Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cyfrifiad 2011: 27 Mawrth 2011

Helpu i lunio'r dyfodol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal cyfrifiad er mwyn cael gwybod rhagor am y bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr, ac am nodweddion cymdogaethau lleol.

Cynhelir y cyfrifiad nesaf ar 27 Mawrth 2011.

Bydd SYG yn anfon holiaduron i 25 miliwn o gartrefi er mwyn iddynt gael eu llenwi. Bydd yr holiaduron yn cynnwys cwestiynau am waith, iechyd, hunaniaeth genedlaethol, dinasyddiaeth, cefndir ethnig, addysg, ail gartrefi, iaith, statws priodasol ac ati.

Cyfrifiad

Caiff yr atebion eu troi'n ystadegau a gaiff eu defnyddio i greu darlun o'r gymdeithas heddiw.

 

Pam y dylai hwn fod yn bwysig i chi? 

Fel pob awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, rydym yn dibynnu ar ystadegau poblogaeth y cyfrifiad i nodi'r anghenion lleol am wasanaethau cyhoeddus. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng ariannu'r llywodraeth ganolog a'r nifer a'r mathau o bobl sy'n byw yn ein hardal yn ôl ystadegau'r cyfrifiad. Felly, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o gartrefi a adawyd allan yn y cyfrifiad, gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Rhaid i'r cyfrifiad gynnwys pawb, ym mhobman - a dyna pam mae'n rhaid i bawb gymryd rhan.

Beth fydd yn rhaid i chi ei wneud?

Mae'n syml.  Pam ddaw'r amser, atebwch rai cwestiynau amdanoch chi'ch hun ac am y bobl sy'n rhannu eich cartrefi chi ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef 27 Mawrth 2011. Bydd popeth a rannwch yn y cyfrifiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol a'i ddefnyddio dim ond er mwyn creu ystadegau. Ni fydd SYG yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw adran arall o'r llywodraeth nac unrhyw sefydliad arall.

Byddwch yn gallu ei wneud ar lein. Byddwch yn gallu ei wneud drwy'r post. Ond mae'n rhaid i chi ei wneud. Os bydd angen help neu gyngor arnoch, cewch weld popeth a fydd ei angen arnoch ar lein a thrwy linell gymorth y cyfrifiad o 4 Mawrth 2011 ymlaen.

Mae'n rhaid i bawb gymryd rhan yn y cyfrifiad er mwyn helpu i lunio'r dyfodol - a dyma fydd eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cyfrifiad.gov.uk