Addysg, Hamdden

a Gwasanaethau Cymunedol

Cymdeithas sy’n Dysgu

Haf 2005

Mae gan y Cynllun Strategol Cyfarwyddiaethol hwn nifer o swyddogaethau pwysig, sef:

Dangos sut mae gwasanaethau’r gyfarwyddiaeth yn cyfrannu at Gynllun Gwella Corfforedig yr Awdurdod ar gyfer 2005-08 a Strategaeth Gymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2005-16.

• Nodi rhai llwyddiannau allweddol yn ystod bywyd y cynllun blaenorol (2002-05) a’r heriau sy’n wynebu’r gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd.

• Adnabod blaenoriaethau ar gyfer datblygu gwasanaethau yn ystod y tair blynedd nesaf.

• Nodi dangosyddion ansawdd allweddol ar gyfer barnu perfformiad gwasanaethau yn y tair blynedd nesaf, ynghyd â thargedau ar gyfer y dangosyddion.

• Amlinellu’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer 2005-06 a sut fydd yn cael ei thargedu ar draws y gwahanol feysydd gwasanaeth.

Y Cynghorydd Peter Foley Graham Avery

Aelod o’r Cabinet Cyfarwyddwr Gweithredol

Addysg, Hamdden a Gwasanaethau Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr

Haf 2005

Adran 1 : Gwasanaethu ein Bwrdeistref Sirol…………………………….. 3

Adran 2 : Rhai Llwyddiannau Allweddol Diweddar………………………... 6

Adran 3 : Blaenoriaethau Datblygu Gwasanaethau yn y Dyfodol………. 9

Adran 4 : Gwerthuso Perfformiad …………………………………………………… 11

Adran 5 : Gwariant Cynlluniedig……………………………………………………. 19

Adran 6 : Cysylltiadau ………………………………………………………………. 24

Amcan Cyffredinol a’r Gwasanaethau a Ddarperir...

1.1 Ein hamcan cyffredinol yw:

‘Ceisio hybu datblygiad gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth pob plentyn ac oedolyn yn y fwrdeistref sirol, a gwella eu hymdeimlad o annibyniaeth a hunan-werth.’

1.2 Mae’r gyfarwyddiaeth yn cynnwys ystod eang o unedau gwasanaeth sy’n darparu gwasanaethau sy’n effeithio ar ansawdd bywyd holl drigolion y fwrdeistref sirol a nifer sylweddol o ymwelwyr â’r ardal. Mae’r rhain yn cwmpasu:

Gwasanaethau Dysgu a Sgiliau

• Dysgu a Sgiliau

• Cefnogi a Gwella Addysg

Hybu Mynediad i Wasanaethau

• Cefnogaeth Ariannol

• Rheoli a Datblygu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

• Personél a Chefnogaeth Llywodraethwyr

• Disgyblion a Myfyrwyr (gan gynnwys Lles Addysg)

• Ymchwil a Datblygiad

Gwasanaethau Anghenion Arbennig

• Mynediad a Chynhwysiant

• Seicoleg Addysg

Gwasanaethau Diwylliant, Treftadaeth a Gwybodaeth

• Celfyddydau a Diwylliant (gan gynnwys Gwersi Cerddoriaeth)

• Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Gwasanaethau Byw’n Iach

• Arlwyo

• Parciau a Chaeau Chwarae

• Chwaraeon a Hamdden (gan gynnwys Datblygu Chwaraeon)

Gwasanaethau Dysgu Cymunedol

• Ieuenctid

• Dysgu Oedolion

1.3 Mae gwybodaeth bellach am sut mae pob un o’r unedau gwasanaeth yn anelu at wasanaethu ein bwrdeistref sirol ar gael yn eu cynlluniau datblygu gwasanaeth blynyddol. Gallwch gael copiau o’r rhain trwy gysylltu ag Ysgrifenyddiaeth y Gyfarwyddiaeth ar 01656 642610 neu drwy ebostio sutton@bridgend.gov.uk. Mae gwybodaeth am gysylltiadau pellach ar gael yn Adran 6 hefyd.

Cefnogi Strategaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr . . .

Amcanion Cyffredinol y Strategaeth:

1. Gwella ansawdd bywyd pawb – a creu ardal lle gall pawb fwynhau byw, gweithio ac ymlacio a byw bywyd llawn.

2. Gofalu am ein hamgylchedd trwy batrwm mwy cynaliadwy o ddatblygiad.

3. Cynyddu ffyniant trwy fuddsoddi mewn dysgu gydol oes, gwella sgiliau a chefnogi busnesau newydd.

4. Cael cymunedau diogelach lle mae lefelau troseddu’n cwympo ac ymdrinnir â’r gofid o droseddau er mwyn i bobl leol deimlo’n ddiogel.

5. Cael bwrdeistref sirol iachach trwy ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd a hybu ffyrdd iach o fyw.

6. Cael bwrdeistref sirol fwy cynhwysol lle cefnogir pawb i fwyhau eu potensial a byw bywyd llawn.

Themâu Allweddol y Strategaeth:

1. Cydweithio’n Well

2. Diogelwch Cymunedol

3. Cyflogaeth ac Adfywiad Economaidd

4. Plant a Phobl Ifanc

5. Pobl Hŷn

6. Yr Amgylchedd

7. Iechyd a Lles

8. Mynediad

Cefnogi Cynllun Gwella Corfforedig yr Awdurdod . . .

Nodau Corfforedig yr Awdurdod:

1. Gwella cyrhaeddiad addysgol

2. Cefnogi grwpiau hawdd eu niweidio

3. Sicrhau tai o ansawdd uchel

4. Gwella’r amgylchedd, yr economi a’i hisadeiledd

5. Sicrhau mynediad cyfartal

1.4 Ceisia ein gwasanaethau gefnogi’r holl amcanion, themâu a nodau uchod – naill ai’n union neu’n anuniongyrchol. Ceisia’r diagram ar y dudalen nesaf ddangos hyn.

Gwneud Cyfraniad . . .

Nodau Themâu’r Cyfraniad y

Corfforedig Strategaeth Gyfarwyddiaeth

yr Awdurdod Gymunedol

Llwyddiannau allweddol yn y 3 blynedd ddiwethaf

Gwasanaethau Dysgu a Sgiliau

• Gwelliant parhaus mewn cyraeddiadau disgyblion fel bod perfformiad cyffredinol yr AALl naill ai’n unol â chyfartaledd Cymru neu’n well ar gyfer y mwyafrif helaeth o’r dangosyddion.

