Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
|
|
| |
Amdanom ni
Sut y mae’r Cyngor yn gweithio
Sut y mae’r Cyngor wedi’i drefnu
Y dreth gyngor a gwasanaethau
Demograffeg
Sut i ddod o hyd inni
Yr economi leol
Amdanom ni |
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod unedol sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau allweddol ar gyfer oddeutu 133,000 o bobl. Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle y mae pobl ifanc yn dymuno byw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef. A hithau wedi’i phenodi ym mis Ionawr 2007, mae’r Prif Weithredwr, Jo Farrar, am i’r Cyngor fod yn sefydliad modern a chanddo enw da am ddarparu’r gwasanaethau gorau yng Nghymru. Caiff hyn ei gyflawni trwy wella’r modd y cyflenwir gwasanaethau ar gyfer pobl leol a chael trefn well ar gyfer rheoli perfformiad. Mae’r Cyngor wrthi’n cyflawni Rhaglen fawr o Newid ac mae ganddo Gynllun Gwella Corfforaethol sy’n nodi pum maes y rhoddir blaenoriaeth iddynt wrth wella perfformiad y Cyngor a sicrhau bod y gwasanaethau priodol yn cael eu darparu ar gyfer y bobl briodol ar yr adeg briodol. |
Y saith maes y rhoddir blaenoriaeth iddynt yw: | ||
|
Creu Cymunedau sy’n Dysgu | |
|
Plant Heddiw, Oedolion Yfory | |
|
Gwireddu Potensial ein Prif Drefi | |
|
Cyfoethogi Ein Cymoedd | |
|
Gofal i’r Dyfodol: Ailfodelu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion | |
|
Economi Amrywiol a Chynaliadwy | |
|
Rhoi Cymorth i’n Cymunedau Difreintiedig | |
Ceir mwy o wybodaeth am y saith maes y rhoddir blaenoriaeth iddynt yn y Crynodeb o’r Cynllun Gwella Corfforaethol. | ||
Sut y mae’r Cyngor yn gweithio | ||
Mae 54 o gynghorwyr etholedig sy’n cynrychioli trigolion y fwrdeistref sirol: | ||
|
Llafur |
27 |
|
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
11 |
|
Annibynnol |
7 |
|
Plaid Cymru |
1 |
|
Y Ceidwadwyr |
6 |
|
Independent |
2 |
Mae gan yr awdurdod weithrediaeth sydd ar ffurf Arweinydd a Chabinet a phob blwyddyn bydd y Cyngor yn ethol Arweinydd ac yn penodi aelodau ar gyfer y Cabinet. Mae’n rhaid i’r Cabinet wneud penderfyniadau sy’n gyson â fframwaith cyllideb a fframwaith polisi’r Cyngor. Os yw’n dymuno gwneud penderfyniad nad yw’n gyson â’r fframwaith cyllideb neu’r fframwaith polisi, mae’n rhaid i hwn gael ei gyfeirio at y Cyngor cyfan sydd wedyn yn gwneud penderfyniad. Caiff proses graffu ei chynnal mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir gan y Cabinet. Yn dilyn etholiadau’r Fwrdeistref Sirol ym mis Mai 2008, fe ffurfiwyd Cabinet a hwnnw’n cynnwys cynghorwyr Llafur. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am strwythur y Cyngor a sut y mae’n gweithio | ||
Sut y mae’r Cyngor wedi’i drefnuMae’r Bwrdd Rheolaeth Gorfforaethol, dan arweiniad y Prif Weithredwr, yn goruchwylio’r gwaith o redeg y Cyngor o ddydd i ddydd. Caiff oddeutu 7500 aelod o staff eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau neu gomisiynu trefniant i ddarparu gwasanaethau yn y Fwrdeistref Sirol. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill i ddarparu gwasanaethau. Mae’r Cyngor wrthi’n cyflawni rhaglen foderneiddio i wella’r modd y darperir gwasanaethau lleol. Mae rhan o’r rhaglen hon wedi golygu newid strwythur y Cyngor er mwyn ei gwneud yn bosib i wasanaethau fod yn fwy ymatebol i anghenion trigolion a busnesau’r Fwrdeistref a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal. Mae pedair cyfarwyddiaeth – ac mae gan bob un Gyfarwyddwr ac uwch dîm rheoli bychan sy’n gyfrifol am arwain a rheoli’r broses o ddarparu gwasanaethau: | ||
|
|
|
|
|
|
|
Mae’r strwythur hwn wedi’i fwriadu i gyflawni’r canlynol: | |
|
Adlewyrchu blaenoriaethau’r Cyngor yn well. |
|
Gwneud y Cyngor yn fwy effeithlon o ran y modd y mae’n defnyddio adnoddau ac o ran costau rheoli. |
|
Creu cyfleoedd gwell ar gyfer rhyngweithio mwy effeithiol rhwng gwasanaethau yn yr awdurdod a’i gilydd a rhwng y gwasanaethau hynny ac asiantaethau sy’n bartneriaid – er enghraifft trwy ddod â’r holl wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc at ei gilydd mewn un gyfarwyddiaeth. |
Demograffeg
Gyda’i harfordir ar lan Môr Hafren a’i chymysgedd o gymunedau trefol a gwledig, gorwedd y FwrdeistrefS yng nghanol de Cymru. Mae ei harwynebedd tir o 28,500 hectar yn ymestyn 20km o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn meddiannu cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr boblogaeth o ychydig dros 128,000. Pen-y-bont yw’r dref fwyaf (pob: 39,773), Maesteg yw’r ail fwyaf (20,700) a chyrchfan lan-môr Porthcawl yw’r drydedd fwyaf (pob: 19,238). *
Cyfrifiad 2001
Gwybodaeth o Gyfrifiad 2001 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Sut i ddod o hyd inni
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau rheilffyrdd o’r radd flaenaf ac mae o fewn 12 milltir yn unig i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Ceir mynediad rhwydd i ac o Ben-y-bont ar Ogwr ar hyd traffordd yr M4 – mae tair cyffordd ar yr M4 yn cynnig mynediad i Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae Pen-y-bont yn un o’r prif orsafoedd a wasanaethir gan drenau cyflym First Great Western rhwng Llundain Paddington ac Abertawe.
Sut i ddod o hyd i swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr economi leol
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau rhai o’r prosiectau buddsoddiad cyfalaf mwyaf yng Nghymru megis Gwaith Adeiladu Injans Ford ym Mhen-y-bont, ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol wedi’u lleoli yn yr ardal gan gynnwys Logica, Lloyds TSB, Harman International a Rockwool.
Mae nifer o gwmnïau a berchenogir yn y DU a chwmnïau tramor wedi cael eu denu i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn barod i ailfuddsoddi yn yr ardal, yn bennaf oherwydd ei lleoliad delfrydol o safbwynt busnes, hyblygrwydd y gweithlu a’r ystod o gymhellion sydd ar gael.
I gael mwy o wybodaeth am yr economi leol, ewch i dudalennau’r Uned Datblygu Economaidd.
- Last Updated: 25/06/2009
- Rate this page
- Back to top










