Bridgend County Borough Council, Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB

Tel: 01656 643643
Text: 01656 643644
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk

Opening times
Monday - Friday 8.00am - 5.30pm

How to find us

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hysbysu, yn unol ag Adran 29 (1) (a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (SI 1999/1671) fel y’u newidiwyd gan Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) (Newid) 2004 Rhif 908 (W91) ei fod, yn dilyn ymgynghori â’r bobl yr ymddangosai iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, yn cynnig: -

  1. Rhoi’r gorau i gynnal Ysgol Gynradd Heol-y-Cyw, Y Stryd Fawr, Heol-y-Cyw, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ddiwedd Tymor yr Haf 2011.

Pan weithredir y cynigion, bydd y disgyblion sy’n byw yn nalgylch Ysgol Gynradd Heol-y-Cyw yn gymwys i fynd i Ysgol Gynradd Pen-coed.

Yn dilyn gweithredu’r cynnig, bydd adeilad Heol-y-Cyw yn cael ei gadw o leiaf tan ddiwedd tymor yr haf 2014, oni bai fod adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Pen-coed ar gael i’w meddiannu cyn yr amser hwnnw. Nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Pen-coed ar adeg cyhoeddi’r cynigion hyn yw 423 a hefyd 60 o ddisgyblion meithrin cyfwerth ag amser llawn. Mae lle yn Ysgol Gynradd Pen-coed ar hyn o bryd i 420, ac ar ôl gweithredu’r cynnig bydd lle i 495. Nifer y disgyblion a fydd yn cael eu derbyn i Ysgol Gynradd Pen-coed yn y grŵp perthnasol yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn gweithredu’r cynigion fydd 70. Bydd y ddarpariaeth feithrin sy’n bodoli ar hyn o bryd ar y ddau safle’n parhau â 66 o leoedd llawn-amser a 36 o leoedd rhan-amser. Felly bydd y ddau safle’n cadw darpariaeth ar gyfer addysgu plant 3-11 oed. Bydd rhieni, wrth wneud cais am le yn Ysgol Gynradd Pen-coed, yn gallu mynegi dewis o ran y safle yr hoffent i’w plentyn ei fynychu.

Mae’r trefniadau arfaethedig ar gyfer cludo disgyblion i’r Ysgol yn unol â Pholisi Cyhoeddedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Gludo Disgyblion i’r Ysgol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr Ysgol.

Mae Paragraff 7(1)-(2) yn Atodlen 6 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cynnwys amod sy’n caniatáu i unrhyw un, o fewn cyfnod o ddau fis yn dilyn dyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef erbyn 12 Ionawr 2011, wrthwynebu’r cynigion. Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AR.

O fewn un mis i ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn anfon copïau at Weinidogion Cymru o’r holl wrthwynebiadau a wnaed (ac nas tynnwyd yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r Awdurdod arnynt.

Bydd angen i’r cynigion (oni chânt eu tynnu’n ôl) gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru dan yr amgylchiadau canlynol:

a) os bydd Gweinidogion Cymru, o fewn dau fis i anfon copi o’r cynigion atynt, yn hysbysu bod gofyn cael cymeradwyaeth o’r fath i’r cynigion; neu

b) os oes gwrthwynebiadau wedi cael eu gwneud yn ystod y cyfnod gwrthwynebu a’r rheiny heb gael eu tynnu’n ôl yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os nad oes gofyn cael cymeradwyaeth o’r fath i’r cynigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd yn penderfynu a ddylid eu gweithredu ai peidio.

Ms Hilary Anthony

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Plant

12 Tachwedd 2010

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw hwn yn rhan o’r hysbysiad, ond mae wedi’i fwriadu i egluro’i bwrpas cyffredinol)

Effaith y cynnig fyddai bod Ysgol Gynradd Heol-y-Cyw yn cau ar ddiwedd Tymor yr Haf 2011 ond bod yr adeilad yn cael ei gadw fel rhan o Ysgol Gynradd Pen-coed. Bydd plant sydd ar hyn o bryd yn mynychu Heol-y-Cyw yn gallu parhau â’u haddysg ar y safle hwnnw, os mai dyna yw dymuniad eu rhieni, tan ddiwedd tymor yr haf 2014 neu nes bydd adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-coed wedi cael eu cwblhau, os cyflawnir hyn cyn y dyddiad hwn. Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd os na fydd yr adeiladau newydd ar safle Pen-coed ar gael tan rywbryd ar ôl Medi 2014. Byddai dalgylch Ysgol Gynradd Heol-y-Cyw yn cael ei ymgorffori yn nalgylch Ysgol Gynradd Pen-coed ar ddechrau Tymor yr Hydref 2011 a bydd yn gwasanaethu’r disgyblion o ddalgylchoedd traddodiadol Ysgol Gynradd Heol-y-Cyw ac Ysgol Gynradd Pen-coed.

Y nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-coed yw 60. Byddai hwn yn newid pe bai a phan fyddai’r ysgol yn gweithredu o safleoedd Pen-coed a Heol-y-Cyw. Mae’r nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer ysgol yn cyfeirio at nifer y disgyblion 4/5 oed y byddai’n ofynnol i’r ysgol eu derbyn pe derbynnid digon o geisiadau am leoedd.

Mae polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gludo plant i’r ysgol i’w gael o fewn y llyfryn “Dechrau yn yr Ysgol” neu ar y wefan www.bridgend.gov.uk.