• Datblygu, profi a dosbarthu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer hunan-werthusiad ysgol effeithiol a fabwysiadwyd gan bron i bob ysgol.

• Marciau uchel yn adroddiadau arolygu Estyn ar gyfer ansawdd arweiniad a rheolaeth yn y mwyafrif helaeth o ysgolion.

• Cynnydd da trwy gefnogi ysgolion sy’n wynebu heriau o ryw fath.

• Datblygu CCET Pen-y-bont ar Ogwr (Consortiwm Cymunedol dros Addysg a Hyfforddiant) a’r Rhwydwaith 14-19 sy’n cael budd o lefel dda o weithio mewn partneriaeth.

• Darparu lefel dda o wybodaeth am berfformiad ar gyfer ysgolion, gan gynnwys data am dueddiadau, data cymharol a ‘meincnod’ sy’n cefnogi arolygon perfformiad blynyddol ystyrlon.

• Gwelodd arolygiad Estyn/Comisiwn Archwilio fod cefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion yn dda a bod posibilrwydd addawol o wella ar hyn eto.

Hybu Mynediad i Wasanaethau

• Mynediad i addysg blynyddoedd cynnar ran-amser i blant y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed os yw rhieni’n dymuno hyn.

• Agor ysgol gynradd newydd – Ysgol Gynradd Bro Ogwr.

• Agor Canolfan Integredig i Blant yng Nghorneli.

• Gwell ddarpariaeth feithrin yn Ysgol Fabanod Pencoed, Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gynradd Nantymoel.

• Agor ystafelloedd TGCh mewn nifer o ysgolion cynradd (e.e. Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Trelales).

• Cynnydd sylweddol o ran cysylltu ysgolion (75%), canolfannau LIFE, canolfannau dysgu cymunedol a llyfrgelloedd â band eang ynghyd â gwasanaethau gwell ac estynedig i ddisgyblion, myfyrwyr, staff a’r cyhoedd.

• Cynnydd sylweddol o ran cynhyrchu deunyddiau dysgu ac addysgu digidol ac eraill trwy Grid Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi denu bron i 100,000 o ymwelwyr y mis a mwy na 400 o ddefnyddwyr y dydd.

• Cynnydd sylweddol ym mhresenoldeb disgyblion mewn ysgolion uwchradd.

• Cynhyrchu deunyddiau ar gyfer y cwricwlwm i hybu gwell ymddygiad ar gludiant ysgol – defnyddir ‘Eich Bywyd yn eu Dwylo’ ar draws awdurdodau addysg lleol ac ysgolion yng Nghymru nawr.

Gwasanaethau Anghenion Arbennig

• Dengys arolygiadau allanol o ysgolion prif ffrwd ac arbennig a gwasanaethau cefnogi’r AALl fod darpariaeth anghenion addysg arbennig o safon uchel yn gyffredinol.

• Mae cynnal lefel isel o ddatganiadau’n galluogi gwario mwy o gyllid ar ddarpariaeth yn hytrach na gweinyddiaeth.

• Mae cost darpariaeth addysg arbennig yn parhau i gymharu’n dda iawn â gweddill Cymru.

• Mae datblygu unedau allanol o Ysgol Bryn Castell mewn ysgolion prif ffrwd wedi gwella cyfleoedd ‘addysg gynhwysol’ i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Gwasanaethau Diwylliannol, Treftadaeth a Gwybodaeth

• Mae’r Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth wedi llwyddo cael ei achrediad ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’.

• Mae’r Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth wedi dangos gwelliant cyson a fesurir yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

• Cydnabuwyd Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr am ansawdd ei chynyrchiadau ac mae wedi perfformio ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

• Gwelodd arolygiad Comisiwn Archwilio Cymru o ‘wasanaethau diwylliannol’ dystiolaeth o sawl maes o arfer da.

Gwasanaethau Byw’n Iach

• Mae’r Gwasanaeth Arlwyo wedi llwyddo cael ei achrediad ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’.

• Darparwyd cyfle gwell ar gyfer hamdden a chwaraeon trwy ailwampio canolfannau hamdden Cwm Garw a Maesteg, ynghyd â buddsoddi mewn parciau a chaeau chwarae ym Metws, Bracla, Bryntirion ac Evanstown. Cafwyd gwelliannau ar gyfleusterau chwaraeon ysgolion ym Mryntirion, Cynffig, Ogwr, Pencoed ac Ynysawdre hefyd.

• Cytunwyd ar raglen sylweddol o foderneiddio ac ailwampio iardiau chwarae ac mae wedi dechrau cael ei gweithredu.

• Cytunwyd ar drefniadau hunan-reoli gyda chlybiau bowls lleol i reoli eu cyfleusterau eu hunain.

• Dangosodd arolygiadau QUEST (gwobr ansawdd sy’n benodol i ddiwydiant) fod y Gwasanaeth Datblygu Chwaraeon y trydydd gorau yn y Deyrnas Unedig a Chanolfan Chwaraeon Maesteg a Phwll Nofio Pencoed gyda’r gorau yng Nghymru.

• Arolygiad positif iawn gan Comisiwn Archwilio Cymru o ran y gwasanaeth hamdden a chwaraeon.

Gwasanaethau Dysgu Cymunedol

• Gweithredu rhaglen y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yn llwyddiannus i gefnogi pobl ifanc hawdd eu niweidio (Rhaglen Ffocws Ieuenctid Penybont ar Ogwr).

• Enillodd y Gwasanaethau Dysgu Cymunedol statws ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’.

• Arolygiad Estyn positif iawn o’r Gwasanaeth Ieuenctid.

• Gwell systemau gwybodaeth ar gael i bobl ifanc – Canllaw Ar-Lein; Gyrfaoedd Cymru; canolfannau gwybodaeth a’r bws gwybodaeth.

• Aed y tu hwnt i dargedau ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau dysgu oedolion mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont yn ystod cyfnod heb dwf ariannol.

• Ailstrwythuro mawr o’r Gwasanaeth Dysgu Oedolion i ystyried cyllid gostyngol heb golli gwasanaeth o ansawdd uchel.

