Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

A wyddech chi?


O bentrefi coll i drigolion enwog a thwyni lleol yn cael eu defnyddio fel lleoliadau ar gyfer y ffilm Lawrence of Arabia, dyma rai ffeithiau difyr am Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bwlch

Mae preswyliad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyddio’n ôl 5,000 o flynyddoedd i’r Cyfnod Neolithig. Erbyn 500CC, roedd Celtiaid lleol yn adeiladu bryngaerau’r Oes Haearn, a bu’r Rhufeiniaid yn llywodraethu yma am 400 mlynedd cyn gadael Prydain yn y 5ed Ganrif.

   

O’r 9fed Ganrif tan yr 11eg Ganrif, bu Llychlynwyr yn ysbeilio’r arfordir o’u canolfannau ar ynysoedd Echni a Ronech ym Môr Hafren. Yn ddiweddarach fe adeiladodd y Normaniaid gyfres o Gestyll gan gynnwys Castell Coety, Castell Ogwr a’r Castell Newydd.

   

Yn y Canol Oesoedd, byddai Pererinion yn aros yn nhref Pen-y-bont ar eu ffordd i gysegrfa Dewi Sant yn Nhyddewi yng Ngorllewin Cymru. Cafodd y dref ei henwi ar ôl pont a godwyd ym 1425 i gysylltu glannau gogleddol a deheuol yr afon Ogwr. Cafodd dau o’i bwâu eu dymchwel gan lifogydd ym 1775 a bu’n rhaid ailgodi’r bont.

   

Roedd neuadd farchnad Fictoraidd yn y dref ar un adeg. Er bod hon wedi cael ei dymchwel, mae cloch wreiddiol y farchnad yn dal ynghrog yng nghanolfan siopa’r Rhiw.

   

Defnyddiwyd y twyni tywod ym Merthyr Mawr fel lleoliadau ffilmio ar gyfer y ffilm a ryddhawyd ym 1962 ac a enillodd wobr Oscar, Lawrence of Arabia. Hefyd, cafodd y ffilm Solomon a Gaenor, a ryddhawyd ym 1999 ac a enwebwyd am wobr Oscar, ei ffilmio yng Nghwm Ogwr.

   

Ym mhentref pen bryn Llangynwyd, ger Maesteg, y mae’r dafarn to gwellt hynaf yng Nghymru, ac mae 350 math o wisgi ar gael yno. Yno hefyd y ganed y bardd Celtaidd Wil Hopcyn, y cofir am ei gariad trychinebus at ferch leol, Ann Thomas, yn yr hen chwedl Gymreig, Y Ferch o Gefn Ydfa.

   

Byddai glo a haearn o gymoedd Garw, Ogwr a Llynfi’n cael eu hallforio ledled y byd trwy borthladd pwysig Porthcawl, a sefydlwyd ar ddechrau’r 18fed Ganrif.

   

Llangeinwyr yng Nghwm Garw oedd man geni’r Dr. Richard Price, y bu i’w syniadau a’i ysgrifau ysbrydoli Cyfansoddiad America.

   

Ym 1945, torrwyd twnnel gan 70 o garcharorion rhyfel Almaenig a’i defnyddiodd wedyn i ddianc o Wersyll 198 yn Fferm yr Ynys – yr ymgais mwyaf i ddianc gan Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe gipiwyd pob un ohonynt drachefn.

   

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn denu tair miliwn a hanner o ymwelwyr bob blwyddyn.

Yn leol

External Links