wedi cael ei lansio er mwyn addysgu pobl am effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
|
£100,000 mewn cyllid i fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr Mae’r tîm Datblygu Economaidd wedi helpu busnesau lleol i gael mynediad at gymorth ariannol gwerth £100,000 trwy Gronfa Fuddsoddi Leol De Ddwyrain Cymru. |
|
Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn Mae dau weithiwr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr glodfawr. |
|
Cynlluniau ar y gweill ar gyfer parc busnes ‘Gwyrdd’ Mae cwmni ym Mhen-y-bont sy’n cynhyrchu sment ‘gwyrdd’ yn awyddus i ddenu cwmnïau eco-gyfeillgar o’r un anian i gyd-leoli ar safle 20 erw yn Stormy Down, Pen-y-bont. |
|
Wythnos Gynaliadwyedd Cymru Bydd cyfres o arddangosfeydd lleol yn cael eu cynnal rhwng 17 a 23 Mai fel rhan o Wythnos Gynaliadwyedd Cymru, y gyntaf erioed, a drefnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. |
Archifau datganiadau i’r wasg
- Last Updated: 20/08/2010
- Rate this page
- Back to top











