Heriau sy’n wynebu’r gyfarwyddiaeth...

• Mae asesiadau risg yn y flwyddyn ddiwethaf wedi nodi’r canlynol fel y prif heriau sy’n wynebu’r gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd.

1. LEFEL GYFFREDINOL CYLLID YSGOL

Nodwyd hyn ers nifer o flynyddoedd fel risg sylweddol pan feincnodwyd ef yn erbyn cyllid ysgolion awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ar gyfer 2005-06, mae’r gyllideb addysg wedi cwympo i 44.6% o gyfanswm cyllideb y Cyngor o’i chymharu â 45.23% yn 2004-05.

Darparodd adroddiad i Bwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad (20.04.05) ddadansoddiad o’r cyllidebau addysg a osodir gan awdurdodau addysg lleol ar gyfer 2004-05. Dangosodd yr adroddiad Pen-y-bont ar Ogwr yn 18fed allan o 22 o ran lefel yr arian a gyllidebodd i’w gwario ar addysg yn ystod 2004-05. Roedd hwn yn £3,931 y disgybl o gymharu â chyfartaledd Cymru o £4,141, gyda’r uchaf yn £4,785 a’r isaf yn £3,806.

2. MYNEDIAD I DDARPARIAETH ADDYSG ARBENNIG BRIODOL

Mae cyllid i ddarparu ar gyfer anghenion addysg arbennig wedi parhau i fod ar y tu ôl i’r anghenion a nodwyd, os ydym am ddarparu a chynnal gwasanaethau o ansawdd. Er y rhoddwyd £165,000 ychwanegol yn y gyllideb ddiweddaraf, roedd hyn oddeutu chwarter o’r swm yr ystyriwyd ei fod yn briodol i gydweddu twf ag angen cynyddol. Bydd gofyn i waith cynllunio rôl Ysgol Arbennig Bryn Castell fod yn uchel ar agenda unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.

3. CYFLEOEDD DYSGU BLYNYDDOEDD CYNNAR

Mae risg o fethu â darparu mynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu blynyddoedd cynnar ledled y fwrdeistref sirol. Bydd llawer yn dibynnu ar y grantiau a geir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4. DARPARU GWASANAETHAU CELFYDDYDOL, DIWYLLIANNOL A HAMDDEN YN Y DYFODOL

Cytunwyd ar ffordd ymlaen ar gyfer arolwg cynhwysfawr o’r gwasanaethau celfyddydol, diwylliannol a hamdden yn y fwrdeistref sirol. Ar hyn o bryd, mae’r lefelau cyllid yn annigonol i sicrhau mynediad cyfartal i’r profiadau hyn mewn gwahanol rhannau o’r fwrdeistref sirol.

5. CYNNAL A CHADW A DATBLYGU ADEILADAU HAMDDEN, DIWYLLIANNOL AC YSGOLION

Bydd prinder digon o fuddsoddiad mewn stoc adeiladau sy’n heneiddio’n effeithio ar ansawdd gwasanaethau yn y dyfodol. Rydym yn ystyried rhesymoli darpariaeth. Mae materion iechyd a diogelwch yn debygol o gynyddu heb fuddsoddiad sylweddol yn y dyfodol.

6. CYLLIDEB ADDYSG ANNIRPRWYEDIG

Dangosodd ystadegau’r Cynulliad ar gyfer 2004-05 fod y gyllideb addysg annirprwyedig fesul disgybl yr isaf yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na fydd rhai gwasanaethau canolog yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol yn y dyfodol.

7. GWASANAETHAU IEUENCTID I BOBL IFANC HAWDD EU NIWEIDIO

Mae diwedd y grant ESF i gefnogi rhaglen Ffocws Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr wedi lleihau ystod y gwasanaethau ieuenctid i bobl ifanc hawdd eu niweidio’n sylweddol. Bydd gofyn i ni ddod o hyd i ddewisiadau eraill.

Blaenoriaethau Allweddol yn y Tair Blynedd Nesaf...

1. CYRHAEDDIAD ADDYSGOL - parhau i wella canran y disgyblion sy’n ennill graddau uwch mewn TGAU.

2. LLEOEDD YSGOL – sicrhau y rheolir lleoedd ysgol i gwrdd â gostyngiad yn niferoedd disgyblion.

3. CYLLID YSGOL – ceisio codi lefel gyffredinol cyllid ysgol er mwyn i bob ysgol gael adnoddau digonol i’w galluogi i wella safonau ac ansawdd y ddarpariaeth.

4. ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR – cael mynediad cyfartal cyffredinol i addysg blynyddoedd cynnar.

5. ADDYSG 14-19 – parhau i estyn yr ystod a’r dewis o lwybrau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc.

6. GWAHARDD DISGYBLION – ceisio lleihau lefelau gwaharddiadau ysgol er mwyn gwella cyraeddiadau addysgol disgyblion hawdd eu niweidio.

7. CLUDIANT YSGOL – gwella diogelwch a hybu gwell ymddygiad ar gludiant ysgol.

8. ADEILADAU – llunio a gweithredu strategaeth ar gyfer trwsio a/neu adnewyddu eiddo addysg, hamdden a diwylliant i sicrhau eu bod yn ffit i’w pwrpas.

9. ADDYSG GYNRADD – adeiladu ysgol gynradd arall ym Mhen-y-Fai a datblygu cynllun am ysgol newydd ym Mharc Derwen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

10. ADDYSG UWCHRADD – agor ysgol gyfun arall ac ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Maesteg.

11. DIOGELU PLANT – mewn partneriaeth ag eraill, sicrhau y dilynir polisïau a gweithdrefnau diogelu plant yn effeithiol.

12. ADDYSG ARBENNIG – gweithredu strategaeth addysg gynhwysol i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a datblygu rôl ysgolion arbennig Pen-y-bont ar Ogwr wrth gefnogi’r strategaeth.

13. BAND EANG – cwblhau estyn band eang i’r 25% o ysgolion sy’n weddill.

14. CYFLEUSTERAU HAMDDEN A DIWYLLIANNOL – llunio a gweithredu strategaeth ar gyfer rheoli cyfleusterau hamdden a diwylliant yn y dyfodol yn unol â nodau corfforedig.

