Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal o newid dynamig sydd wedi’i lleoli ar hyd coridor yr M4 ym mherfeddion economi De Cymru, gan gwmpasu’r Arfordir Treftadaeth yn y de a’r cymoedd darluniaidd yn y gogledd.
Mae gan y fwrdeistref sirol gymysgedd cryf o ddiwydiannau yn y sector gweithgynhyrchu a’r sector gwasanaethau a’r rheiny’n atgyfnerthu ein nod o weithio tuag at ddatblygu cynaliadwy ar gyfer economi leol sy’n tyfu. Mae’r ardal wedi denu buddsoddiadau allanol mawr ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae cynnydd mawr wedi bod ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn cyflogaeth yn y sector gwasanaethau a datblygiadau swyddfeydd cysylltiedig. Priodolwyd hyn i isadeiledd gwych yr ardal, cysylltiadau da ac ansawdd y llafurlu.
Gall Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnig:
• Cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog; yr M4, porthladdoedd cyfagos, y llinell reilffordd o Lundain i Abertawe a thaith fer i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
• Economi sy’n tyfu ac yn ffynnu
• Agwedd gadarnhaol tuag at fusnesau lleol a buddsoddiadau allanol
• Rheolaeth o ansawdd a chynhyrchiant uchel
• Uned datblygu economaidd wedi’i neilltuo i’r pwrpas hwnnw
• Pecyn deniadol o fanteision ariannol
• Tir fforddiadwy, adeiladau o ansawdd a chyfraddau cystadleuol
• Hanes profedig o lwyddiant
Pen-y-bont ar Ogwr...lle mae busnes yn gweithio!
|