|

Inspire
Annog… cyffroi… tanio… ysbrydoli
Pafiliwn y Grand, Porthcawl
Llun 21 – Gwener 25 Chwefror 2011

Bydd y digwyddiad dynamig ac unigryw hwn yn ysbrydoli cenedlaethau o bob rhan o Gymru!
Mae’n addas i bobl ifanc rhwng 12 a 25 oed, a gallant ymuno â gweithdai mewn drama, dawns, a gyrfaoedd ym myd y ffilmiau a theledu.
Cewch fwynhau perfformiad arbennig ar nos Wener 25 Chwefror, a fydd yn cynnwys y perfformiadau cyntaf yn y byd o waith newydd gan Ddawns Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a pherfformiadau gan Ddawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru a Chymdeithion Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Bob dydd, bydd gwybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ar gael a bydd arddangosfa ffotograffiaeth ddynamig gan Roy Campbell-Moore o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys delweddau o’r archif o gyn-aelodau o Gelfyddydau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’u gyrfaoedd presennol yn y diwydiannau creadigol.
I gael y manylion yn llawn, trowch drosodd. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!
Trefnir gan Adran Datblygu’r Celfyddydau a Chymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ariennir gan Ddawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac It’s My Shout.
Inspire
Annog… cyffroi… tanio… ysbrydoli
Dydd Llun 21 Chwefror – dydd Gwener 25 Chwefror
Gwybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol (rhad ac am ddim)
Arddangosfa ffotograffig gan Roy Campbell–Moore (rhad ac am ddim)
Dydd Mawrth 22 Chwefror o 10am – 4pm
Gweithdy mewn dawns gyfoes gyda Dawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru (14 oed +)
Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i bobl ifanc dreulio diwrnod yn dawnsio, yn creu ac yn perfformio. Mae’n gyfle gwych i gael cipolwg ar y llwybrau gyrfa a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i ddawnswyr ifainc. Gwisgwch ddillad addas os gwelwch yn dda.
Dydd Iau 24 Chwefror o 1pm – 5pm
Gweithdy ffilmiau a theledu
Yn ystod y gweithdy hwn bydd criw It’s My Shout yn rhoi cipolwg i chi ar yr amrywiaeth o rolau a dewisiadau gyrfa sydd ar gael ym myd y ffilmiau a theledu yng Nghymru. Byddwch yn cael cipolwg ymarferol ar rolau gan gynnwys actio, ysgrifennu sgriptiau, cyfarwyddo, cynhyrchu, colur a dylunio setiau. Mae llawer o bobl ifanc a fu’n rhan o gynllun It’s My Shout wedi mynd ymlaen i fod yn ffigyrau llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau a theledu, ar y sgrîn a thu ôl i’r llenni.
Nos Wener 25 Chwefror am 7pm
Perfformiad Inspire
Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau darn newydd o waith gan Theatr a Dawns Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a pherfformiadau gan Ddawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru a Chymdeithion Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Pris am bob gweithdy:
£5 / £3 (Aelodau Dawns Ieuenctid a Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae angen archebu lleoedd ymlaen llaw gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd
Perfformiad Inspire:
£6 / £5 consesiynau
I archebu eich lle mewn gweithdy neu i brynu tocynnau,
ffoniwch Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Grand ar: 01656 815995



|