15. LLYFRGELLOEDD – datblygu cynllun llyfrgelloedd tair blynedd i fodloni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus diwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru.

16. GWEITHGAREDD CORFFOROL – datblygu a gweithredu cynllun gweithgaredd corfforol mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol i gynyddu lefelau o ymarfer corff yn y fwrdeistref sirol.

17. DATBLYGU NOFIO – agor canolfan ddatblygu nofio sirol newydd ym Mhwll Nofio Ynysawdre.

18. IECHYD A DIOGELWCH – gweithredu rhaglen hyfforddiant gynlluniedig i ymdrin â materion iechyd a diogelwch mewn gwasanaethau megis parciau a chaeau chwarae, a hamdden a chwaraeon.

19. CYLLIDEB ADDYSG ANNIRPRWYEDIG – ceisio cynyddu lefel y gyllideb addysg annirprwyedig yn gymharol â gweddill Cymru.

Dangosyddion Ansawdd Allweddol ar gyfer pob Maes Gwasanaeth...

• Nodwyd y canlynol fel dangosyddion ansawdd allweddol ar gyfer gwerthuso perfformiad pob maes gwasanaeth yn y dyfodol:

Gwasanaethau Dysgu a Sgiliau

o Dangosyddion pynciau craidd yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3.

o Canran y disgyblion sy’n ennill 5 TGAU neu fwy, graddau A* i C ar ddiwedd CA4.

o Cyfartaledd sgôr TGAU fesul disgybl ar ddiwedd CA4.

o Canran y disgyblion heb gymwysterau TGAU na lefel mynediad ar ddiwedd CA4.

o Canran y disgyblion 16 oed sy’n aros mewn addysg neu sy’n dilyn hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith.

Hybu Mynediad i Wasanaethau

o Canran presenoldeb yn yr ysgol.

o Nifer y disgyblion a waherddir yn barhaol.

o Canran cywirdeb rheoli data mewn ysgolion ac yn y gyfarwyddiaeth.

o Cyhoeddi deunyddiau dysgu ar y we Grid Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr.

o Canran newid o nifer y disgyblion a ragnodwyd yn y flwyddyn.

o Canran yr ysgolion lle mae gwir nifer disgyblion o fewn 5% o gofrestr amcangyfrifedig yr ysgol.

o Canran yr ysgolion â 25% neu fwy o leoedd heb eu llenwi.

o Canran yr ysgolion lle mae cyfansymiau’n uwch na gallu MOE (cofrestru mwy agored) gan fwy na 10%.

Gwasanaethau Anghenion Arbennig

o Cyfartaledd gwariant fesul disgybl ar ddarpariaeth anghenion arbennig.

o Canran y datganiadau AAA terfynol a gyhoeddir o fewn 26 wythnos.

o Canran yr arolygon statudol o ddatganiadau AAA a gwblheir yn llwyddiannus.

o Canran y boblogaeth ysgol sydd â datganiad AAA.

o Canran y boblogaeth ysgol a gofrestrir mewn ysgolion arbennig.

o Barn ysgolion am allu cyffredinol yr AALl i gefnogi AAA.

o Ansawdd darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion fel y gwerthusir gan Estyn.

Gwasanaethau Diwylliannol, Treftadaeth a Gwybodaeth

o Nifer Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a gyflawnir.

o Nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd.

o Canran disgyblion ysgolion cynradd sy’n aelodau o’r Gwasanaeth Llyfrgell.

o Nifer yr ymweliadau â theatrau a neuaddau perfformio.

o Nifer y disgyblion a gofrestrir gyda Theatr Ieunctid Pen-y-bont ar Ogwr.

o Nifer y disgyblion a gofrestrir gyda’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Offerynnol.

Gwasanaethau Byw’n Iach

o Plant oed ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

o Cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon.

o Mannau chwarae diogel a modern i blant.

o Nifer y plant sy’n mynd i gynlluniau chwarae am ddim yn ystod y gwyliau.

o Canran y disgyblion sy’n dewis cael prydau ysgol.

o Canran y disgyblion sydd â hawl i bryd ysgol am ddim sy’n dewis yr opsiwn hwnnw.

o Nifer y cleifion a gofrestrir ar gynlluniau cyfeiriad at ymarfer corff gan feddygon teulu.

o Nifer y rhai a gofrestrir ar fenter nofio am ddim y Cynulliad.

o Nifer y sesiynau nofio ac ymweliadau eraill â phyllau nofio a chanolfannau hamdden fesul 1,000 y boblogaeth.

Gwasanaethau Dysgu Cymunedol

o Gwariant y pen y boblogaeth 11-25 oed ar y Gwasanaeth Ieuenctid.

o Canran y boblogaeth 11-25 y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei chyrraedd.

o Nifer y cyraeddiadau cwricwlwm ieuenctid achrededig gan y Gwasanaeth Ieuenctid.

o Gwariant y Gwasanaeth Ieuenctid fel canran o gyfanswm y gyllideb addysg.

o Nifer sy’n cofrestru ar gyrsiau dysgu oedolion.

o Nifer sy’n cwblhau cyrsiau dysgu oedolion.

o Nifer sy’n ennill achrediad ar gyrsiau dysgu oedolion.

o Bodlonrwydd myfyrwyr â’r cyrsiau dysgu oedolion.

o Sylwadau tiwtoriaid am ddosbarthiadau dysgu oedolion.

Sylwer: Mae dangosyddion ansawdd allweddol eraill a ddefnyddir gan bob uned wasanaeth. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael yn y cynlluniau datblygu blynyddol.

Targedau ar gyfer y Tair Blynedd Nesaf...

• Wedi eu rhestru isod yw’r targedau a osodwyd ar gyfer pob dangosydd ansawdd allweddol ym mhob maes gwasanaeth:

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed*

2007-08

LS.1

Dangosydd pwnc craidd CA1.

Canran y disgyblion 7 oed sy’n cyrraedd Lefel 2 neu’n uwch yn asesiadau’r CC mewn Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth

84%

82%

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

83%

84%

85%

LS.2

Dangosydd pwnc craidd CA2.

Canran y disgyblion 11 oed sy’n cyrraedd Lefel 4 neu’n uwch yn y profion CC mewn Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

73%

75%

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

74%

75%

76%

LS.3

Dangosydd pwnc craidd CA3.

