Ceisio safbwyntiau ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Cyflwyniad
Fel awdurdod lleol yng Nghymru, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP). Pwrpas y cynllun yw dangos pa gamau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle tecach.
Yn y cynllun mae'n rhaid i ni gynnwys cyfres o amcanion cydraddoldeb (rhai o'r pethau yr ydym yn bwriadu eu gwneud) a fydd yn dangos sut y mae'r Cyngor yn bwriadu hybu cyfle cyfartal i bawb a sut y mae'n amcanu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r rheiny sy'n byw ac yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym wedi ystyried pethau y mae pobl wedi dweud wrth y Cyngor eu bod yn bwysig iddynt hwy o ran cydraddoldeb a thegwch, ac mae hyn wedi ein helpu i ddatblygu 9 amcan cydraddoldeb drafft. Cyn i ni roi'r amcanion hyn yn ein cynllun, fe hoffem wybod beth ydych chi'n ei feddwl ohonynt.
Pam ydyn ni'n ceisio eich safbwyntiau?
Mae angen eich safbwyntiau chi er mwyn helpu i sicrhau, pan fydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol yn cael ei gyhoeddi, ei fod yn cynnwys yr amcanion cywir ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Sut allwch chi wneud eich safbwyntiau'n hysbys?
- Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein trwy glicio yma.
- Gellir cael copïau o'r arolwg o'r lleoliadau canlynol hefyd:
- yn swyddfeydd y Cyngor yn Stryd yr Angel ac yn Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr
- yn un o'n llyfrgelloedd
- yn un o'n canolfannau hamdden
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich arolwg, gallwch ei roi yn ôl i aelod o staff neu ei bostio i'r cyfeiriad isod:
Paul Williams
Adnoddau Dynol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cwrt y Cigfrain
Lôn y Bragdy
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AP
Y cyfnod ymgynghori
Bydd yr arolwg ar-lein ar gael tan ddydd Llun 30 Ionawr 2012.
Beth yw'r camau nesaf?
Byddwn yn defnyddio'r adborth i ddatblygu fersiwn terfynol y cynllun. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i gael ei gymeradwyo ar 6 Mawrth 2012. Yn dilyn ei gymeradwyo, bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gyhoeddi ar 2 Ebrill 2012.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol cysylltwch â Paul Williams neu Rhiannon Crocombe yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643212 neu drwy anfon neges e-bost i: consultation@bridgend.gov.uk
Ionawr 2012
- Last Updated: 10/01/2012
- Rate this page
- Back to top







