25 Mehefin 2009
Gosod Cosy Corner, Porthcawl dros dymor yr haf
Mae cyfle wedi codi i osod y safle twristaidd / hamdden blaenllaw hwn ar lan y môr ym Mhorthcawl. Mae Cosy Corner, a ddefnyddir ar hyn o bryd fel ardal amwynder cyhoeddus, ar bwys yr harbwr, yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau hamdden o ansawdd i wella Porthcawl dros dymor yr haf, 2009.
Mae’r safle ar gael fel rhan o gynllun peilot am gyfnod o 28 diwrnod (a’r rheiny heb fod yn ddiwrnodau olynol o anghenraid) ac eithrio 28, 29 a 30 Awst 2009.
Maint lledgywir: 1 erw
Ffi’r drwydded: cynigion i’w cyflwyno trwy dendr anffurfiol
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion: canol dydd 13eg Gorffennaf
I gael mwy o wybodaeth a phecyn gwybodaeth ar gyfer cyflwyno cynnig cysylltwch ag Andrew Jones ar 01656 815204 / Andrew.jones@bridgend.gov.uk neu ewch i http://www.bridgend.gov.uk
- Last Updated: 24/06/2009
- Rate this page
- Back to top