Canran y disgyblion 14 oed sy’n cyrraedd Lefel 5 neu’n uwch yn y profion CC mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

58%

61%

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

63%

64%

65%

LS.4

Canran y disgyblion sy’n ennill 5 TGAU neu fwy, graddau A*-C, ar ddiwedd CA4.

Fel y nodwyd

49%

54%

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

54%

55%

56%

LS.5

Cyfartaledd sgôr TGAU fesul disgybl ar ddiwedd CA4.

Fel y nodwyd

39

42

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

40

41

42

LS.6

Canran y disgyblion heb TGAU na chymhwyster lefel mynediad ar ddiwedd CA4.

Fel y nodwyd

3%

3%

(Holl AALl yng Nghymru yn 2004)

3%

3%

2%

LS.7

Canran y disgyblion 16 oed sy’n dal yn yr ysgol neu sy’n gwneud hyfforddiant yn seiliedig ar waith.

Fel y nodwyd

78%

Not available

82%

84%

85%

Sylwer: * Arolygir targedau 2007-08 yng Nghynllun Strategol Addysg 2006-08.

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed

2007-08

PA.1

Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod fesul 1,000 disgybl:

(a) cynradd

(b) uwchradd

(c) arbennig

Dangosydd Cenedlaethol

(NAWPI 2.8)

(2003-04)

(a) 0.25

(b) 2.01

(c) 2.72

(2003-04)

(a) 0.00

(b) 1.02

(c) 0.00

(a) 0.20

(b) 1.60

(c) 2.60

(a) 0.10

(b) 1.40

(c) 2.60

(a) 0.10

(b) 1.20

(c) 2.60

PA.2

Canran presenoldeb y rhai sy’n bresennol neu’n rhan o weithgareddau addysg mewn ysgolion uwchradd

Dangosydd Cenedlaethol

(NAWPI 2.14)

91.1%

91.29%

91.2%

91.3%

91.4%

PA.3

Canran cywirdeb y data mewn ysgolion a’r gyfarwyddiaeth

 

80%

80%

90%

95%

95%

PA.4

Cyhoeddi deunyddiau dysgu BGfL.net sydd ar y we.

Lleihau’r baich ar athrawon trwy greu adnoddau dysgu lleol digidol.

30% o ysgolion wedi eu cysylltu â BGfL.net

Ddim ar gael

60% o ysgolion wedi eu cysylltu â BGfL.net

85% o ysgolion wedi eu cysylltu â BGfL.net

95% o ysgolion wedi eu cysylltu â BGfL.net

PA.5

Canran y newid o niferoedd a ragwelwyd yn y flwyddyn:

(a) cynradd

(b) uwchradd

Fel y cytunwyd arno yng Nghlwb Meincnodi ADEW.

0.58%

0.15%

0.24%

0.05%

0.24%

0.05%

0.24%

0.05%

0.24%

0.05%

PA.6

Canran yr ysgolion lle roedd gwir nifer y disgyblion o fewn 5% o’r gofrestr amcangyfrifedig:

(a) cynradd

(b) uwchradd

Fel y cytunwyd arno yng Nghlwb Meincnodi ADEW.

66%

100%

70%

100%

70%

100%

70%

100%

70%

100%

PA.7

Canran yr ysgolion â 25% neu fwy o leoedd heb eu llenwi:

(a) cynradd

(b) uwchradd

Fel y cytunwyd arno yng Nghlwb Meincnodi ADEW.

18.96%

22.22%

13%

2%

15%

20%

15%

20%

15%

20%

PA.8

Canran yr ysgolion lle mae cyfansymiau’n mynd y tu hwnt i’r MOE (cofrestru mwy agored) gan fwy na 10%:

(a) cynradd

(b) uwchradd

Fel y cytunwyd arno yng Nghlwb Meincnodi ADEW.

8.62%

0%

3.57%

0%

8%

0%

6%

0%

5%

0%

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed

2007-08

SN.1

Cyfartaledd y gwariant fesul disgybl ar ddarpariaeth AAA i fod yn gyfystyr â chyfartaledd Cymru gyfan

Cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA boed yn ddirprwyedig neu’n annirprwyedig, a rennir gan gyfanswm poblogaeth y disgyblion

£477

(ffigur 2003-04)

(Ffynhonnell: Bwletin Ystadegau

63/2003)

Cyfartaledd Cymru gyfan

£461

£534

(12%

cynh.)

£598

(12%

cynh.)

£670

(12%

cynh.)

SN.2

Canran y datganiadau AAA terfynol a gyhoeddir o fewn 26 wythnos (ac eithrio achosion eithriadol) i fod o fewn chwarter uchaf Cymru gyfan

Canran y datganiadau terfynol a gyhoeddir o fewn 26 wythnos – ac eithrio achosion eithriadol

94.6%

(2003)

97.0%

(2002)

96.0%

97.0%

98.0%

SN.3

Canran yr arolygon statudol o ddatganiadau AAA a gwblheir yn llwyddiannus i fod o fewn chwarter uchaf Cymru gyfan

Nifer yr arolygon statudol a gwblheir o fewn y gofyn statudol a rennir gan gyfanswm nifer yr arolygon statudol

90.0%

(2003)

96.0%

(2002)

93.0%

96.0%

99.0%

SN.4

Canran y boblogaeth ysgol sydd â datganiadau o AAA i fod o fewn chwarter uchaf Cymru gyfan

Nifer y disgyblion â datganiadau a rennir gan gyfanswm poblogaeth yr ysgol

1.64%

Chwarter uchaf Cymru gyfan

= 2.9% (Ion 2003)

Cyfartaledd Cymru gyfan = 3.4%

1.60%

1.52%

1.44%

SN.5

Canran y boblogaeth ysgol a gofrestrir mewn ysgolion arbennig i fod yn gyfystyr â chyfartaledd Cymru gyfan

Nifer y disgyblion ysgol arbennig a rennir gan gyfanswm poblogaeth yr ysgol

1.27%

(2003)

Cyfartaledd Cymru gyfan

(0.78%)

1.20%

(ac eithrio’r rhai mewn darpariaeth allanol prif ffrwd)

1.10%

(ac eithrio’r rhai mewn darpariaeth allanol prif ffrwd)

1.00%

(ac eithrio’r rhai mewn darpariaeth allanol prif ffrwd)

SN.6

Barn ysgolion am allu’r AALl i gefnogi AAA i fod o fewn chwarter uchaf Cymru gyfan

Fel y pennir gan Arolwg Ysgol Cenedlaethol blynyddol o Comisiwn Archwilio – Cwestiwn E.10

Marc (2.51)

1=Da iawn

2=Da

3=Boddhaol

4=Gwael

5=Gwael iawn

Marc (2.56)

Cyfartaledd

(2.93)

Marc

(2.40)

Marc

(2.20)

Marc

(2.00)

SN.7

‘Ansawdd y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol’ mewn ysgolion fel y gwerthusir gan arolygiadau Estyn i gael marc ‘3 neu uwch’ yn 90% o achosion a ‘4 neu uwch’ yn 100% o achosion

Pennir gan archwiliad blynyddol o adroddiadau arolygu diweddaraf Estyn o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr

‘3 neu uwch’

= 91.8%

‘4 neu uwch’

= 100%

Ddim yn gymwys

= 93.1%

= 100%

= 94.5%

= 100%

= 95.9%

= 100%

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed

2007-08

CHI .1

Nifer Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a gyflawnir neu yr eir y tu hwnt iddynt

Nifer y safonau a gyflawnir ac a fynegir fel % o gyfanswm y safonau (ffynhonnell CIPFA)

57%

65%

61%

65%

70%

CHI .2

Nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd

Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (ffynhonnell CIPFA)

6,056 fesul

1,000 y boblogaeth

6,144 fesul

1,000 y boblogaeth

6,156 fesul

1,000 y boblogaeth

6,300 fesul

1,000 y boblogaeth

6,600 fesul

1,000 y boblogaeth

CHI.3

Nifer yr ymweliadau â theatrau a neuaddau perfformio

Lleoliadau celfyddydol yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys y strwythur dros dro ym Mryngarw

88,600

Anhysbys

90,300

92,980

95,100

CHI.4

Nifer y disgyblion a gofrestrir gyda Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Blaengaredd datblygu celfyddydau

240

Anhysbys

320

360

400

CHI.5

Nifer y disgyblion a gofrestrir gyda’r Gwasanaeth Cerdd Offerynnol

Darpariaeth ysgolion

1850

Anhysbys

1900

1900

1910

CHI.6

Canran y disgyblion cynradd sy’n aelodau o’r Gwasanaeth Llyfrgell

Yn gyffredinol ledled y fwrdeistref sirol

43%

Ddim yn berthnasol

60%

70%

80%

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed

2007-08

HL.1

Plant oed ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon

Fel y diffinnir gan Gyngor Chwaraeon Cymru – cymryd rhan mewn ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau’n rheolaidd fel % o gyfanswm y disgyblion oed ysgol

Cwricwlwm ychwanegol

55.2% (2003-04)

Aelodaeth clwb

41.3% (2003-04)

Defnyddio canolfannau hamdden

69.9% (2003-04)

Cyfartaledd y DU

53.7%

Cyfartaledd y DU

44.7%

Cyfartaledd y DU

62.3%

57%

44%

71%

58%

45%

72%

59%

46%

73%

HL.2

Cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon pobl o ddosbarth cymdeithasol ‘E’

Fel y diffinir gan astudiaethau CChC – cymryd rhan yn rheolaidd fel % o gyfanswm y boblogaeth dosbarth cymdeithasol ‘E’

19%

(2003-04)

Anhysbys

21%

23%

25%

HL.3

Mannau chwarae modern a diogel i blant

Canran y mannau chwarae sy’n bodloni gofynion HSE i BSEN 1177.

63%

(2004-05)

Anhysbys

76%

88%

100%

HL.4

Nifer y plant sy’n mynychu cynlluniau chwarae am ddim dros y gwyliau

Cyfraddau cymryd rhan yn y fwrdeistref sirol

21,000

Anhysbys

21,500

21,750

22,000

HL.5

Canran y disgyblion sy’n dewis cael prydau ysgol

Fel y diffinnir gan rwydweithiau perfformiad APSE

55%

(2004-05)

Anhysbys

56%

57%

58%

HL.6

Canran y disgyblion sydd â hawl i gael prydau am ddim sy’n dewis yr opsiwn hwn

Fel y diffinnir gan rwydweithiau perfformiad APSE

74%

(2004-05)

Anhysbys

75%

79%

80%

HL.7

Nifer y cleifion ar gynlluniau cyfeiriad ymarfer corff meddygon teulu

Cyfeiriadau gan feddygfeydd a swyddogion iechyd proffesiynol eraill

324

(2004-05)

Anhysbys

330

390

400

HL.8

Nifer y bobl sy’n cymryd rhan ym menter nofio am ddim LlCC ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn

Nifer sy’n mynd i byllau lleol yn ystod sesiynau cymwys

Plant a phobl ifanc (14,070)

Pobl hŷn

(1,911)

(2004-05)

Anhysbys

15,000

2,730

16,000

3,276

17,000

3,822

HL.9

Nifer y sesiynau nofio ac ymweliadau â phyllau nofio a chanolfannau hamdden fesul 1,000 y boblogaeth

Diffiniad NAWPI

9,305

(2004-05)

Anhysbys

9,360

9,400

10,100

Cyf.

Dangosydd

Diffiniad

Perfformiad Presennol

Chwarter Uchaf

Targed

2005-06

Targed

2006-07

Targed

2007-08

CL.1

Gwariant y Gwasanaeth Ieuenctid fesul pen y boblogaeth 11-25

Dangosydd cenedlaethol

£45.49

Ddim yn berthnasol

£40.00

£42.00

£44.00

CL.2

Canran y boblogaeth 11-25 a gyrhaeddir

Dangosydd cenedlaethol

27.0%

Ddim yn berthnasol

25.0%

26.0%

27.0%

CL.3

Nifer y llwyddiannau cwricwlwm ieuenctid achrededig

Dangosydd lleol

250

Ddim yn berthnasol

270

290

310

CL.4

Gwariant y Gwasanaeth Ieuenctid fel canran o gyfanswm cyllideb yr Adran Addysg

Dangosydd cenedlaethol

1.04%

Ddim yn berthnasol

1.07%

1.08%

1.08%

CL.5

Nifer a gofrestrir ar gyrsiau dysgu oedolion

Grant ELWa a freiniwyd

870

1594

(2003-04)

Ddim yn berthnasol

870

1500

870

1500

870

1500

CL.6

Nifer sy’n cwblhau cyrsiau dysgu oedolion

Grant ELWa a freiniwyd

858 (98%)

1561 (97%)

Ddim yn berthnasol

90%

92%

95%

CL.7

Nifer sy’n cael eu hachredu ar gyrsiau dysgu oedolion

OCN ac arholiad

60%

(2002-03)

Ddim yn berthnasol

62%

65%

68%

CL.8

Bodlonrwydd y myfyrwyr o’r cyrsiau dysgu oedolion

Ceir y ffigurau o werthusiad terfynol y myfyrwyr

75%

(2002-03)

Ddim yn berthnasol

78%

81%

84%

CL.9

Sylwadau tiwtoriaid

Fel canran o gyfanswm y ddarpariaeth

Sylwadau – dangosydd newydd

Ddim yn berthnasol

10%

15%

20%

Yn CL.1 a CL.2, mae gwerth y targedau’n llai na’r gwerthoedd presennol gan fod cyllid Ewropeaidd ar gyfer rhaglen ‘Ffocws Ieuenctid’ Pen-y-bont wedi dod i ben. Hefyd, ni chafwyd cyllid pellach ar gyfer prosiectau eraill (e.e. Canolfan Fywyd Sarn). Cafwyd peth cyllid ychwanegol ond nid yw’n ddigon i dalu am y prosiectau uchod yn llawn.

Sylwer: Gosodir y targedau yn erbyn dangosyddion ansawdd gwasanaeth hefyd – mae gwybodaeth ar gael o gynlluniau datblygu blynyddol gwasanaethau.

Cyllideb Refeniw 2005-06 . . .

• Dangosir y cyllid refeniw sydd ar gael i’r gyfarwyddiaeth yn 2005-26 isod:

MANYLION

2005-06

£000

GWASANAETHAU ADDYSG

DYSGU A SGILIAU

Cyllidebau Fformiwla Ysgolion

Cynradd

Uwchradd

Arbennig

Dyraniad Chweched Dosbarth (ELWa)

31,431

33,479

5,470

-5,867

Is-Gyfanswm

64,513

Blynyddoedd Cynnar

Ysgolion meithrin

Darpariaeth blynyddoedd cynnar arall

596

232

Is-Gyfanswm

827

Cefnogi a Gwella Addysg

Gwasanaeth ymgynghori a gwella

Gwella ysgolion

Rheoli perfformiad

Partneriaeth fusnes addysg

Cronfa gwell ysgolion

Grant iaith Gymraeg

Mentrau’r AALl a chefnogaeth arbennig

CBAC

Gwasanaethau amrywiol

372

60

42

24

829

27

10

37

7

Is-Gyfanswm

1,407

CYFANSWM DYSGU A SGILIAU

66,748

MANYLION

2005-06

£000

ANGHENION ARBENNIG, CHYNHWYSIANT A DYSGU CYMUNEDOL

Anghenion Arbennig a Chynhwysiant

Canolfan Afiechyd Cyfathrebu Llangynwyd

Canolfan Adnoddau Nam Synhwyraidd Ynysawdre

Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Gwasanaeth Nam Sgiliau Symud

Gwasanaeth Nam ar y Clyw

Cefnogaeth Atodol Arbennig

Adfer Addysg Arbennig

Seicoleg Addysgol

Cefnogi Ymddygiad

Mynediad a Chynhwysiant

Diogelu Plant

Gwasanaethau AAA amrywiol

Cefnogaeth Weinyddol Anghenion Arbennig

Cefnogaeth Iaith

Gwersi Gartref/Addysg Arall

Addysg yn yr Ysbyty

Therapi Iaith a Lleferydd

Ansawsterau Dysgu Penodol

Cefnogi Afiechydon Cyfathrebu

Canolfannau Allanol ar gyfer Afiechydon Cyfathrebu

162

341

191

159

72

520

-1,288

409

531

464

52

8

114

266

112

6

44

92

226

163

Is-Gyfanswm

2,644

Dysgu Cymunedol

Rheoli’r Gwasanaeth Dysgu Cymunedol

Dysgu Oedolion

Gwasanaeth Ieuenctid

Datblygiad Cymunedol

Grantiau i Gyrff Gwirfoddol

Prosiectau Cymunedol Amrywiol

88

19

861

46

103

5

Is-Gyfanswm

1,122

CYFANSWM ANGHENION ARBENNIG, CYNHWYSIAD A

DYSGU CYMUNEDOL

3,766

MANYLION

2005-06

£000

CEFNOGAETH CYNLLUNIO STRATEGOL

Cynnal a Chadw Adeiladau ac Eiddo

Yswiriant RhLY

Cynllun Wrth Gefn RhLY

Costau Ymddeol/Colli Swydd

429

333

64

870

Is-Gyfanswm

1,697

Cefnogaeth Addysg Amrywiol

Lles Addysg

Costau staff canolog (mamolaeth/meddygol)

Cludiant o’r cartref i’r ysgol/coleg

Grantiau dewisol i fyfyrwyr

Gwobrau gorfodol (net)

Iechyd a diogelwch

Cynrychiolwyr undebau llafur

Grantiau a chyfraniadau

Hawlfraint/hawliau perfformio

Gofalwyr wrth gefn

256

239

3,951

7

2

55

49

13

34

47

Is-Gyfanswm

4,654

Cefnogi’r Gyfarwyddiaeth

Cefnogaeth weinyddol adrannol

Costau TGC adrannol

Mannau gwybodaeth

Tîm Troseddwyr Ifainc

2,621

71

8

36

Is-Gyfanswm

2,736

CYFANSWM CEFNOGAETH CYNLLUNIO STRATEGOL

9,087

CYFANSWM GWASANAETHAU ADDYSG

79,601

MANYLION

2005-06

£000

GWASANAETHAU HAMDDEN A CHYMUNED

Yswiriant Hamdden

Diwylliant, Treftadaeth a Gwybodaeth

Rheoli’r Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant

Canolfan Berwyn

Neuadd Gweithwyr Blaengarw

Pafiliwn Mawr

Neuadd Tref Maesteg

Datblygu’r Celfyddydau

Hyrwyddiadau

Diogelwch ar y Traeth ac yn y Dŵr

Parc Gwledig Bryngarw

Tŷ Bryngarw

Harbwr Porthcawl

Llyfrgelloedd

141

77

79

70

266

71

54

4

108

183

83

10

1,546

Is-Gyfanswm

2,551

Byw’n Iach

Tir comin

Mannau agored

Rheoli’r Gwasanaeth Parciau

Parciau a Chaeau Chwarae

Depo Parciau

Pafiliynau

Mannau wedi eu Plannu

Iardiau Chwarae

Rheoli’r Gwasanaeth Hamdden

Contract Rheoli Chwaraeon a Hamdden (Cleient)

Chwaraeon Anabl

Datblygu Chwaraeon

Canolfan Hamdden Pîl

Neuaddau Chwaraeon Dau Ddefnydd

Canolfannau Cymunedol

Arweinwyr Chwarae

Chwaraeon a Hamdden Amrywiol

Gwasanaeth Cerddoriaeth

Prydau Ysgol

24

119

211

947

6

471

131

224

75

2,306

9

149

74

50

172

69

26

615

1,186

Is-Gyfanswm

6,864

CYFANSWM HAMDDEN A GWASANAETHAU

CYMUNEDOL

9,556

CYFANSWM Y GYFARWYDDIAETH

£89,157,000

Cyllideb Cyfalaf 2005-06 . . .

• Dangosir y cyllid cyfalar sydd ar gael i’r gyfarwyddiaeth yn 2005-06 isod:

MAES GWASANAETH

2005-06

£000

GWASANAETHAU ADDYSG

(O adnoddau cyfalaf CBS Pen-y-bont ar Ogwr):

Mân-waith addysg

Trwsio a chynnal a chadw a gyfalafwyd

IS-GYFANSWM

GWASANAETHAU ADDYSG

(O ffynonellau ariannu allanol):

Grant addysg blynyddoedd cynnar (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Grant gwella adeiladau ysgol (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

£9 miliwn o ddyraniad S.B.I.G. (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

IS-GYFANSWM

HAMDDEN A GWASANAETHAU CYMUNEDOL

(O adnoddau cyfalaf CBS Pen-y-bont ar Ogwr):

Mân-waith

Gwella mannau chwarae i blant

Gwella caeau chwarae – Corneli a Chroft Coch

Cyfraniad Sportslot Celtic Maesteg

System llyfrgell TGC newydd

Cyfraniad i wella Canolfan Betws

Cyfraniad i’r rhaglen Cyfle Campus (Betws)

Cyfraniad i AG a grant chwaraeon

Pwll nofio Ynysawdre

IS-GYFANSWM

HAMDDEN A GWASANAETHAU CYMUNEDOL

(O gyllid allanol):

Cynghorau cymuned/tref – mannau chwarae i blant

Pwll Ynysawdre (Cronfa Cyfleoedd Newydd)

Pwll Ynysawdre (Sportslot)

Cronfa Cyfleoedd Newydd (ysgolion cyfun)

Cyllid Sportslot – safle pen Betws

IS-GYFANSWM

Cyfanswm o adnoddau cyfalaf CBS Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfanswm o gyllid allanol

CYFANSWM

400

200

600

500

1,463

800

2,763

110

350

59

45

110

70

80

25

1,032

1,881

150

250

357

272

216

1,245

2,481

4,008

£6,489

Cysylltiadau ar gyfer pob Uned Wasanaeth...

• Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am y gwasanaethau, cysylltwch â’r canlynol

Gwasanaethau Dysgu a Sgiliau

• Dysgu a Sgiliau – Richard Landy (ffôn: 01656 642616 /

ebost: landyr@bridgend.gov.uk)

• Cefnogi a Gwella Addysg – Trevor Guy (ffôn: 01443 491687 /

ebost: guyt@caerphilly.gov.uk)

Hybu Mynediad i Wasanaethau

• Cefnogaeth Ariannol – Debbie Exton (ffôn: 01656 642627 /

ebost: extond@bridgend.gov.uk)

• Datblygu a Rheoli Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu – Les Howells (ffôn: 01656 651891 / ebost: howelll@bridgend.gov.uk)

• Personél a Chefnogi Llywodraethwyr – Bill Davies (ffôn: 01656 642659 /

ebost: daviewa@bridgend.gov.uk)

• Disgyblion a Myfyrwyr (gan gynnwys Lles Addysg) – Mark Beauchamp (ffôn: 01656 642087 / ebost: beaucmt@bridgend.gov.uk)

• Ymchwil a Datblygiad – George Pitten (ffôn: 01656 642619 /

ebost: pitteg@bridgend.gov.uk)

Anghenion Arbennig

• Mynediad a Chynhwysiant – Mike Ridout (ffôn: 01656 720201 /

ebost ridoumw@bridgend.gov.uk)

• Seicoleg Addysg – John Noaks (ffôn: 01656 729319 /

ebost: noaksj@bridgend.gov.uk)

Diwylliant, Treftadaeth a Gwybodaeth

• Celfyddydau a Diwylliant (gan gynnwys Gwersi Cerddoriaeth) – Gill Elfyn Jones (ffôn: 01656 642682 / ebost: jonesge@bridgend.gov.uk)

• Llyfrgelloedd a Gwybodaeth – John Woods (ffôn: 01656 767451 /

ebost: woodsjc@bridgend.gov.uk)

Byw’n Iach

• Arlwyo – Norma Griffiths (ffôn: 01656 664528 / ebost: griffnr@bridgend.gov.uk)

• Parciau a Chaeau Chwarae – Gareth Evans (ffôn: 01656 642720 /

ebost: evansg@bridgend.gov.uk)

• Chwaraeon a Hamdden – Mike Payne (ffôn: 01656 642091 /

ebost: paynemj@bridgend.gov.uk)

• Datblygu Chwaraeon - Andrew Thomas (ffôn: 01656 642692 /

ebost: thomaar@bridgend.gov.uk)

Dysgu Cymunedol

• Gwasanaeth Ieuenctid – Jen Ryall (ffôn: 01656 642731 / ebost: ryallj@bridgend.gov.uk)

• Dysgu Oedolion – Jen Ryall (ffôn: 01656 642731 / ebost: ryallj@bridgend.gov.uk)